Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynghorydd Trais Rhywiol Plant a Phobl Ifanc (CYPSVA)
Gradd 6
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 11 MIS OHERWYDD CYLLIDO.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae'r Ganolfan Gyfeirio Dioddefwyr Troseddau Rhyw Amethyst yn bartneriaeth rhwng Heddlu Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac asiantaethau Trydydd Sector. Mae'n darparu cefnogaeth i ferched, dynion a phlant o Ogledd Cymru sydd wedi cael eu treisio neu ddioddef ymosodiad rhywiol. Nod y Ganolfan yw cynnig agwedd gynhwysfawr at drais neu ymosodiad rhywiol.
Mae cyfle cyffrous i Eiriolwr Trais Rhywiol Plant a Phobl Ifanc, fel contract cyfnod penodol at ddiwedd mis 20/12/2025.
Mae'r swydd yn golygu darparu gwaith cefnogi achos ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc sydd wedi dioddef ymosodiad neu gam-drin rhywiol, gan chwarae rôl allweddol mewn sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed a bod ei anghenion yn greiddiol i'r broses.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu gwasanaeth eirioli o fewn SARC Amethyst, i blant a phobl ifanc sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol neu gam-drin rhywiol yng Ngogledd Cymru. Bydd deiliad y swydd yn rhoi cefnogaeth hollgynhwysol i blant a phobl ifanc ar yr un pryd â sicrhau bod gweithdrefnau amddiffyn plant yn cael eu dilyn o fewn gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu, Addysg, Gwasanaeth Erlyn y Goron ac Asiantaethau Gwirfoddol i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi drwy’r prosesau amddiffyn plant, cyfiawnder troseddol a’r prosesau cefnogi dilynol.
Bydd deiliad y swydd yn blaenoriaethu, asesu, cynllunio, gwerthuso ac yn darparu pob rhan berthnasol o’r gofal hyd at y lefel y cytunwyd ac y disgwylid. Byddant yn gweithio’n agos gyda’r tîm amlddisgyblaeth ac yn cyfrannu tuag at y broses reoli glinigol.
Bydd yn ofynnol cael sgiliau cyfathrebu ardderchog, agwedd hyblyg, gallu gweithio ar eich liwt eich hun a gydag ystod eang o asiantaethau partner, a dealltwriaeth o effaith ymosodiad rhywiol. Mae ymrwymiad gwirioneddol at weithio gyda'r grŵp cleient hwn ac angerdd am y maes gwaith yn hanfodol.
Bydd yn hanfodol i ddeilydd y swydd allu teithio ledled Gogledd Cymru.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn y broses gyfweld gael gwiriadau gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol a'r Heddlu cyn cael eu penodi.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Stephanie Williams 01492 805384
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Prif Ddyletswyddau
· Ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sy’n mynychu SARC, eu teuluoedd a’u gofalwyr, gan gymryd eu hanghenion, eu cefndir, eu hawliau a’u hamgylchiadau cyfredol i ystyriaeth a meithrin ffydd, hyder a hwyluso cyfathrebu.
· Hysbysu’r plentyn, person ifanc a’u rhieni/gofalwyr o gyd-destun y gwasanaethau o ran fframweithiau amddiffyn plant a chyfiawnder troseddol.
· Galluogi a rhoi’r grym i blant a phobl ifanc sy’n mynychu SARC gymryd cyfrifoldeb priodol am eu penderfyniadau eu hunain a sicrhau bod gwybodaeth a chyngor perthnasol a chyfredol ar gael bob amser, fel y gallant wneud dewisiadau gwybodus.
· Cysylltu â rhiant a/neu ofalwr y plentyn neu berson ifanc o fewn 72 awr iddynt fynychu SARC i gynnig gwasanaeth eirioli.
· Darparu cefnogaeth wyneb yn wyneb a dros y ffôn i’r plant, pobl ifanc a’u teuluoedd/gofalwyr yn y tymor byr a’r hirdymor.
· Asesu anghenion emosiynol ac iechyd y plentyn/person ifanc a gwneud atgyfeiriadau priodol.
· Cysylltu â’r heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol, ar ran y plentyn, person ifanc, rhiant/gofalwr, gan gydymffurfio â’r polisi cyfrinachedd o ran rhyddhau gwybodaeth.
· Cefnogi’r cleientiaid yn ystod y treial ar y cyd â gwasanaethau eraill a threfnu iddynt ymweld â’r llys o flaen llaw os bydd angen.
· Cysylltu â’r swyddog ymchwilio i gael datganiadau tystion, gwybodaeth am ddatblygiad yr achos a chanlyniad y llys.
· Cysylltu â Gwasanaeth Erlyn y Goron i gael gwybodaeth am ddatblygiad yr achos a chyfathrebiadau â’r cleient. Pan ar gael, tîm trais rhywiol GEG fydd hyn ac fe drafodir a hwylusir os bydd angen gyfarfodydd rhwng y cleientiaid a GEG o ran canlyniadau cyfiawnder troseddol fel yn ôl cyfarwyddyd arfer da GEG.
· Cynnal cofnodion a systemau olrhain achosion mewn perthynas ag achosion y plant a’r bobl ifanc.
· Cymryd rhan mewn adolygiadau cynadleddau achosion yn ôl yr angen.
· Cymryd rhan mewn arferion goruchwylio yn rheolaidd
· Gweithio fel rhan o’r tîm amlddisgyblaeth o fewn SARC i ddarparu gofal a chefnogaeth o ansawdd uchel a chyfrannu tuag at ddatblygu gwasanaethau.
· Cydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant.
· Mynychu hyfforddiant a chyrsiau datblygu staff ac asiantaethau partner eraill yn ôl yr angen a helpu i sicrhau amgylchedd dysgu symbylol.
· Ystyried materion amddiffyn plant wrth ymgysylltu â chleientiaid a chydymffurfio â’r holl bolisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant.
· Dirprwyo ar gyfer rheolwr SARC ar sail dydd i ddydd pan fydd y rheolwr yn absennol.
· Cydymffurfio â holl bolisïau’r Bwrdd Iechyd
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymwysterau
Meini prawf dymunol
- Cymwysterau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad
Meini prawf dymunol
- Profiad
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau
Meini prawf dymunol
- Sgiliau
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Rhinweddau Personol
arall
Meini prawf hanfodol
- arall
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Heather Robertshaw
- Teitl y swydd
- Children & Young Person's Sexual Violence Advisor
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01492805384
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector