Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Deietegol
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (Mae’r swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad -- Dyddiad gorffen 02/03/2026)
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Gall gynnwys nosweithiau)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS094-0225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Adeilad Clwyd Alyn
- Tref
- Llanelwy
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/02/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Deieteg - Rheoli Pwysau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc
Gradd 3
Trosolwg o'r swydd
Mae’r swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad am 12 mis ar gyfer absenoldeb mamolaeth.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Mae cyfle gwych wedi codi ar gyfer Cynorthwyydd Therapïau Band 3 o fewn Tîm Rheoli Pwysau Pediatrig Lefel 3 BIPBC yn Llanelwy. Mae'r gwasanaeth yn chwilio am unigolion brwdfrydig sy’n angerddol dros helpu plant a theuluoedd. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gefndir neu ddiddordeb mewn maeth neu chwaraeon ac agwedd naturiol tuag at wella ansawdd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr cynorthwydd yn annog plant a theuluoedd i gynyddu lefelau eu gweithgarwch a gwneud dewisiadau iach o ran bwyd a ffordd o fyw. Byddant yn helpu plant i ymgysylltu a gosod nodau bach, cynaliadwy i wella eu hiechyd tra byddant yn mynychu rhaglen 12 mis Helpa Fi i Fod yn Iach. Bydd y rôl yn cynnwys elfennau amrywiol gan gynnwys o bosib cyflwyno sesiynau grŵp rhithwir trwy Teams (maeth, ffordd o fyw ac ymarfer corff), gweinyddiaeth, rhywfaint o waith un i un a chyswllt agos â'r tîm amlddisgyblaethol ehangach. Mae nifer o ffactorau’n cyfrannu at ordewdra plant felly mae angen agwedd hyblyg, empathetig er mwyn teilwra cymorth ar gyfer pob plentyn a mynd i'r afael â'u hanghenion penodol nhw eu hunain. Byddant yn helpu'r tîm ehangach i gefnogi newidiadau parhaus a fydd, yn y pen draw yn galluogi canlyniadau buddiol i'r plant ar y rhaglen.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Fframwaith Credydau Ansawdd ar lefel 3 e.e. NVQ yn ymwneud ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu weithio tuag at, (neu gyfwerth); Tystiolaeth ddogfennol o gyfranogiad mewn gweithgareddau hyfforddi
Meini prawf dymunol
- Aelodaeth o gorff proffesiynol a/neu grŵp diddordeb arbennig. Gradd mewn pwnc cysylltiedig â maeth.
Profiad / Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth o rôl y Dietegydd. Profiad perthnasol o weithio mewn lleoliadau iechyd, cymdeithasol neu addysg. Gwybodaeth sylfaenol am rai cyflyrau a allai effeithio ar faeth a hydradiad mewn oedolion, sy'n berthnasol i'r rôl. Hunan-gymhelliant ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda phobl â heriau cyfathrebu/anghenion ychwanegol eraill. Profiad mewn sefydliad clinigol a/neu arlwyo. Profiad o baratoi/arddangos bwyd ymarferol. Gwybodaeth sylfaenol o egwyddorion Rheolaeth Glinigol. Ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth ac arferion Iechyd a Diogelwch.
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Debbie Lewis
- Teitl y swydd
- Operational lead weight management services.
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 854420
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Am fanylion pellach, cysylltwch â
Sue Brierley-Hobson
03000 855986
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector