Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gofal Sylfaenol
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (i'w gytuno)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC084W-0125-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Triniaeth Gofal Sylfaenol
- Tref
- Llandudno
- Cyflog
- £23,970 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 24/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Derbynnydd/Gweinyddwr
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae’r Ganolfan Triniaeth Gofal Sylfaenol yn awyddus i benodi unigolyn trefnus sy’n rhagori wrth gyfathrebu. Byddwch yn cefnogi tîm o nyrsys sy'n darparu gwasanaeth ar sail apwyntiadau yn Ysbyty Cymunedol Llandudno.
Mae’r rôl yn cynnwys ateb y ffôn, trefnu apwyntiadau a rhoi trefn ar waith papur. Byddai gwybodaeth ymarferol dda o Outlook, Excel a System Gweinyddu Cleifion Cymru (Welsh PAS) yn fanteisiol.
Oriau’r swydd yw 22.5 awr yr wythnos, dros gyfnod o 4 i 5 diwrnod.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cynnig cymorth cyffredinol i ddarparwyr gwasanaethau a defnyddwyr a chreu delwedd bositif a chyfeillgar i gleifion ac ymwelwyr eraill, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.
Derbyn cleifion, eu hasesu a'u cyfeirio o ran cael mynediad at y gwasanaeth neu'r gweithiwr proffesiynol gofal iechyd mwyaf priodol, yn gwrtais, effeithiol ac yn effeithlon.
Ymgymryd ag amryw o ddyletswyddau gweinyddol i gynorthwyo i redeg y Swyddfa Gyffredinol yn esmwyth, yn cynnwys darparu cefnogaeth glercyddol i staff clinigol ac aelodau eraill o'r tîm
Hwyluso cyfathrebu effeithiol rhwng cleifion, aelodau o'r tîm, gofal eilaidd, ac asiantaethau gofal iechyd a lles cysylltiedig eraill.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg o Safon Dda
Meini prawf dymunol
- NVQ Lefel 2/Gofal Cwsmeriaid
GOFYNION O RAN Y GYMRAEG
Meini prawf hanfodol
- Lefel 3 Cymraeg
- Lefel 3 Ysgrifennu
- Lefel 3 darllen
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o waith swyddfa a gweithdrefnau gweinyddol
- Profiad o Microsoft Office
Meini prawf dymunol
- Gweithio efo'r cyhoedd neu asiantaethau eraill
Gwybodaeth
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth o feddalwedd Microsoft Office neu gyfwerth
RHINWEDDAU PERSONOL (Amlwg)
Meini prawf hanfodol
- Agwedd hyblyg at waith
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Cywirdeb
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio o fewn tîm aml-ddisgyblaeth.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lynne Harison
- Teitl y swydd
- Lead Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000851823
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Yvette Hughes - Rheolwraig Weinyddol, 03000 856039
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector