Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Gofal Iechyd Banc - Iechyd Meddwl
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Helpu nyrsys cofrestredig i ddarparu gofal wedi ei seilio ar dystiolaeth i gleifion/cleientiaid, gan weithio ar y cyd â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, y claf a'i deulu a gofalwyr.
Darparu gofal i gleifion fel y cofnodwyd yn y cynllun gofal nyrsio. Gwneud amrywiaeth o ddyletswyddau o dan oruchwyliaeth am gyfnod y shifft.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Helpu’r nyrs gofrestredig i ddarparu gofal holistig o safon uchel i gleifion, gan sicrhau y cedwir urddas a chydraddoldeb bob amser.
- Sicrhau bod yr egwyddorion yn Hanfodion Gofal yn cael eu hymgorffori mewn arfer bob dydd i sicrhau gwasanaeth o ansawdd da i gleifion a chleientiaid.
- Helpu’r cleifion i gadw’n lân ac yn dwt
- Gwneud dyletswyddau o fewn y cynllun gofal ar gais ymarferydd cymwysedig, a hynny ar ôl cael yr hyfforddiant/asesiad perthnasol
- Paratoi ward/man clinigol ar gyfer derbyn cleifion trwy sicrhau bod y lle’n lân ac yn dwt - helpu i gadw safonau yn y man clinigol a hysbysu unrhyw flerwch/llanast i’r unigolyn priodol.
- Helpu derbyn cleifion newydd i’r ward trwy baratoi’r gwely, croesawu cleifion, eu hebrwng i’r gwely/man arall, a dangos y ward iddynt.
- Llenwi bwydlenni cleifion gan gynnwys y cleifion yn y broses, gan ystyried unrhyw gyfarwyddiadau ynghylch diet fel y nodwyd gan nyrs gymwysedig.
- Cymryd rhan yn amseroedd neilltuol prydau bwyd trwy sicrhau bod cleifion yn cael eu prydau/diodydd yn amserol ac yn ddiogel, sicrhau bod dwylo wedi eu golchi a bod yr amgylchedd yn gydnaws ag amseroedd prydau bwyd, e.e. paratoi o gwmpas y gwely.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
CGC 2 neu gyfwerth
Meini prawf hanfodol
- CGC 2
- Cyfwerth â CGC 2
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Andrea Holland
- Teitl y swydd
- Deputy Nurse Bank Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850044
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector