Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Theatrau
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener 08:30-16:30)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC278-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Y Rhyl
- Cyflog
- £23,970 Y Flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Derbynnydd Theatr
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Darparu dyletswyddau derbynfa i'r Adran Theatr, gan sicrhau eich bod yn cyfarch â phob ymwelydd yn gwrtais ac yn effeithlon ac yn eu cyfeirio at yr unigolyn cywir. Darparu cymorth clercyddol i'r adran fel yr amlinellir yn sgôp dyletswyddau a chyfrifoldebau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu gwasanaeth derbynfa gyfeillgar a chynhwysfawr i'r holl staff sy'n ymweld â'r adran.
Ymgymryd â dyletswyddau derbynfa effeithlon e.e ateb y ffôn a chyfarch unigolion wrth ddesg y dderbynfa.
Delio â chydweithwyr ac ymwelwyr yn effeithlon a chwrtais bob amser yn unol â safonau adrannol. Mae ymwelwyr i'r adran yn cynnwys, staff o ardaloedd eraill, cynrychiolwyr cwmni, staff meddygol sy'n ymweld â pherthnasau cleifion (gyda rhai ohonynt, efallai mewn gofid).
Delio'n gwrtais â galwadau ffôn ac ail adrodd negeseuon yn effeithiol yn ôl safonau'r gwasanaeth. Prosesu cyfeiriadau brys.
Cynorthwyo gyda dyletswyddau clercyddol cyffredinol, yn cynnwys dosbarthu post sy'n dod i mewn.
Yn gyfrifol am fewnbynnu data'n gywir ar gronfeydd data perthnasol ac i gasglu data er diben archwiliad clinigol.
Casglu rhestrau theatr a'u dosbarthu'n effeithiol, gan gysylltu ag ysgrifenyddion a staff gweinyddol eraill. Darparu system gyfathrebu ragorol rhwng staff perthnasol, ynglŷn ag unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau i restrau llawdriniaethau. Gall hyn gynnwys trefnu llawdriniaethau brys.
Argraffu rhestrau theatr a'u dosbarthu'n brydlon.
Cysylltu â'r tîm amlddisgyblaethol yn yr adran, i helpu gyda llif cleifion drwy'r theatr.
Cynnal mynediad priodol i'r ardal glinigol, goruchwylio mynediad cleifion a'u cofnodi yn y llyfr ymwelwyr theatr.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Addysg
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel Gradd Safonol TGAU gradd C neu uwch (neu gyfwerth) mewn Iaith Saesneg
Cyfathrebu
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau gweinyddol a chlerigol da
- Sgiliau trefnu a rheoli amser da
- Dull cyfeillgar dros y ffôn Y gallu i weithio i derfynau amser o fewn amgylchedd swyddfa prysur
Profiad
Meini prawf dymunol
- ECDL NVQ lefel 2 neu gyfwerth mewn Gweinyddu neu Ofal Cwsmer
- Gweithio mewn lleoliad gofal iechyd gweinyddol Profiad o ddefnyddio pecyn Microsoft Office
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mark Beedie
- Teitl y swydd
- Theatre Systems Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000845602
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector