Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllfa
- Gradd
- Gradd 8b
- Contract
- Cyfnod Penodol: 1 flynedd
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-PST107-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Feddygol West End
- Tref
- Bae Colwyn
- Cyflog
- £59,857 - £69,553 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Fferyllydd Arweiniol Clinigol
Gradd 8b
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Maer'r swydd hon am gyfnod penodol 12 mis oherwydd. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Ydych chi'n fferyllydd clinigol sy'n gweithio ar lefel uwch mewn rôl sy'n canolbwyntio ar gleifion mewn gofal sylfaenol?
A oes gennych ddiddordeb yn datblgu'r genhedlaeth bresennol a nesaf o ymarferwyd Gofal Sylfaenol boed hynny'n Nyrs, Meddyg, Ffisiotherapydd, Fferyllydd, Therapydd Galwedigaethol, Cydymaith Meddygol neu Barafeddyg?
Ydych chi'n arweinydd clinigol fferylliaeth yn y dyfodol ac â diddordeb mewn datblygu eich ymarfer clinigol uwch eich hun?
A ydych yn mwynhau addysgu a mentora eraill tra’n parhau i wneud eich gwaith dyddiol fel Fferyllydd?... Gallai hon fod yn swydd ddelfrydol i chi!
Byddwch yn rhan o Dîm sy'n llunio'r dyfodol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn Gogledd Cymru.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol yng ngogledd Cymru, gyda Chanolfan Feddygol West End, wrthi’n datblygu Canolfan Hyfforddi Ymarferwyr Amlddisgyblaethol i gynnig cyfleoedd hyfforddi a dysgu ar gyfer y genhedlaeth bresennol a’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr gofal cychwynnol a chymunedol.
Lleolir Canolfan Feddygol Westend ym Mae Colwyn, gyda maint rhestr o 18,400 o gleifion. Newydd ei uno o i Feddygfeydd o fewn yr un adeilad, mae Canolfan Feddygol West End yn canolbwyntio ar ddarparu model cymdeithasol o ofal ac mae ganddi dîm aml-Ddisgyblaeth gan gynnwys meddygon teulu, Nyrsys, Ffisiotherapyddion a Fferyllwyr. Mae'r arfer hefyd yn symud tuag at recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill megis Parafeddygon Ymarfer Uwch a Meddygon Associates.
Bydd y Tîm Hyfforddi hefyd yn cynnwys meddygon teulu. Bydd y Tîm yn cydweithio i gyflawni ystod o gyfleoedd hyfforddiant, addysg a gwella sgiliau yn y Ganolfan Feddygol, yn rhanbarthol fel aelodau o gyfadran yr Academi a bydd yn hyrwyddo a chwblhau ymchwil clinigol yn y feddygfa.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Fferyllydd cofrestredig â'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- Gradd meistr neu gyfwerth mewn fferylliaeth
- Diploma ar ôl-raddedig/MSc mewn maes perthnasol/arbennigol neu rhaglen gredydu/profiad wedi'i ddogfennu cyfwerth ym maes perthnasol
- Rhagnodwr Annibynnol
Meini prawf dymunol
- Profiad o arwain ar a darparu ymchwil
- Cymhwyster dysgu/asesu
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd amlddisgyblaethol
- Lefel sylweddol o brofiad ar ôl cael cymhwyster mewn gofal cychwynnol
- Profiad o diwtora/mentora ar lefel uwch ymarfer/ ôl-raddedig yn y maes clinigol arbenigol
Meini prawf dymunol
- Profiad o ymarfer fel Ymarferydd Rhagnodi Dynodedig (YRD)
Skills
Meini prawf hanfodol
- Profiad fel rheolwr gweithredol
- Dangos y gallu i weithio mewn partneriaeth effeithiol
- Sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig arbennig
Personnal Attributes
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o sgiliau arwain a'r gallu i ddylanwadu a thrafod gyda'r gwasanaeth a rhanddeiliaid allanol
- Cyfathrebwr da, brwdfrydig, a gallu gweithio fel aelod o dîm
- Brwdfrydedd tuag at hyfforddiant
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Clare Hughes
- Teitl y swydd
- Training Hub Development Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07773235280
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector