Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Diogelu Iechyd
Gradd
Gradd 8c
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC546-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Preswylfa
Tref
Yr Wyddgrug
Cyflog
£71,473 - £82,355 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Diogelu Iechyd

Gradd 8c

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Diogelu Iechyd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn deinamig ymuno â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn y Tîm Diogelu Iechyd fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Diogelu Iechyd. Mae'r Tîm Diogelu Iechyd yn rhan o Gyfarwyddiaeth Iechyd Cyhoeddus BIPBC, ac mae’n darparu amrywiaeth o wasanaethau ar draws gogledd Cymru i atal a rheoli'r risg o glefydau heintus a bygythiadau amgylcheddol. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Diogelu Iechyd yn darparu arweinyddiaeth strategol a chymorth i Dîm Diogelu Iechyd BIPBC, sydd ag amrywiaeth o swyddogaethau gan gynnwys Clefyd Heintus, Iechyd Cynhwysiant, Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol, Hyfforddiant ac Arweiniad. Fel rhan o'r swydd, bydd disgwyl i chi gydlynu amrywiaeth o swyddogaethau diogelu iechyd gan gynnwys rhaglenni i atal clefydau heintus (gan gynnwys imiwneiddio, hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth), parodrwydd sefydliadol ar gyfer rheoli clefydau heintus (gan gynnwys datblygu llwybrau a gweithdrefnau gweithredu safonol), rheoli digwyddiadau ac achosion o glefydau heintus (gan gynnwys profi, olrhain cysylltiadau a phroffylacsis ar ôl cysylltiad). Byddwch chi hefyd yn gyfrifol am ddatblygiad strategol, cyfeiriad, cynllunio a chyflawni’r rhaglenni a’r swyddogaethau hyn, er mwyn cefnogi nodau strategol y Gyfarwyddiaeth Iechyd Cyhoeddus a’r Bwrdd Iechyd ehangach.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais. 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Bydd angen i chi feddu ar brofiad cadarn o ymarfer diogelu iechyd yng nghyd-destun ehangach y GIG, a bydd gennych chi sgiliau iechyd cyhoeddus cyffredinol da ynghyd â dealltwriaeth o weithio’n effeithiol mewn partneriaeth o fewn ac ar draws sefydliadau. Drwy weithio mewn partneriaeth agos ag awdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd, bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb gweithredol dros ddarparu gwasanaeth diogelu iechyd diogel ac effeithiol, sy’n cyrraedd safonau ansawdd uchel ac sy’n ymateb i anghenion y gymuned leol a phartneriaid yn y systemau iechyd cyhoeddus lleol.

Ar ôl cael eich penodi, byddwch chi’n llunio cynllun gwaith manwl gyda Chyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, gan ddefnyddio’r tasgau allweddol a amlinellir yn y Disgrifiad Swydd. 

Mae modd i ddeiliad y swydd weithio yn swyddfeydd BIPBC yn yr Wyddgrug neu Lanfairfechan.  Disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gwneud gwaith rhagweithiol ar draws gogledd Cymru, gan deithio ar draws yr ardal ddaearyddol ac i safleoedd eraill.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Meistr neu wybodaeth/profiad neu gymhwyster cyfatebol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster rheoli proffesiynol/aelod o sefydliad rheoli proffesiynol
  • Cymhwyster Diogelu Iechyd

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Brofiad uwch-reoli gweithredol perthnasol gan weithio gyda thimau amlddisgyblaethol
  • Profiad o reoli cyllidebau gwerth miliynau o bunnoedd
  • Profiad o baratoi a negodi cynlluniau datblygu busnes a gwasanaeth cymhleth
  • Profiad o ddatblygu a darparu systemau llywodraethu clinigol a chorfforaethol mewn lleoliad clinigol
  • Profiad o ddatblygu prosesau Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd effeithiol
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o ymchwil/archwiliad personol a phroffesiynol
  • Erthyglau wedi’u cyhoeddi

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i ddadansoddi, dehongli a chyfleu/derbyn gwybodaeth hynod gymhleth
  • Gallu defnyddio TG gan ddefnyddio nifer o becynnau meddalwedd – e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, cronfeydd data, PowerPoint a systemau gwybodaeth glinigol
  • Y gallu i weithio'n annibynnol heb unrhyw oruchwyliaeth gyda'r y gallu i lunio, datblygu a gweithredu polisi ar lefel Is-adrannol a chorfforaethol a'r gallu i gefnogi, datblygu, ysgogi ac arwain timau ar lefel uwch
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau addysgu/mentora

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am rôl a swyddogaeth sefydliad statudol ac o egwyddorion Llywodraethu Corfforaethol ochr yn ochr â Gwybodaeth a dealltwriaeth o lywodraethu clinigol Gwybodaeth am Fframweithiau Gwasanaeth Cenedlaethol
  • Dealltwriaeth drylwyr o'r GIG a'i berthynas â chomisiynwyr, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr ac asiantaethau statudol a gwirfoddol eraill
Meini prawf dymunol
  • Ymwybyddiaeth o faterion iechyd lleol allweddol
  • Siarad Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jinette Parry
Teitl y swydd
Business Support Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg