Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaeth Caffael - Cadwyn Gyflenwi, Logisteg a Chludiant
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol: Amherthnasol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (.)
Cyfeirnod y swydd
043-AC146-0724
Cyflogwr
GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty tywysoges Cymru
Tref
Penybont
Cyflog
£25,524 - £28,010 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
31/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo

Uwch Reolwr Cadwyn Gyflenwi

Gradd 4

Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-

 Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz

 

 Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM

 

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

 

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Uwch Reolwr Cadwyn Gyflenwi band 4 wedi’i leoli yn Warws Rhanbarthol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n gwasanaethu'r safle Derbyn a Dosbarthu (R&D) ar draws De a Gorllewin Cymru. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â Rheolwyr Safle Rhanbarthol, Rheolwyr Cynorthwyol Cadwyn Gyflenwi Rhanbarthol i sicrhau bod yr holl Storfeydd Derbyn a Dosbarthu yn cydymffurfio ac yn gweithio o fewn egwyddorion a pholisïau’r adran. Mae’r rôl yn un amrywiol a bydd angen i chi deithio i’r safleoedd Derbyn a Dosbarthu i gynorthwyo cyflawni ein Cynllun Tymor Canolig Integredig [IMTP] o ran moderneiddio prosesau, adolygu gweithdrefnau yn unol â System Rheoli Dogfennau PCGC [DMS], gan weithio’n agos gyda’r holl reolwyr/rhanddeiliaid i gyflawni'r canlyniad gofynnol. Prif gyfrifoldeb y rôl yw cefnogi pob safle gydag Archwiliadau Mewnol/Allanol, cefnogi Darpariaeth Gyflenwi Rheolwyr Safleoedd lle bo angen ynghyd â chefnogi/hyrwyddo Iechyd a Diogelwch ar safleoedd.  

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gweler y Swydd-ddisgrifiad atodedig am fanylion pellach.

Goruchwylio dosbarthiad Llwyth Gwaith i staff yn unol â pholisi a phroses.

Sicrhau bod adnoddau ac offer digonol ar gael ar gyfer llwythi gwaith dyddiol.
 

Bod yn gyfrifol am ddiogelwch cyffredinol yr ardal Derbyniadau.
 

Goruchwylio gweithgarwch staff gan sicrhau bod y gwasanaeth yn darparu ar gyfer ac yn bodloni'r safon ofynnol ar gyfer Cwsmeriaid.
 

Pan fo angen, goruchwylio’r gwaith o ddyrannu staff i wahanol dasgau dyddiol i gynnal gweithrediad storfeydd effeithiol ac effeithlon.
 

Cynnal a diweddaru gwybodaeth benodol yn unol â gweithdrefnau ansawdd.
 

Cynorthwyo i ddadlwytho cerbydau yn brydlon ac yn briodol a llwyfannu eitemau i'w dosbarthu.
 

Arolygu a goruchwylio'r broses dderbyn.
 

Cynorthwyo Rheolwyr i weithredu moderneiddio prosesau.
 

Helpu i fonitro perfformiad staff, gan ddefnyddio dulliau archwilio amrywiol i ddadansoddi'r wybodaeth.

Gweithio i'n sefydliad

Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.

Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl. 

Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.

Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb.  I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/

Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd. 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau & Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel HNC/Diploma a/neu brofiad cyfatebol mewn amgylchedd Storfeydd.
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn polisi a newidiadau arfaethedig i arferion

Gwybodaeth & Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth a Phrofiad o Asesiadau Risg a nodi risg o fewn amgylchedd prysur.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddatblygu / gwella systemau i wasanaethau cymorth.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Customer Service ExcellenceHyderus o ran anabledd - ymroddedigDisability confident committedMenopause Workplace PledgeEnei MemberLexcel Legal Practice Quality MarkRhwydwaith Network 75 logoEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Paul Davies
Teitl y swydd
Regional Supply Chain Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07538920941
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg