Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Swyddog Clercyddol
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Oes gennych chi sgiliau gweinyddu rhagorol ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm? Oes gennych chi weledigaeth, cymhelliant a brwdfrydedd diddiwedd a ffynnu ar her? Yna dewch i ymuno â'n Tîm Adnoddau Cymunedol Sir Ddinbych ddeinamig, rhagweithiol ac yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth i'n cleifion. Rydym yn credu mewn cyfleoedd datblygu a hyfforddi i'n staff ac rydym yn awyddus i recriwtio swyddog clerigol trefnus, llawn cymhelliant ac angerddol i gefnogi'r tîm clinigol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Pwrpas y swydd hon yw darparu gwasanaeth gweinyddol effeithlon a chynhwysfawr yn y Tîm Adnoddau Cymunedol (CRT). Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyfathrebu dros y ffôn ar gyfer y CRT. Bydd deiliad y swydd yn gweithio o fewn CRT CRT Sir Ddinbych (Rhuthun, Dinbych, Y Rhyl a Phrestatyn) ochr yn ochr â Nyrsys Ardal, Gwasanaethau Therapi, cydweithwyr Awdurdodau Lleol a'r Sector Gwirfoddol i ddarparu gwasanaeth gweinyddol di-dor i'r Timau Amlddisgyblaethol.
Disgwylir ii'r Swyddog Clercyddol weithio'n gywir ac annibynnol o fewn canllawiau, yn dilyn hyfforddiant. Byddwch yn defnyddio blaengaredd a doethineb eich hunan yn hytrach na goruchwyliaeth, gan benderfynu pan fo angen i ymgynghori gyda'r rheolwr. Rhaid gweithredu pob dyletswydd yn unol â pholisi’r Adran a’r Bwrdd Iechyd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Medrau
Meini prawf hanfodol
- Chwaraewr tîm
- Sgiliau sefydliadol
- Sgiliau cyfathrebu
Meini prawf dymunol
- WPAS
- System amserlennu CIVICA
Medau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Profiad gwasanaeth cwsmeriaid
- chwaraewr tîm
Meini prawf dymunol
- gwybodaeth am systemau'r GIG
Addysg/Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- TGAU Gradd C ac uwch mewn Saesneg a Mathemateg neu brofiad cyfatebol
- NVQ Lefel 2 mewn Gweinyddu neu brofiad cyfatebol
- Cymhwyster TG neu lefel gyfatebol o brofiad gan ddefnyddio pecynnau Microsoft
- RSA/OCR Lefel 2 neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- ECDL
- AMSPAR -City & Guilds lefel 3
- Profiad blaenorol y GIG
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sally Pugh
- Teitl y swydd
- Administration Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07890640408
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector