Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radiotherapy
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 120-AHP003-0225
- Cyflogwr
- Canolfan Ganser Felindre
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gwasanaeth Canser Felindre (Uned Lloeren Radiotherapi yn Ysbyty Neville Hall).
- Tref
- Y Fenni
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 24/02/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Radiograffyddion Therapiwtig
Gradd 6
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i Radiograffyddion Therapiwtig i ymuno â'n tîm mewn adran radiotherapi flaengar yng Gwasanaeth Ganser Felindre. Mae'r swydd hon wedi'i lleoli yn ein canolfan Lloeren radiotherapi newydd yn Ysbyty Neville Hall, Y Fenni.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gallai'r rôl gefnogi goherio dyddiad cychwyn os yn ddymunol
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cynorthwyo i drefnu'r llwyth gwaith yng ngwahanol swyddogaethau'r adran a chymryd cyfrifoldeb am hyfforddi a goruchwylio radiograffwyr iau a myfyrwyr.
I ddirprwyo yn rôl arweinydd y tîm yn absenoldeb y radiograffydd Band 7, yn ôl y gofyn.
Bod yn rhan o dîm amlddisgyblaethol mawr, a bod yn rhan o’r gwaith o ddarparu gofal llawn i gleifion sy'n cael radiotherapi.
Gweithio'n hyblyg yn unol â gofynion y gwasanaeth, gan gynnwys ar benwythnosau ac ar draws mwy nag un safle.
Cymryd rhan mewn triniaeth oriau uchwanegol, a gweithio ar alwad yn ôl y gofyn.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol rydym yn eu darparu ar draws Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol a’n Gwasanaeth Gwaed Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych chi eisiau gweithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn, ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael gwybod mwy https://velindre.nhs.wales/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu gliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau & Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- B.Sc. (Anrh) mewn Radiograffeg Therapiwtig neu Ddiploma Coleg y Radiograffyddion DCR (T)
- Wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
- Tystiolaeth o DPP (datblygiad proffesiynol parhaus) a enillwyd drwy gyrsiau byr neu brofiad cyfwerth
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion a chysyniadau sy'n sail i gymwysiadau a thechnegau sydd yn cael eu defnyddio ym maes radiotherapi.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion oncoleg presennol
- Gwybodaeth lawn am reoliadau ymbelydredd
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o astudio pellach i Lefel Meistr
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Sgiliau trefnu
- Sgil rhyngbersonol
- Sgiliau TG
- Trefnus
- Yn gallu addasu i newid
- Dangos menter
- Yn gallu sbarduno ei hun i weithio
- Gweithiwr tîm
- Dibynadwy a phrydlon
- Dull hyblyg o weithio a thuag at anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg i Lefel 1
- Sgiliau goruchwylio – radiograffwyr a myfyrwyr
- Sgiliau mentora
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth sylweddol am radiotherapi a gaffaelwyd drwy gylchdroi drwy bob agwedd ar radiotherapi sy'n cynnwys yr holl ystod o offer radiotherapi arbenigol iawn a hynod gymhleth
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion a chysyniadau sy'n sail i gymwysiadau a thechnegau sydd yn cael eu defnyddio ym maes radiotherapi.
- Gallu ymarferol a thechnegol cadarn
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gydag offer Varian a/neu Elekta
- Sicrhau ansawdd
- Archwilio
- Asesu myfyrwyr
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kate Evans
- Teitl y swydd
- Radiotherapy Satellite Lead Radiographer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02920 615888
Rhestr swyddi gyda Canolfan Ganser Felindre yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector