Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ysgrifennydd Meddygol Cefnogi
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Dymunwn benodi unigolyn brwdfrydig a chryf ei gymhelliant a fydd yn darparu cymorth i’r Gwasanaeth Anableddau Dysgu Oedolion Cymunedol Sir Ddinbych, sydd wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, Rhuthun.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus safon dda o addysg a sgiliau cyfathrebu rhagorol, bydd yn gallu gweithio ar ei liwt ei hun a bydd yn gallu rheoli ei lwyth gwaith yn effeithlon ac yn drefnus.
Dylai’r ymgeisydd hefyd feddu ar sgiliau trin bysellfwrdd rhagorol a phrofiad o becyn meddalwedd Microsoft Office.
Mae agwedd dda wrth ateb y ffôn yn hanfodol. Byddai gallu siarad Cymraeg yn fuddiol ond nid yw’n hanfodol. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithredu’n broffesiynol ac yn sensitif a chynnal cyfrinachedd bob amser.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gwahoddir ceisiadau am Ysgrifenyddes Feddygol Cefnogi, 16 awr. Bydd angen i chi fod wedi eich ysgogi, yn hyblyg, yn gweithio ar eich liwt eich hun er mwyn rhoi cefnogaeth weinyddol ardderchog i’r uned. Drwy hyn, byddwch yn cyfrannu at wasanaeth effeithlon ac effeithiol mewn ffordd broffesiynol, sensitive a pharod eich cymorth Byddwch yn gweithio yn rhan o dîm a bydd angen i chi weithio’n agos gydag amrediad o staff.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad am 2 blynyddoedd oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- G.C.S.E Mathemateg a Saesneg C ac uwch neu gyfwerth
- NVQ Gweinyddu Busnes L3 neu brofiad cyfatebol
- RSA / OCR lefel 2 neu brofiad cyfatebol (rhaid bod yn ddefnyddiwr hyfedr o Microsoft word
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster cysylltiedig â TG (CLAIT plus neu ECDL).
- NVQ L2 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
- L2 Terminoleg feddygol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth o ystod o weithdrefnau gweinyddu
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio o fewn y GIG
- Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Cyfathrebu'n broffesiynol ac effeithiol â staff ar bob lefel, yn llafar ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau Gwasanaeth Cwsmer ardderchog
- Hyblyg ac addasadwy i alwadau cyfnewidiol y gwasanaeth
- Sgiliau trefnu rhagorol
- Sgiliau trefnu da
Meini prawf dymunol
- Gallu defnyddio cymwysiadau Microsoft Office
- Profiad o ddefnyddio systemau gweinyddu cleifion
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Samantha Kell
- Teitl y swydd
- Senior Medical Secretary
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01824 712788
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector