Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Adran Adnoddau
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC202-0325
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Frenhinol Alexandra
- Tref
- Y Rhyl
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Gweinyddwr Adnoddau Dynol o fewn Gwasanaethau Pobl
Gradd 3
Trosolwg o'r swydd
Darparu cymorth ysgrifenyddol a gweinyddol i'r Tîm Adnoddau Dynol (AD) a Phenaethiaid Gwasanaeth Gweithlu a Datblygu Sefydliadol (WOD) gan sicrhau disgresiwn a chyfrinachedd bob amser. Bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol, gan ddarparu cymorth gweinyddol ragweithiol i'r Tîm AD a chydlynu trefniadau ysgrifenyddol o ddydd i ddydd ar gyfer y Penaethiaid Gwasanaeth yn ddidrafferth.
Bydd deilydd y swydd yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y Tîm Adnoddau Dynol a byddwch yn sgrinio galwadau gan staff y Bwrdd Iechyd, y cyhoedd ac adrannau allanol neu asiantaethau eraill, gan ymateb mewn modd doeth a chwrtais, gan flaenoriaethu materion, gwneud penderfyniadau yn ymwneud â datgelu gwybodaeth briodol a chadw at derfynau amser penodol. Bydd deilydd y swydd yn gweithio'n agos gyda Rheolwyr AD a Swyddogion AD i sicrhau bod galwadau sy'n dod i mewn yn cael eu brysbennu'n gywir a'u cyfeirio'n briodol er mwyn rhoi ymateb o ansawdd uchel.
Bydd cyswllt a chyfathrebu â staff ysgrifenyddol a gweinyddol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol (WOD) a staff ysgrifenyddol y Bwrdd Iechyd yn elfen allweddol o'r rôl hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu cefnogaeth weinyddol ac ysgrifenyddol i'r tîm AD. Mae mwyafrif o'r wybodaeth hon/ gohebiaeth yn sensitif ac mae'n rhaid delio ag gan sicrhau disgresiwn a chyfrinachedd bob amser.
Pwynt cyswllt cyntaf ac yn sgrinio galwadau ffôn sy'n dod i mewn ar gyfer y Pennaeth AD gan staff y Bwrdd Iechyd, y cyhoedd ac adrannau allanol neu asiantaethau, gan ymateb yn gyflym ac effeithiol mewn modd cwrtais a doeth, gan wneud penderfyniadau ynghylch datgelu gwybodaeth briodol a chadw at derfynau amser.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- TGAU Saesneg a Mathemateg
- NVQ lefel 3 neu lefel o brofiad cyfatebol
- Cymwysterau teipio RSA 3 neu gyfatebol
- ECDL
Meini prawf dymunol
- ECDL Uwch mewn Word ac Excel
- Gweithio tuag at gymhwyster CIPD
PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau mewn gweithdrefnau clercyddol a gweinyddol
- Hyfedr mewn meddalwedd Microsoft Office
- Gallu gweithio heb oruchwyliaeth
- Profiad o drin gwybodaeth gyfrinachol materion Cysylltiadau Gweithwyr
Meini prawf dymunol
- Gweithio ar draws amryw o ddisgyblaethau o fewn sefydliad GIG
- Profiad Adnoddau Dynol
SGILIAU
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar effeithiol ac arbennig
- Sgiliau clercyddol a gweinyddol ardderchog
- Sgiliau trefnu a rheoli amser ardderchog
- Craffter
- Sgiliau IT rhagorol
- Gallu gweithio’n hyblyg
- Gallu gweithio i amserlenni caeth
- Gallu dangos lefel uchel o sgiliau rhyngbersonol
- Gallu delio â sefyllfaoedd cyfrinachol a sensitif iawn
- Sgiliau rheoli amser a sgiliau rheoli prosiect er mwyn blaenoriaethu galwadau llwyth gwaith sy'n gwrthdaro
- Gallu gweithio ar eich cymhelliant eich hun a threfnu eich llwyth gwaith eich hun yn effeithiol
- Gallu cyflawni targedau ac amcanion
- Gallu cynhyrchu adroddiadau ESR
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Systemau IT
- Office (Work, Excel, PowerPoint ayyb)
RHINWEDDAU PERSONOL
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog
- Hunangymhelliant
- Gallu gweithio ar eich liwt eich hun ac fel rhan o dîm
- Yn dangos gwydnwch a stamina o dan bwysau
Arall
Meini prawf hanfodol
- Gallu ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol a sensitif
- Gallu gwneud trefniadau teithio amserol.
- Hyblyg o ran oriau/lleoliadau
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Roland Eremudiake
- Teitl y swydd
- People Business Partner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector