Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym swydd Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd yn y Gymuned yn wag yn ein Tîm Cymuned Iechyd Meddwl Pobl Hŷn yn Llys Dyfrig, Llandudno .
Os ydych yn mwynhau helpu pobl ac eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau, gallai'r swydd hon fod yn berffaith i chi.
Mae Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd yn y Gymuned wrth wraidd yr hyn a wnawn, yn darparu gofal a chymorth rheng flaen.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd eich gwaith yn cynnwys gweithio â phobl hŷn a bregus sydd â phroblemau iechyd meddwl fel dementia ac iselder. Bydd eich rôl yn cynnwys galluogi pobl i aros mor annibynnol â phosibl, i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn eu cymuned leol a'u cefnogi i gynnal iechyd meddwl a lles meddyliol da.
Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig, cydwybodol a chyfeillgar sy'n barod i ddysgu a chwarae rôl allweddol mewn gwella bywydau cleifion. Byddwch yn cael cyswllt â chleifion, perthnasau, aelodau eraill o'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol o sefydliadau partner. Byddwch yn gweithio dan oruchwyliaeth Clinigwyr cymwys yn y Tîm.
Dylai ymgeiswyr allu gweithio â chyfrifiaduron, a meddu ar sgiliau cyfathrebu da. Mae profiad yn y proffesiwn gofalu yn hanfodol.
Byddwch yn ymuno â gwasanaethau sydd eisoes wedi eu hen sefydlu, sy'n frwdfrydig a chefnogol mewn Tîm Cymuned Iechyd Meddwl amlddisgyblaethol cydlynus ble bydd eich cyfraniad yn bwysig iawn ac yn cael ei werthfawrogi.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- NVQ Lefel 3 mewn gofal neu gyfwerth neu dystiolaeth o weithio tuag at gymhwyster.
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o reoli risg a materion iechyd a diogelwch
- Hyfforddiant mewn Iechyd Meddwl
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad arwyddocaol o weithio mewn amgylchedd gofal ar gyfer pobl hŷn.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y gymuned
- Profiad o weithio mewn lleoliad gofal iechyd meddwl
Tueddfrydau a a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio'n gadarnhaol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol Ymagwedd gwrtais a gofalgar tuag at bobl hŷn gydag anghenion iechyd meddwl.
Meini prawf dymunol
- Sgiliau TG e.e. ECDL
- Gallu siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Richard Tanswell
- Teitl y swydd
- CMHT Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 852130
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector