Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Technegydd Profi Biolegol
Band 5
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Lleolir y rôl hon yn ein safleoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chasnewydd. Lleolir y rôl yn y labordy biolegol a bydd yn cynnwys profi dyfeisiau meddygol ar gyfer GIG Cymru a chleientiaid masnachol. Bydd y rôl yn gofyn am weithio i system ansawdd achrededig Gwasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (UKAS). Bydd y dyletswyddau'n cynnwys trin a phrofi samplau megis deunyddiau llawfeddygol, gorchuddion a dyfeisiau meddygol/llawfeddygol gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau microbiolegol, biolegol a chemegol. |
Prif ddyletswyddau'r swydd
Profi dyfeisiau meddygol ar gyfer GIG Cymru a’r diwydiant i asesu a yw dyfeisiau a roddir ar gontract neu ar y farchnad yn ddiogel ac yn briodol i'w defnyddio ar gleifion. Dewis a pherfformio ystod eang o brofion ar ddyfeisiadau meddygol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, endotocsin dyfeisiau meddygol a dŵr, biolwyth dyfeisiau meddygol, profi gorchuddion gwrthficrobaidd a threiddiad sych llenni a gynau llawfeddygol. Defnyddio eu gwybodaeth i ddehongli Safonau Prydeinig, Ewropeaidd a Rhyngwladol i benderfynu a all y labordy gynnal profion. Dadansoddi, cymharu a dehongli data gwyddonol crai, i benderfynu a yw canlyniadau'n bodloni gofynion cydymffurfio safonau ai peidio. Ysgrifennu, dilysu a defnyddio Dulliau Prawf a Gweithdrefnau Gweithredu Safonol ar gyfer yr adran, gan sicrhau bod cronfeydd data a systemau dogfennu yn gyfredol. Bod yn ymwybodol a chydymffurfio â rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, asesiadau risg a thaflenni data peryglon, a bod yn gyfarwydd â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch yr adran: Cysylltu a chyfathrebu â chleientiaid a staff gofal iechyd ynghylch prosiectau profi gyda lefelau amrywiol o staff. Cymryd cyfrifoldeb am wirio a chynnal cyflenwadau nwyddau traul y labordy, gan gynnwys stoc cemegol, yn ogystal â monitro’r oergell a'r rhewgell a thymereddau deorydd a ddefnyddir i storio deunyddiau biolegol drud, adweithyddion a samplau sydd angen amodau storio llym yn ddyddiol; |
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym safonau uchel ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn. Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol. Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac |
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Yn gofyn am wybodaeth wyddonol a gafwyd trwy radd fiolegol berthnasol neu gyfwerth.
- Profiad labordy microbiolegol neu fiolegol ymarferol blaenorol a hyfforddiant yn y gwaith yn y dulliau prawf microbiolegol, biolegol a chemegol penodol a ddefnyddir yn y labordy, e.e. staenio Gram, a phrofion cemegol dŵr.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ôl-raddedig mewn pwnc perthnasol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad mewn morffoleg ac adnabod microbaidd, profi dyfeisiau meddygol gwrthficrobaidd, dadansoddi dŵr yn gemegol.
- Profiad o weithio gydag ystod o ficro-organebau pathogenig, llinellau celloedd anifeiliaid, a bacterioffag.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio i system ansawdd ddiffiniedig, yn ddelfrydol wedi'i hachredu gan ISO 17025.
- Technegau labordy da fel pipedu, adnabod organebau, endotocsin a phrofion cyfanswm nifer hyfyw (TVC)
offer awtomataidd a lled-awtomataidd.S giliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol mewn TG cyfrifiadurol e.e. systemau gweithredu tebyg i UNIX, MS Office a Systemau Rheoli Gwybodaeth Labordai.
- Yn gallu cyfathrebu ag unigolion ar bob lefel.
- Yn gallu gweithio fel rhan o dîm, neu heb oruchwyliaeth.
Meini prawf dymunol
- Yn gallu dilyn gweithdrefnau ysgrifenedig yn gywir.
- Yn gallu gweithio i amserlenni tynn a rheoli gofynion sy’n gwrthdaro o ran amser ac adnoddau.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn meddu ar drwydded yrru DU lawn a chyfredol.
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu’n barod i weithio tuag at hynny
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Pamela Ashman
- Teitl y swydd
- Technical Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01656 752820
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector