Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Gweinyddol
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn llawn cymhelliant ac sy'n frwdfrydig i ymuno â Thîm Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Ardal y Canol fel Cynorthwyydd Gweinyddol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus roi cymorth gweinyddol i dîm o staff clinigol a gweithredol, gan ymateb i weithio o dan bwysau mewn amgylchedd gwaith prysur.
Mae'n hanfodol bod gan ddeilydd y swydd ymagwedd hyblyg tuag at waith i gynorthwyo aelodau’r tîm ac i ddiwallu anghenion y gwasanaeth. Er nad yw profiad blaenorol mewn ysbyty yn hanfodol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos ei fod yn gallu darparu gwasanaeth ardderchog ar gyfer cwsmeriaid, a bydd ganddo sgiliau TG. Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac i ddelio â sefyllfaoedd sensitif yn hanfodol, fel y mae'r gallu i weithio'n unol â therfynau amser tynn gan sicrhau bod modd darparu gwasanaethau'n effeithiol. Mae gwybodaeth gyfredol am WPAS yn ddymunol ond heb fod yn hanfodol gan y caiff hyfforddiant ei roi.
Bydd ymgeiswyr amser llawn a rhan amser/rhannu swydd yn cael eu hystyried.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â
Arweinydd y Tîm Gweinyddol, CAMHS Sir Ddinbych
Arweinydd y Tîm Gweinyddol, CAMHS Conwy
Rheolwr Gweinyddol, CAMHS y Canol
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae dull ffôn da a sgiliau cyfathrebu yn hanfodol. Mae gwybodaeth am System Gweinyddu Cleifion yr ysbyty yn ddymunol, er y rhoddir hyfforddiant. Byddai'r gallu i siarad Cymraeg o fudd ond nid yw'n hanfodol. Bydd deiliad y swydd yn meddu ar RSA Lefel 2 neu gymhwyster cyfatebol.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddangos dull proffesiynol a sensitif bob amser. Yn ôl natur y dyletswyddau, mae angen i'r swydd Clerc Penodi / Teipydd/Gweinyddol gynnal cyfrinachedd llym a disgwylir iddo ddelio â chleifion, perthnasau ac ymwelwyr â chwrteisi a disgresiwn bob amser.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg gyffredinol dda
Meini prawf dymunol
- Cymwysterau TG
Experience
Meini prawf hanfodol
- • Profiad blaenorol mewn rôl gleirgol, gweinyddol / mewn derbynfa.
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn amgylchedd swyddfa brysur
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Agwedd hyblyg at ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Arall
Meini prawf hanfodol
- Ffordd gyfeillgar ac effeithlon ar y ffôn
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i flaenoriaethu eich llwyth Gwaith.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am PIMS/ ORACLE
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Paula McLarney
- Teitl y swydd
- Admin Team Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 856023
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector