Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Nyrsio
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR750-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Clinig Iechyd Bae Cinmel
Tref
Bae Cinmel
Cyflog
£44,398 - £50,807 Y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Rheolwr Tîm - Tîm Imiwneiddio yn yr Ysgol

Gradd 7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Offeryn iechyd cyhoeddus yw brechu sy’n atal salwch difrifol, amddiffyn pobl, cymunedau a’r GIG yng Nghymru – Llywodraeth Cymru (2022) Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru.

Mae cyfle cyffrous a phrin wedi codi i arwain a rheoli yn weithredol tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgol Ardal HIP Canolog BIPBC yn cwmpasu Ardaloedd Conwy a Sir Ddinbych. Mae’r tîm imiwneiddio yn darparu gwasanaeth imiwneiddio rheolaidd a dal i fyny i blant a phobl ifanc, a ddarperir mewn ysgolion, clinigau cymunedol ac mewn cartrefi plant.

Mae'r swydd yn cael ei hysbysebu fel 22.5 awr yr wythnos. Byddai deiliad y swydd yn cael ei leoli yng Nghlinig Bae Cinmel a byddai disgwyl iddo deithio ar draws Conwy a Sir Ddinbych.

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth, rheolaeth, ac arbenigedd hynod weladwy a phroffesiynol i'r tîm imiwneiddio, gan sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir o ansawdd uchel.

Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth eang ym maes imiwneiddio plant a dealltwriaeth ehangach o anghenion iechyd y boblogaeth oedran ysgol, ar draws yr ardaloedd a gwmpesir gan y tîm. Byddwch yn datblygu perthynas waith ardderchog gyda Thimau Nyrsio Ysgol, cydweithwyr partner yn y Gwasanaethau Addysg ar draws yr Ardal a Thimau Iechyd Plant Lleol.

Bydd deiliad y swydd yn goruchwylio ac yn cydlynu lleoli aelodau'r tîm ac yn teilwra'r broses o gyflwyno Rhaglenni Imiwneiddio i leihau anghydraddoldebau a gwella'r nifer sy'n cael eu brechu.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch un gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "gwneud cais nawr" i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs gofrestredig NMC gyda chymwysterau priodol i' maes gwasanaeth a reolir
  • Datblygiad proffesiynol parhaus a datblygiad fel rheolwr
  • Gradd berthnasol
  • Cymhwyster rheoli cydnabyddedig a pherthnasol neu rhaid iddo gael ei gyflawni 1-2 flynedd o fod mewn swydd
Meini prawf dymunol
  • Profiad o fentora
  • Asesu a / neu addysgu

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o reoli ar fand 6 neu uwch
  • Profiad clinigol perthnasol
  • Hyfforddiant Amddiffyn / Diogelu Plant ar lefel 3
  • Datblygu'r gwasanaeth a / neu bolisi
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth a sgiliau rheoli arian a gallu
  • Tystiolaeth o reoli newid

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau arwain
  • Gallu blaenoriaethu gwaith i amserienni tynn
  • Cyfathrebu effeithiol ar lefel tim ag asiantaethau eraill a'r cyhoedd
  • Gallu cyfathrebu gan ddefnyddio amrywiol ffurfiau
  • Tystiolaeth o wneud newidiadau cadarnhaol sy'n gwella canlyniadau
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau ymchwll ac archwiliad
  • Sgiliau TG - ECDL neu gyfwerth

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster proffesiynol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol
  • Gwybodaeth gyfredol am Ddeddf y Plan a Gweithdrefnau Diogelu

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu dangos arweinyddiaeth gadarn, ddigyffro a phenderfynol bob amser gan gynnwys mewn argyfwng
  • Gallu i ddatrys problemau a gallu addasu i sefyllfaoedd sy'n newid
  • Sgiliau cyfrifiadurol
  • Agos atoch, gonest a chyeillgar ar lefel broffesiynol
  • Yn gallu teithio

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sharon Gammon
Teitl y swydd
Service Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07825244704
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg