Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn yr Uned Gofal Cardiaidd yn Ysbyty Glan Clwyd ar gyfer Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd Band 3.
Mae’r Uned Gofal Cardiaidd yn uned 8 gwely sydd newydd gael ei hailwampio sy’n derbyn cleifion ar draws Gogledd Cymru sydd â chyflyrau Calon llym a gwaelodol.
Bydd deilydd y swydd yn gweithio fel rhan o’r tîm nyrsio i ddarparu gofal clinigol o ansawdd uchel ar sail tystiolaeth sy’n canolbwyntio ar angen uniongyrchol y claf. Bydd deilydd y swydd yn helpu nyrsys cofrestredig i ddarparu gofal dirprwyedig i gleifion. Bydd deilydd y swydd yn ymdrechu i ddarparu anghenion cyfannol i unigolion, ar y cyd â disgyblaethau eraill o fewn y lleoliad gofal critigol.
Prif elfen y rôl yw sicrhau bod yr egwyddorion ag amlinellwyd yn yr hanfodion gofal yn cael eu hymgorffori i arfer bob dydd i sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu i gleifion. Bydd deilydd y swydd yn cymryd rhan lawn mewn darparu gofal wedi’i gynllunio gan sicrhau bod urddas a chydraddoldeb y claf yn cael ei gynnal bob amser.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o'r tîm nyrsio gan ddarparu gofal clinigol o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n canolbwyntio ar anghenion uniongyrchol y claf.
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo nyrsys/ymarferydd cofrestredig i ddarparu gofal dirprwyedig i gleifion.
Bydd deiliad y swydd yn ymdrechu i ddarparu ar gyfer anghenion cyfannol yr unigolyn, ar y cyd â disgyblaethau eraill o fewn yr amgylchedd gofal iechyd.
Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau a disgwylir iddo weithio'n annibynnol ac fel rhan o'r tîm, goruchwylio cleifion a'u cynorthwyo gyda chynllun gofal yn y dyfodol.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd hefyd gynnig cymorth i sefydlu gweithwyr gofal iechyd iau a phrentisiaethau
Bydd deiliad y swydd yn gallu darparu elfennau o iechyd a gofal cymdeithasol drwy feddu ar y wybodaeth a'r lefel asesu cymhwysedd i ymgymryd â rôl o'r fath a fydd yn cael ei hasesu'n lleol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
English
Meini prawf hanfodol
- Experience
English
Meini prawf hanfodol
- NVQ level
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nicola Marley
- Teitl y swydd
- Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 845524
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector