Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant
Gradd
Gradd 7
Contract
Cyfnod Penodol: 7 mis (Tymor Sefydlog neu Secondiad tan 31ain Mawrth 2025)
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
  • Gweithio gartref neu o bell
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-AC153-0524-A
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Caerdydd/ Wrecsam/ Abertawe
Tref
Caerdydd
Cyflog
£44,398 - £50,807 Y Flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
31/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd (Polisi ac Eiriolaeth)

Gradd 7

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd sydd â gweledigaeth ag angerdd am bolisi ac eiriolaeth. Ymunwch â ni yn y Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, lle rydym yn chwyldroi iechyd y cyhoedd trwy bolisïau arloesol ac eiriolaeth bwerus. Rydym yn dîm deinamig sydd wedi ymrwymo i gael effaith wirioneddol i wella a diogelu iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a thu hwnt.

Byddwch ar flaen y gad o ran llunio polisïau a strategaethau iechyd y cyhoedd, ysgogi newid deddfwriaethol a hyrwyddo tegwch iechyd. Bydd eich dirnadaeth yn dylanwadu ar bolisïau cenedlaethol a bydd eich eiriolaeth yn grymuso cymunedau i gyflawni canlyniadau iechyd gwell.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

·       Datblygu a gweithredu polisïau iechyd y cyhoedd blaengar.

·       Eiriol dros newidiadau deddfwriaethol i wella iechyd y cyhoedd.

·       Cydweithio â rhanddeiliaid i hyrwyddo tegwch iechyd.

·       Arwain datblygiad eiriolaeth polisi strategol a chynlluniau gweithredu.

·       Cynnal dadansoddiad i ddatblygu argymhellion polisi ar gyfer Llywodraeth Cymru a Llunwyr Polisi yng Nghymru.

Gweithio i'n sefydliad

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Lefel meistr neu brofiad cyfatebol
  • Gradd Uwch gydag elfen ymchwil gref

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad amlwg o ddadansoddi polisi, deall cyd-destunau gwleidyddol a pholisi, a dod o hyd i atebion ee trwy ddatblygu cynigion polisi cadarn
  • Profiad o gynnal ymchwil sy'n berthnasol i iechyd y cyhoedd neu bolisi
  • Profiad o ddatblygu a rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid
  • Profiad o ymgysylltu â'r llywodraeth a/neu sefydliadau rhanddeiliaid i ddylanwadu ar lunwyr polisi
  • Profiad o arwain prosiectau neu raglenni

Gwybodaeth, Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau eiriolaeth a dylanwadu polisi trwy adeiladu perthnasoedd dylanwadol, gyda'r gallu i gyflwyno materion cymhleth mewn arddull berswadiol, hygyrch i ystod o gynulleidfaoedd ac mewn gwahanol leoliadau
  • Gallu i gymhathu materion/meysydd polisi newydd yn gyflym, gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol feysydd polisi, a chychwyn a fframio agendâu polisi newydd
  • Gwybodaeth am ystod o ddulliau ac agweddau ymchwil
  • Sgiliau trefnu rhagorol gyda'r gallu i flaenoriaethu eich gwaith eich hun a gwaith eraill yn effeithiol ac addasu i flaenoriaethau newidiol ac amgylcheddau hyblyg
  • Sgiliau ysgrifennu rhagorol a sylw i fanylion
  • Sgiliau rheoli prosiectau a/neu raglenni
  • Gallu i gyfathrebu gwybodaeth gymhleth yn ysgrifenedig ac ar lafar, mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol ac i wahanol gynulleidfaoedd
  • Tystiolaeth o ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Gallu amlwg i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaeth
  • Gallu amlwg i weithio dan bwysau, cynllunio a rheoli eich llwyth gwaith eich hun a chynllunio gwaith ymlaen llaw i gwrdd â therfynau amser
  • Gallu amlwg i ysgogi eich hun ac eraill

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Leah Silva
Teitl y swydd
Principal Public Health Practitioner
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
029 2022 7744
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg