Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Derbynnydd
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithio fel derbynnydd yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Nant Y Glyn.
Pwrpas y swydd hon yw darparu gwasanaeth gweinyddu a derbynfa effeithlon a chynhwysfawr ar gyfer y gwasanaeth.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â'r tîm amlddisgyblaethol ac yn cefnogi cynnig gofal di-dor i boblogaeth Gogledd Cymru.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu cefnogaeth derbynfa a chlercyddol cynhwysfawr i'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl. Dangos arddull gwrtais, proffesiynol a sensitif bob amser. Disgwylir i ddeilydd y swydd flaenoriaethu a rheoli ei amser ac arddangos hyblygrwydd bob amser.
Bod yn rhan o swyddogaeth weinyddol gydlynol ac integredig i'r gwasanaeth. Yn sgil natur y dyletswyddau, bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd gadw cyfrinachedd a bydd disgwyl iddo/iddi ddelio â chleifion, gofalwyr, perthnasau, staff meddygol /clinigol a defnyddwyr gwasanaeth eraill, dros y ffôn ac ar bapur, a hynny’n gwrtais a chan ddefnyddio doethineb bob amser.
Mae'r gallu siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Chymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Safon dda o addysg - TGAU Mathemateg a Gradd Saesneg Gradd C neu gyfatebol
- NVQ Lefel 2 Gwasanaeth Cwsmer / Gweinyddu Busnes, neu wybodaeth a phrofiad cyfatebol, neu'n barod i weithio tuag at
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am ystod o brosesau gweinyddol
Cymhwyster a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Gallu gweithredu o dan bwysau a bodloni terfynau amser
- Gwybodaeth dda o gymwysiadau TG a Windows
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Approachable and Professional wrth ddelio gyda phobl a gallu delio â sefyllfaoedd anodd / emosiynol
- Y gallu i weithio ar ei ben ei hun neu fel aelod o dîm
- Agwedd hyblyg tuag at ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Arall
Meini prawf hanfodol
- Modd ffôn gyfeillgar ac effeithlon
- Cyflwyniad Personol Smart
- Gallu teithio i ateb gofynion y swydd
- Siaradwr Cymraeg lefel 3 neu uwch
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ann-Marie Corrie
- Teitl y swydd
- Administration Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01745 488788
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector