Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Seicolegydd Clinigol
- Gradd
- Gradd 7/8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-PST038-0325
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- TBC
- Tref
- Sir Dinbych
- Cyflog
- £46,840 - £61,412 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Seicolegydd Clinigol
Gradd 7/8a
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Dyma gyfle cyffrous iawn i helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol er mwyn cynyddu mynediad i wasanaethau Seicoleg Glinigol a Seicoleg Iechyd Meddwl Oedolion yng Ngogledd Cymru. Byddwch yn ymuno ag Adran Seicoleg Glinigol a Gwasanaethau Seicolegol gofal eilaidd y GIG cyfeillgar a chroesawgar sydd yn tyfu, sydd â chysylltiadau clinigol a chysylltiadau ymchwil rhagorol gyda'r Ysgol Seicoleg ac Adran DClinPsych ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.
Bydd deilydd y swydd yn elwa hefyd o gysylltiadau BIPBC o fewn Gwasanaethau Seicoleg Glinigol a Seicoleg Iechyd Meddwl Oedolion BIPBC ar draws Gogledd Cymru, gyda chyfle ar gyfer ymchwil a rhwydweithio clinigol ar draws Gogledd Cymru a Chymru Gyfan. Bydd y deilydd yn cael ei gefnogi, ei fentora a'i reoli'n dda o fewn yr adran, gyda'r cyfle i gael cefnogaeth barhaus cymheiriaid, goruchwyliaeth, a hyfforddiant a datblygiad pellach.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae Gwasanaethau Seicoleg Glinigol a Seicoleg Iechyd Meddwl Oedolion yn dymuno penodi Seicolegydd Clinigol 8a sydd â chymwysterau a phrofiad addas, i weithio'n llawn amser yn TIMC Sir Ddinbych. Mae hon yn swydd 8a barhaol, a bydd deilydd y swydd yn gweithio fel rhan o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd integredig ar gyfer oedolion sydd ag anghenion iechyd meddwl cymhleth a difrifol. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd integreiddio'n dda a chydweithio â'i gydweithwyr yn y TIMC, gan ddarparu gwybodaeth ac arbenigedd seicolegol arbenigol i'r tîm. Bydd hyn yn cynnwys gweithio trwy eraill ar gyfer hyfforddiant, goruchwyliaeth, a gwaith fformiwleiddio yn ogystal â darparu mewnbwn clinigol uniongyrchol i gleientiaid. Bydd hefyd yn cynnwys mynychu cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol clinigol, cyfarfodydd cyfeirio (SPOA), a chyfarfodydd busnes TIMC, ac arweinyddiaeth strategol a chlinigol.
Gyda’r datblygiadau sydd yn digwydd yng Nghymru, mae hon yn adeg dda i ymuno â'n tîm. Mae croeso i chi gysylltu â ni am ragor o wybodaeth. Gellid ystyried y rôl hon ar gyfer swydd ddatblygu.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd Anrhydedd dda mewn Seicoleg. Yn gymwys i ennill statws Siartedig a'r BPS
- Cofrestriad HCPC fel Seicolegydd Clinigol
- Doethuriaeth Ol-radd mewn Seicoleg Glinigol (neu gyfwerth i'r rheiny a hyfforddodd cyn 1996) yn unol ag achrediad y BPS
- Hyfforddiant goruwchwyliaeth glinigol ar gyfer hyfforddeion Doethuriaeth
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant uwch mewn dylunio a methodoleg ymchwil
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o waith ymarfer seicoleg glinigol gymwysedig
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am amrywiaeth of agweddau therapiwtig perthnasol ar gyfer gwaith Iechyd Meddwl ac asesiadau
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Jean Ruddle
- Teitl y swydd
- Consultant Clinical Psychologist
- Rhif ffôn
- 03000 858999
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector