Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid - Contractio
- Gradd
- Band 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC420-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- I'w gadarnhau
- Tref
- I'w gadarnhau
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 04/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Uwch Reolwr Cyllid (Incwm)
Band 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae'r Tîm Contractau Gofal Iechyd yn rheoli amrywiaeth o gontractau incwm a gwariant â darparwyr allanol a chomisiynwyr Gwasanaethau Gofal Iechyd.
Os oes gennych chi gefndir ym meysydd cyllid incwm a chontractau ac rydych chi'n drefnus iawn ac yn dymuno gwneud gwahaniaeth i gleifion, gallwn gynnig cyfle i chi wella ac ehangu eich sgiliau presennol trwy weithio yn ein tîm dynamig.
I lwyddo, bydd angen i chi fod yn frwdfrydig ac yn rhagweithiol, yn gallu rhoi sylw i fanylion, ac yn meddu ar awydd i wella iechyd ein poblogaeth leol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â’n tim bach, sefydledig Cyllid Contractio i reoli pob agwedd ariannol o incwm y Bwrdd Iechyd gan gynnwys Cleifion Preifat, Ymwelwyr tramor, Plant sy’n derbyn gofal, Incwm Addysg a pob ad-daliad amrywiol arall.
Rydym yn chwilio am unigolyn cryf ei gymhelliant a hyblyg, sydd â sgiliau cyfathrebu cryf a phrofiad o weithio gyda darparwyr gwasanaethau a gomisiynir yn allanol, o fewn y GIG yn ddelfrydol.
Mae'r gallu i weithio mewn amgylchedd cyflym sy'n newid yn rheolaidd yn hanfodol, ac mae sgiliau rhyngbersonol cryf a'r gallu i gydweithio a datblygu perthnasoedd effeithiol â chydweithwyr ar draws ystod o ffiniau, gan gynnwys clinigwyr a sefydliadau partner yn hanfodol hefyd.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus gyda cyfrifoldeb ar gyfer reolaeth a pherfformiad cyffredinol y tim Incwm. Rheoli portffolio o gontractau a Chytundebau Lefel Gwasanaeth (CLG) ar draws y sefydliad cyfan gan gynnwys rheoli contractau y GIG, cyfraniad at ddatblygu mecanweithiau prisio a gweithgarwch ar draws yr holl wasanaethau, hyrwyddo systemau ar gyfer cofnodi, monitro a llunio adroddiadau Incwm am berfformiad contractau a'r cyswllt a'r cyd-drafod â Darparwyr a Comisiynwyr.
Bydd deilydd y swydd yn cydweithio â'r Prif Reolwr Cyllid a Rheolwyr Busnes yr Uwch Adran i sicrhau arweinyddiaeth glinigol ac uwch adrannol yn y broses incwm a sicrhau bod y broses yn cyd-fynd yn eglur â meysydd cysylltiedig gan gynnwys gwasanaethau i gleifion, cyllid, gwybodaeth ac ansawdd. Byddant yn darparu gwybodaeth ac arweiniad arbenigol ar ystod eang o faterion ariannol, perfformiad ac ansawdd hynod gymhleth, gan gynnwys gwybodaeth ac arweiniad i feddygon ymgynghorol a chlinigwyr eraill a Chyfarwyddwyr yr Uwch Adran
Bydd deilydd y swydd yn sicrhau bod yr holl wybodaeth ariannol mewn perthynas â incwm y Bwrdd Iechyd yn cael ei phrosesu yn unol â pholisïau a chanllawiau cyfrifyddu statudol a chyfreithiol, ac yn unol â therfynau amser ac amserlenni, trwy gwblhau ei waith ei hun a rheoli gwaith aelodau eraill y tîm ac eraill sy’n gweithio oddi tano.
Mae perthnasoedd allweddol yn cynnwys Rheolwyr Gweithredol a Chlinigwyr y Bwrdd Iechyd a Darparwyr a Chomisiynwyr allanol.
Mae Disgrifiad Swydd manwl ynghlwm wrth yr hysbyseb ac mae'n cynnwys disgrifiad llawn o ddyletswyddau, cyfrifoldebau, sgiliau a rhinweddau personol.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Aelod sy'n gyfrifydd cwbl gymwys o sefydliad proffesiynol CCAB,
- Profiad cyfatebol profedig yn dangod gwybodaeth eang a dealltwriaeth o Incwm y GIG a’r drefn weithredu o contractau.
Meini prawf dymunol
- Addysg gyffredinol o safon wych.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth o weithio mewn swydd Cyllid uwch mewn sefydliad mawr.
- Profiad o drin data, ymchwilio a dadansoddi.
- Gwybodaeth wych o feddalwedd cyfrifiadur
- Profiad helaeth o reoli ac arwain staff
- Profiad o reoli prosiectau a thasgau dros gyfnod cyflawni neu weithredu hir.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithredu arferion a gweithdrefnau Rheolaethau Incwm y GIG Cleifion Tramor a Chleifion Preifat
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ddadansoddi a chyfathrebu gwybodaeth hynod gymhleth yn effeithiol ar bob lefel o fewn y sefydliad a hefyd i gyrff allanol.
- Gallu dangos lefelau uchel o ganolbwyntio a gallu gweithio gyda lefel canolbwyntio uchel
- Tystiolaeth o adeiladu tîm a datblygu perthnasau gweithio positif
- Gallu gweithio o dan bwysau, blaenoriaethu a chyflawni gwaith o fewn terfynau amser.
Meini prawf dymunol
- Sgiliau dylunio taenlenni a chronfeydd data uwch
- Gallu cyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth helaeth a manwl o Chyllid y GIG
- Gwybodaeth a dealltwriaeth helaeth o drefniadau gweithredu incwm a chontractau’r GIG.
- Dealltwriaeth o'r materion ariannol o fewn Bwrdd Iechyd aml-safle a gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth helaeth am reolau a chanllawiau Cleifion Preifat a Chleifion Tramor y GIG, a thriniaethau TAW/Cyfrifo
Rhinweddau Personnol
Meini prawf hanfodol
- Lefel uchel iawn o hunanhyder, effeithiolrwydd personol, dycnwch a gwydnwch
- Parod i dderbyn syniadau a dulliau gweithio newydd.
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac i reoli ei waith ei hun i gyflawni terfynau amser
Meini prawf dymunol
- Wedi ymrwymo i ddiwylliant o welliant a datblygiad proffesiynol parhaus.
Gofynion Perthnason Eraill
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio ar draws safleoedd o fewn y Bwrdd Iechyd ac o fewn ardal ddaearyddol ehangach
- Bydd angen mynychu cyfarfodydd y tu allan i oriau gwaith arferol ar draws daeryddiaeth y Bwrdd Iechyd a thu allan i ogledd Cymru.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Gillian Milne
- Teitl y swydd
- Head of Healthcare Contracts - Finance
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 858733
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os hoffech gwybod mwy cysylltwch a Gillian Milne, Pennaeth Contractio Gofal Iechyd - Cyllid ar 03000 858733 neu
NEU
Nia Sparks, Prif Reolwr Cyllid ar 03000 858731 neu
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector