Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- CAMHS
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR285-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Brenhinol Alexandra
- Tref
- Rhyl
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Rheolwr Tim GIMPPI
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn falch o gyhoeddi bod cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n tîm arweinyddaeth CAMHS yng Nghonwy a Sir Ddinbych a gwneud cais am swydd rheolwr tîm yn ein gwasanaeth iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghonwy.
Mae CAMHS sir Ddinbych wedi ei leoli yn Rhyl, Gogledd Cymru. Mae'r tîm yn un amlddisgyblaethol ac mae'n cynnig amrywiaeth o ymyriadau cynnar ac asesiadau uniongyrchol a gwasanaethau therapiwtig i blant oedran ysgol, pobl ifanc a'u teuluoedd, a atgyfeirir atom gydag amrywiaeth o anhwylderau emosiynol ac ymddygiadol. Mae'r arweinydd tîm yn gyfrifol am reolaeth weithredol y tîm o ddydd i ddydd mewn partneriaeth ag arweinwyr clinigol a gweinyddol a rheolwr y gwasanaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig ac yn llawn hunangymhelliant, gan rannu ein hangerdd dros arloesi a gwella gwasanaethau'n barhaus. Byddant yn gallu dangos sgiliau arwain tosturiol ac ymrwymiad i hwyluso diwylliant dysgu agored sy'n cwmpasu syniadau ac arbenigedd aelodau tîm i wella'r gofal a'r gwasanaethau a ddarperir. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen sgiliau adeiladu perthynas ac ymgysulltiad ardderchog a byddwch yn gallu datblygu partneriaethau cadarnhaol gydag amrywiaeth o randdeiliaid. Byddwch yn deall ac yn croesawu'r her o ddarparu gwasanaeth, sydd o ansawdd uchel, yn effeithlon ac yn gynaliadwy, yn unol ag egwyddorion gofal iechyd darbodus.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddai cefndir o weithio o fewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a gwybodaeth am y dull dewis a phartneriaeth (CAPA) yn fanteisiol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o arbenigeddau clinigol eraill sy'n gysylltiedig â chefnogi iechyd a lles emosiynol neu blant a theuluoedd, a gallant arddangos sgiliau trosglwyddadwy rheoli perfformiad, ansawdd a diogelwch.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn ymuno â thîm amlddisgyblaethol arloesol a chroesawgar yn CAMHS sir Ddinbych, yn ogystal â bod yn rhan o dîm arweinyddiaeth cefnogol sy'n gwerthfawrogi cyfraniadau ei aelodau ac yn ymrwymo i gyflawni amcanion y gwasanaeth drwy ymgysylltu a chydweithredu â'n timau a'n gilydd.
Mae Gogledd Cymru yn rhan brydferth o'r wlad gydag ysgolion da, ystod o weithgareddau hamdden, a digon o olygfeydd godidog. Mae gan glawdd o fynyddoedd garw, arfordiroedd ysblennydd, a chymysgedd o bentrefi bach gwledig a threfi arfordirol mwy. Gyda digon o awyr iach a'r awyr agored, rydym hefyd o fewn awr o ddinasoedd mawr fel Caer, Lerpwl a Bangor. Rydym yn hapus i drafod pecynnau adleoli ar gyfer y rhai sy'n symud i mewn i'r ardal i ymuno â'n tîm.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- • Cymhwyster proffesiynol perthnasol a chofrestriad proffesiynol gweithredol mewn proffesiwn cysylltiedig ag iechyd neu ofal cymdeithasol.
- • Datblygiad proffesiynol a rheolaethol parhaus.
- • Cymhwyster rheoli cydnabyddedig a pherthnasol neu barodrwydd i weithio tuag ato (rhaid ei gyflawni 1-2 flynedd)
Meini prawf dymunol
- • Tystiolaeth o fentora
- • Cymwys i ymarfer o dan fesur iechyd meddwl Cymru 2010 (gan gynnwys nyrsio iechyd meddwl, gwaith cymdeithasol, seicoleg)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Profiad rheoli ar fand 6 neu uwch.
- • Profiad clinigol perthnasol.
- • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol
Meini prawf dymunol
- • Tystiolaeth o sgiliau a gallu rheolaeth ariannol
- • Tystiolaeth o reoli newid
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- • Sgiliau arwain
- • Y gallu i flaenoriaethu gwaith i derfynau amser tynn
- • Meddyliwr strategol
- • Gallu cynhyrchu cynlluniau busnes heb fawr o gefnogaeth
Meini prawf dymunol
- • Sgiliau ymchwilio ac archwilio
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- David Patterson
- Teitl y swydd
- Clinical Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 856023
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector