Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Yr Ardal Ganolog Gwasanaethau
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol: 30 awr yr wythnos Dydd Llun – Dydd Gwener
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (8.30-3.00)
Cyfeirnod y swydd
050-AC473-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Rhuthun
Tref
Rhuthun
Cyflog
£22,720 Pro Rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Clerc Ward

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi ymuno â'r tîm gweinyddol fel Clerc Ward yn Ysbyty Rhuthun.

Bydd y Clerc Ward yn rhoi cefnogaeth glercyddol effeithiol i'r Uned.  Mae darpariaeth gwasanaeth clercyddol effeithiol yn hanfodol i sicrhau derbyn, rhyddhau a throsglwyddiad cyflym.

Mae’r gallu i siarad cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Oherwydd natur y dyletswyddau, disgwylir i’r Clerc Ward gadw cyfrinachedd llwyr a disgwylir iddi/iddo ymdrin â chleifion a pherthnasau yn gwrtais a doeth bob amser.

Mae'r Clerc Ward yn gyfrifol i'r Rheolwyr Ward o ran darparu gwasanaeth clercyddol effeithiol ar draws y wardiau.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu I arddangos Saesneg/Cymraeg a Mathemateg a lefel TGAU neu brofiad cywerth
  • OCR/RSE lefel 1 Prosesu Geiriau neu brofiad cywerth
  • Siarad Cymraeg
Meini prawf dymunol
  • NVQ II Gweinyddiaeth/ gofal cwsmeriaid
  • ECDL

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad clercyddol/ swyddfa flaenorol
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o’r GIG
  • Yn defnyddio WPAS
  • Oracle

Cymhwyster a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gallu cyfrannu'n adeiladol at amgylchedd gweithio mewn tîm
  • Gallu i ddefnyddio’ch synnwyr cyffredin ac eto’n deall yr angen i ofyn am gyngor gan uwch staff pan fo angen
  • Gallu cyfleu gwybodaeth yn glir ac yn sensitif yn bersonol a thros y ffôn

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am gyfrinachedd cleifion

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gweithio'n effeithiol o dan bwysau mewn amgylchedd clinigol
  • Dull hyblyg o ymdrin â gwaith
  • Siarad Cymraeg
Meini prawf dymunol
  • NVQ II Gweinyddiaeth/ gofal cwsmeriaid

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Maureen Roberts
Teitl y swydd
Site Administrator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 856497
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg