Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gradd Arbenigol mewn Microbioleg a Chlefydau Heintus
Gradd
NHS Medical & Dental: Specialist Grade
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-MD010-0524-A
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bronglais General Hospital
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£83,963 - £95,296 Y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Gradd Arbenigol mewn Microbioleg a Chlefydau Heintus

NHS Medical & Dental: Specialist Grade

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


 

Trosolwg o'r swydd

Mae hon yn swydd gradd Arbenigedd, ar gyfer gwasanaeth microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Yn y swydd hon byddwch chi'n ymuno â'r tîm heintiau clinigol sy'n ehangu er mwyn darparu gwasanaethau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chynorthwyo rhwydwaith ehangach Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae deiliad y swydd yn atebol yn rheolaethol i Gyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Diogelu a Sgrinio Iechyd, Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, trwy'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Heintiau ac Arweinydd Clinigol y Gwasanaethau Heintiau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.  Yn ddelfrydol, disgwylir i ymgeiswyr fod yn Gymrawd Coleg Brenhinol y Patholegwyr a/neu'n Aelod o Goleg Brenhinol y Meddygon.

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd ymgeiswyr

  • wedi’u cofrestru’n llawn ac yn meddu ar Drwydded i Ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol a byddant wedi cwblhau o leiaf 12 mlynedd o waith meddygol (naill ai cyfnod parhaus neu i gyd) ers ennill cymhwyster meddygol sylfaenol, gan weithio am o leiaf chwe blynedd mewn arbenigedd clefydau heintus neu ficrobioleg yn y graddau Meddyg Arbenigol a/neu SAS caeedig. Bydd profiad blynyddoedd cyfatebol mewn arbenigedd perthnasol ar raddau meddygol eraill gan gynnwys o dramor yn cael ei dderbyn hefyd.
  • yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y fframwaith o alluoedd cyffredinol ar gyfer gradd Arbenigol

Gall yr ymgeisydd llwyddiannus ddisgwyl cael cynnig cytundeb anrhydeddus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Gweithio i'n sefydliad

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Arweinyddiaeth a chyfathrebu strategol a phroffesiynol:

Bydd y sawl a benodir yn sicrhau diwylliant o gynnal a gwella ansawdd yn barhaus. Yn y rôl hon, bydd y sawl a benodir yn gwneud y canlynol:

  • Hyrwyddo gwaith tîm amlbroffesiynol yn yr adran
  • Sicrhau prosesau cyfathrebu a gwaith tîm priodol gyda gwasanaethau eraill oddi mewn i Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwasanaethau mewn Ymddiriedolaethau, Byrddau Iechyd, a chymunedau iechyd eraill sy'n cael eu gwasanaethu gan Adran Ficrobioleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • Cyfrannu at gyfarfodydd yr adran
  • Cyfrannu at ddatblygiadau a gwelliannau i'r gwasanaeth
  • Cyfrannu at ddatblygu llwybrau sy'n canolbwyntio ar gleifion
  • Cyfrannu at archwilio clinigol, adolygu, a chynllunio gwasanaethau
  • Datblygu achosion busnes fel sy'n briodol
  • Cyfrannu at ddatblygu'r gwasanaeth yn unol ag amcanion rhwydwaith Gwasanaeth Heintiau Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r agenda Moderneiddio Patholeg genedlaethol a lleol
  • Ymgynghori â phob adran o'r gwasanaeth ar newidiadau, gan gynnwys caffael offer
  • Cyfrannu at ddatblygu a chryfhau cysylltiadau gwaith gyda darparwyr a chomisiynwyr gofal sylfaenol/cymunedol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

CYRHAEDDIADAU ADDYSGOL A GALWEDIGAETHOL

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad llawn a Thrwydded i Ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol;
  • ac wedi cwblhau o leiaf ddeuddeg mlynedd o hyfforddiant ôl-radd llawn amser (neu gyfnod cyfatebol ar sail rhan-amser neu hyblyg), gan gynnwys o leiaf bedair blynedd mewn rhaglen hyfforddi arbenigol Clefydau Heintus neu Ficrobioleg, neu brofiad a chymwyseddau cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • MRCP neu gymhwyster cyfatebol
  • FRCPath neu gymhwyster cyfatebol
  • CCT/ cymhwyster cyfatebol (yn ddelfrydol ym maes Microbioleg a/neu Glefydau Heintus)

DONIAU A SGILIAU ARBENNIG

Meini prawf hanfodol
  • Ymrwymiad i waith tîm
  • Ymrwymiad i ddatblygiad gyrfa
  • Hunan-gymhelliant, rhagweithiol, arloesol
  • Gallu blaenoriaethu gwaith ac ymdopi â newid ac ansicrwydd
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig
Meini prawf dymunol
  • Meddyliwr strategol
  • Rheoli staff
  • Diddordeb a Phrofiad o OPAT

DIDDORDEBAU

Meini prawf hanfodol
  • Profiad mewn addysgu meddygol israddedig ac ôl-radd

YMAGWEDD

Meini prawf hanfodol
  • Gallu addasu i sefyllfaoedd a thrin pobl o bob gallu ac agwedd
  • Sgiliau dylanwadu a rhyngbersonol effeithiol

GOFYNION ARBENNIG

Meini prawf hanfodol
  • Rhaid bod yn barod i breswylio o fewn pellter teithio rhesymol i'r labordy, a rhaid bod yn barod i deithio a gweithio ar safleoedd yn unol â gofynion y rôl
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Harsha Perera
Teitl y swydd
Service Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01554 783574
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg