Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd y Cyhoedd
Gradd
Band 5
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (due to maternity cover)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-AC238-0724
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
TBC - Caerdydd/Abertawe
Tref
Caerdydd,
Cyflog
£28,834 - £35,099 Y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Cydlynydd Gwella Iechyd

Band 5

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Trosolwg o’r swydd

Gwella Iechyd

Band 5 Agenda ar gyfer Newid (AFC)

37.5 awr yr wythnos Parhaol

Lleoliad i'w drafod

Mae Is-adran Gwella Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain camau gweithredu ar lefel genedlaethol neu Gymru gyfan i wella iechyd y boblogaeth, atal afiechyd a lleihau anghydraddoldebau drwy fynd i’r afael ag ymddygiadau sy’n niweidio iechyd fel deiet gwael, ysmygu ac yfed uwchlaw’r canllawiau.  Rydym hefyd yn arwain gwaith sy’n ymwneud ag iechyd plant a phobl ifanc, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar ac i hybu llesiant meddyliol.  Gwnawn hyn drwy weithio'n agos gyda'n partneriaid strategol yn y Llywodraeth, cyrff cenedlaethol eraill a Chyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd a chydag ystod o bartneriaid megis ysgolion, gweithleoedd, grwpiau cymunedol, yn ogystal â llywodraeth leol a'r GIG.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn awyddus i recriwtio unigolion brwdfrydig gyda sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol i gyfrannu at waith ar draws nifer o raglenni gwaith.   Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn ymuno â thîm sy'n gyfrifol am ddatblygu a chynnal dulliau cyfathrebu effeithiol, cydlynu'r gwaith o gyflwyno a monitro ein rhaglenni o ddydd i ddydd a chefnogi'r gwaith o reoli cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol a’r wefan.

Os oes gennych gymhelliant uchel gyda chefndir amlwg mewn cydlynu a chyflawni prosiectau, sy'n rhannu ein gwerthoedd, rydym yn croesawu'ch cais.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ac rydym yn arbennig o awyddus i annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg. Dylech naill ai ddal neu fod yn fodlon gweithio tuag at gofrestriad fel Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd gyda Chofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU.

Gweithio i'n sefydliad

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Swydd-ddisgrifiad manwl a phrif gyfrifoldebau

Gallwch ddod o hyd i Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person gynhwysfawr ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais” i'w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth mewn disgyblaeth sy'n ymwneud ag iechyd neu wyddor gymdeithasol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddarparu rôl cydlynu rhaglen neu brosiect
  • Profiad o baratoi deunyddiau cyfathrebu ar gyfer prosiect neu raglen

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau trefnu rhagorol mewn amgylchedd aml-brosiect
  • Y gallu i gasglu a choladu data o sawl ffynhonnell ansoddol a meintiol, gan farnu ar yr angen am ragor o wybodaeth

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Health Improvement Business Support Team
Teitl y swydd
Business Support
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliadau anffurfiol, cysylltwch â:

Enw

Tîm Cymorth Busnes Gwella Iechyd

Teitl y Swydd

Cymorth Busnes

Cyfeiriad e-bost

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg