Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Community Hospital
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 36 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS230-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Dinbych
- Tref
- Dinbych
- Cyflog
- £23,970 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi codi i unigolyn brwdfrydig ymuno â’n Tîm Ysbyty Cymuned i ddarparu gofal medrus, clinigol ac effeithiol. Mae Ward Mamau yn Inffyrmari Dinbych yn ward gyda 23 gwely sy’n darparu adsefydlu a gofal diwedd oes.
Bydd deilydd y swydd yn cefnogi’r nyrs hyfforddedig a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill i ddarparu gofal o safon uchel sy’n canolbwyntio ar y claf.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cynorthwyo'r nyrs gofrestredig / ymarferydd i ddarparu cyfannol o safon uchel i gleifion, gan sicrhau bod urddas cleifion a chydraddoldeb yn cael ei gynnal bob amser.
Sicrhau bod yr egwyddorion a amlinellir yn yr Hanfodion Gofal yn cael eu hymgorffori mewn arfer bob dydd i sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel i gleifion a chleientiaid
Cynorthwyo'r cleifion i gynnal eu hylendid a'u hymddangosiad personol
Cyflawni dyletswyddau o fewn y cynllun gofal wedi’u dirprwyo gan ymarferydd cymwys, dim ond os yw wedi derbyn hyfforddiant ac asesiad perthnasol
Paratoi wardiau/mannau clinigol ar gyfer derbyn cleifion trwy wneud yn siŵr bod y lle yn lân a thaclus - cynorthwyo i gadw'r safonau yn y man clinigol a hysbysu'r unigolyn priodol am unrhyw annibendod/ llanast.
Cynorthwyo i dderbyn cleifion newydd i’r adran trwy baratoi ardal y gwely/troli, croesawu’r claf, ei helpu i’r gwely/man arall, a dangos cleifion o amgylch y ward.
Cwblhau cardiau bwydlenni cleifion gan gynnwys y claf yn y broses, a chymryd i ystyriaeth unrhyw gyfarwyddiadau gan nyrs gymwysedig o ran diet.
Cymryd rhan mewn amseroedd prydau bwyd wedi’u neilltuo i gleifion gan wneud yn siŵr bod cleifion yn cael eu prydau/diodydd yn ddiogel ac mewn pryd, a sicrhau bod dwylo’r cleifion wedi’u golchi a bod yr amgylchedd yn addas ar gyfer bwyta e.e. paratoi’r lle o gwmpas y gwely.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhifedd, llafar a llythrennedd sylfaenol
- Lefel 2 NVQ/QCF mewn iechyd a gofal cymdeithasol neu brofiad cyfatebol mewn amgylcedd iechyd neu ofal
Addasrwydd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Profiad sy'n ofynnol i gyflawni gofynion y swydd.
- Profiad o ddelio â'r cyhoedd o fewn amgylchedd iechyd neu ofal
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddelio â'r cyhoedd o fewn amgylchedd iechyd neu ofal
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Rhinweddau amlwg ychwanegol a all fod o fudd i'r swydd e.e. gofal, cydymdeimlad, galluoedd, cyfathrebu, gwroldeb ac ymroddiad.
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Chloe Williams
- Teitl y swydd
- Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850019
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector