Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Radiograffyddion Therapiwtig Uwcharolygol
Gradd 8a
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i Radiograffyddion Therapiwtig Uwcharolygol i ymuno â'n tîm mewn adran radiotherapi flaengar yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae'r swydd hon wedi'i lleoli yn ein canolfan Lloeren radiotherapi newydd yn Ysbyty Neville Hall, Y Fenni.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Gweithredu fel cynghorydd radiotherapi technegol i'r adran radiotherapi.
- Rheolwr llinell uniongyrchol ar gyfer nifer o unedau arwahanol yn y gwasanaeth/adran, gan gynnwys yn gyfrifol am hyfforddiant, goruchwylio ac arfarnu staff a myfyrwyr o fewn y meysydd hynny
- Datblygu hyfforddiant, addysg a gosod amcanion ac arfarniad gweithwyr iechyd proffesiynol mewn amrywiaeth o leoliadau e.e. darlithoedd ffurfiol, seminarau, hyfforddiant grwpiau bach.
- Bod yn gyfrifol am gefnogi datblygiad gwasanaeth radiotherapi trwy weithredu clinigol strategaethau datblygu technegol a/neu newid proses
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu gliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications and Knowledge
Meini prawf hanfodol
- B.Sc. (Anrh) mewn Radiograffeg Therapiwtig neu Ddiploma Coleg y Radiograffyddion DCR (T)
- Wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus a enillwyd drwy gyrsiau byr ar lefel Meistr neu brofiad cyfwerth
- Gwybodaeth lawn am reoliadau ymbelydredd
- Gwybodaeth a dealltwriaeth hynod arbenigol a manwl o egwyddorion a chysyniadau sy'n sail i'r ystod eang a'r cymwysiadau a'r technegau mwy arbenigol a ddefnyddir ym maes radiotherapi
- Gwybodaeth am faterion oncoleg cyfredol gan gynnwys canllawiau cenedlaethol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion a chysyniadau sy'n sail i gymwysiadau a thechnegau sydd yn cael eu defnyddio ym maes radiotherapi.
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o astudio pellach i Lefel Meistr
- Gwybodaeth am Reoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) a Rheoliadau Iechyd a Diogelwch
- Astudiaethau/cymhwyster arweinyddiaeth neu reoli
- Gwybodaeth am ymchwil a datblygu
- Dealltwriaeth o'r GIG yng Nghymru
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gallu ymarferol a thechnegol cadarn
- Profiad sylweddol o oruchwylio a rheoli staff
- Profiad helaeth ar lefel uwch o weithio gydag ystod gyfan o offer a thechnegau radiotherapi
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gydag offer Varian a/neu Elekta
- Sicrhau ansawdd
- Asesu myfyrwyr
- Profiad o weithredu technegau/technolegau newydd
- Archwilio
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Sgiliau sefydliadol gan gynnwys y gallu i ddirprwyo a blaenoriaethu o dan bwysau ac i weithio i derfynau amser
- Sgiliau TG
- Yn gallu addasu i newid
- Dangos menter
- Hunan-ysgogol
- Gweithiwr tîm
- Dibynadwy a phrydlon
- Dull hyblyg at waith ac anghenion y gwasanaeth
- Gofalgar ac empathig
- Sgiliau rhyngbersonol gan gynnwys rheoli newid
- Sgiliau arwain uwch gan gynnwys cymhelliant
- Gallu dadansoddi’n feirniadol a datblygu technegau newydd
- Yn dechnegol gadarn
- Sgiliau rheoli
Meini prawf dymunol
- Sgiliau goruchwylio – radiograffwyr a myfyrwyr
- Sgiliau mentora
- Y gallu i siarad Cymraeg i Lefel 1
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kate Evans
- Teitl y swydd
- Radiotherapy Satellite Lead Radiographer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02920 615888
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
02920 615888 Ext 6258
Rhestr swyddi gyda Canolfan Ganser Felindre yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector