Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaethau Gweinyddol
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener 09:00 tan 17:00 gyda 30 munud o egwyl cinio di-dâl)
Cyfeirnod y swydd
050-AC236-0425
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Rhyl
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
23/04/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Swyddog Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS) - Gorllewin

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn awyddus i benodi 1 x Swyddog Cyngor a Chymorth Cyswllt Cleifion i gynorthwyo’r gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd, Ardal y Gorllewin ac i ddarparu cymorth ar draws y gwasanaeth ehangach yng ngogledd Cymru.

Rôl Swyddog Cyngor a Chymorth Cyswllt Cleifion yw gweithredu fel hwylusydd mewn ymateb i ddelio ag ymholiadau o ddydd i ddydd; uwchgyfeirio adborth neu bryderon a fynegir gan gleifion, gofalwyr, teuluoedd ac aelodau o’r cyhoedd a negodi atebion effeithiol neu ddatrys materion mor gyflym â phosibl.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan yn y gwaith o gydlynu a chyflwyno gweithgareddau ymgysylltu a chyfathrebu, fel y’u diffinnir yn rôl swydd Cyngor a Chymorth Cyswllt Cleifion. Bydd deiliad y swydd yn mynd i leoliadau sylfaenol, eilaidd a chymunedol i ymgysylltu â chleifion a gofalwyr i gasglu adborth cleifion a gofalwyr drwy ddulliau amrywiol fel cynnal cyfweliadau arsylwi Care 2 Share a chasglu straeon cleifion.

Bydd y Swyddog Cyngor a Chymorth Cyswllt Cleifion yn adrodd i’r Rheolwr Profiad Cleifion a bydd yn gweithio’n agos gyda’r tîm Cwynion.

Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig, yn llawn cymhelliant, yn sensitif ac yn ddoeth; wedi eich addysgu at lefel gradd (neu brofiad cyfatebol) ac yn meddu ar brofiad o ddelio â chleifion/gofalwyr/aelodau o’r cyhoedd mewn sefyllfaoedd sy’n aml yn gallu bod yn anodd ac yn heriol. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Prif gyfrifoldebau’r swydd yw:

  • Gweithredu fel pwynt cyswllt gweladwy i gleifion, gofalwyr, perthnasau ac aelodau o’r cyhoedd, gan ddarparu gwybodaeth gywir a datrys ymholiadau a godir yn gynnar. Lle bo angen, bydd Swyddogion Cyngor a Chymorth Cyswllt Cleifion yn atgyfeirio ac yn cynghori ar y broses gwyno neu’n cyfeirio at wasanaethau eiriolaeth allanol neu arbennig os credir bod hynny’n briodol.
  • Mynd ati’n weithredol i rwydweithio a meithrin cysylltiadau ar draws y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys Gofal Sylfaenol, sefydliadau cydweithredol a’r trydydd sector, er mwyn ymgysylltu a helpu i ddatrys problemau wrth iddynt godi.
  • Casglu adborth gan gleifion a gofalwyr drwy amrywiol ddulliau mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol. 

Bydd deiliad y swydd yn:

  • Delio â gwybodaeth sensitif mewn modd proffesiynol gan sicrhau bod pob cam yn bodloni’r gofynion statudol yn y Canllawiau Gweithio i Wella a deddfwriaeth Diogelu Data
  • Gwneud penderfyniadau gofalus, cyfrifol a phroffesiynol i sicrhau’r canlyniad mwyaf effeithiol i’r ymholydd bob amser
  • Rheoli a chofnodi’n effeithiol yr holl gysylltiadau unigol â chleifion, gofalwyr, perthnasau neu aelodau o’r cyhoedd
  • Meithrin a chynnal cysylltiadau da gyda'r timau rheoli, staff clinigol a staff anghlinigol ar draws y bwrdd iechyd. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad perthnasol o ddelio â'r cyhoedd / cleifion / gofalwyr / gweithwyr iechyd proffesiynol ar faterion yn ymwneud â gwasanaethau cwsmeriaid.
  • Profiad o ddelio ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a staff ar wahanol lefelau.
Meini prawf dymunol
  • Profiad profedig o weithio mewn gwasanaethau cwsmeriaid neu adrannau cysylltiedig o fewn sefydliad cymhleth

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Wedi'i addysgu i lefel gradd neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o sefydlu / defnyddio systemau a phrosesau i sicrhau bod adborth yn cael ei gofnodi, ei fonitro a'i werthuso'n effeithiol. Sgiliau datrys problemau.
  • Profiad o gyfathrebu effeithiol (ar lafar ac yn ysgrifenedig)
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun a rheoli eich llwyth gwaith eich hun
  • Cymraeg hanfodol
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o sgiliau TG da, gan gynnwys cyflwyniadau a defnydd o gyfryngau cymdeithasol / ECDL neu gyfwerth
  • Tystiolaeth sut i ddelio gyda sefyllfaoedd trallodus neu sensitif

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth dda o'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu cwynion a rheoli cwynion
  • Gwybodaeth ymarferol o weithredu o fewn fframwaith profiad / ymgysylltu â chleifion
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth eang o systemau a phrosesau'r GIG

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Gofynion arbennig i'w cyflawni yn y rôl - Y gallu i deithio o fewn ardal ddaearyddol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
James Harman
Teitl y swydd
Complaints Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 851234
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Dydd Llun - Dydd Gwener (9-5)

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg