Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Dadansoddiad
Gradd
Band 7
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (due to need of service)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-AC204-0624-A
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bocam Park, Pencoed
Tref
Bridgend
Cyflog
£44,398 - £50,807 Y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
31/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Uwch Ddadansoddwr Busnes, Cynllunio a Chyflawni Ariannol- GIG CYMRU

Band 7

Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023

Ein pwrpas allweddol yw...

Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.

 I gael gwybod mwy, ewch i Weithrediaeth GIG Cymru.

 Ein Gwerthoedd

Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle tymor penodol cyffrous wedi codi i ymuno â Chyfarwyddiaeth Weithredol Cynllunio a Chyflawni Ariannol y GIG fel Uwch Ddadansoddwr Busnes.

Mae cyfle secondiad cyffrous wedi codi i ymuno â Chyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol Gweithrediaeth GIG fel Uwch Dadansoddwr Busnes. Byddwch yn ymuno â thîm arloesol a llwyddiannus sy’n angerddol dros sicrhau gwerth yn GIG Cymru, gan ddarparu golwg ar y system ehangach drwy driongli canlyniadau cleifion, data ariannol a gweithgaredd gofal iechyd, a chefnogi cynaliadwyedd ariannol a gwelliant ar draws y system.

Fel y mae proffil ac enw da’r Gyfarwyddiaeth wedi cynyddu ers ei sefydlu, felly hefyd y galw am ei harbenigedd a’i dealltwriaeth. Rydym yn ehangu’r tîm mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys dadansoddeg, gwybodeg, gwyddor data a strategaeth a rheolaeth ariannol.

Mae’n amser cyffrous i unigolion sydd â’r cymhelliant a’r uchelgais i ymuno â’r tîm gyda rhaglen waith ac agenda gynyddol, ac sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth yn GIG Cymru.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys chwarae rôl ganolog i gynhyrchu dadansoddiadau a deallusrwydd ariannol cadarn ac effeithiol er mwyn cyfrannu at amcanion cyflawni’r Gyfarwyddiaeth. Mae deilydd y swydd yn weithiwr proffesiynol cyllid cymwysedig yn y Gyfarwyddiaeth, sy’n cynorthwyo’r Cyfarwyddwyr Cynorthwyol i fonitro cynlluniau blynyddol yn fanwl, a chyflawni darpariaethau allweddol. Mae hyn yn cynnwys creu adroddiadau misol ar gyfer sefydliadau sy’n dadansoddi tueddiadau ariannol a defnyddio offer dadansoddi i asesu risgiau a phrofi perfformiad a rhagolygon sefydliadau mewn senarios penodol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae’n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i’r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.

Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Fe welwch Swydd-ddisgrifiad a Manyleb Person llawn ynghlwm gyda’r dogfennau ategol neu cliciwch ar “Ymgeisio Nawr” i’w gweld yn Trac.

Am fanylion pellach cysylltwch â: [email protected]

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • CYMHWYSTER CCAB/CIMA AC YN AELOD O GORFF PROFFESIYNOL
  • WEDI CAEL ADDYSG I LEFEL GRADD NEU GYFATEBOL
  • TYSTIOLAETH O DDATBLYGIAD PROFFESIYNOL PARHAUS
Meini prawf dymunol
  • PROFIAD O REOLI PROSIECTAU

PROFIAD A GWYBODAETH

Meini prawf hanfodol
  • PROFIAD O WEITHIO MEWN ADRAN GYLLID
  • PROFIAD O DDEFNYDDIO A GWELLA SYSTEMAU ARIANNOL
  • PROFIAD O WEITHIO GYDA RHEOLWYR A DEILIAID CYLLIDEBAU
Meini prawf dymunol
  • PROFIAD O WEITHIO YN Y GIG
  • PROFIAD O WEITHIO Â SEFYDLIADAU PARTNER
  • YMWYBYDDIAETH Y GELLIR EI DANGOS O FUDDIANNAU A BLAENORIAETHAU RHANDDEILIAID

3. SGILIAU A GALLU

Meini prawf hanfodol
  • GALLUOEDD DADANSODDOL SYLWEDDOL
  • Y GALLU I WEITHIO’N ANNIBYNNOL AC YN GYDWEITHREDOL
  • Y GALLU I DDEFNYDDIO SYSTEMAU I GREU ADRODDIADAU, TRAFOD A DEHONGLI DATA
Meini prawf dymunol
  • Y GALLU I DROI DATA YN WYBODAETH
  • Y GALLU I GREU NEWID A GWELLA ANSAWDD GWASANAETHAU
  • SGILIAU MEWN MEDDALWEDD DEALLUSRWYDD BUSNES A CHRONFEYDD DATA

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kim Rowe
Teitl y swydd
Head of Business Analysis
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Jessica Hammond

Rhwng 9yb a 4yp Dydd Lun - Dydd Iau

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg