Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 028-AC086-0425
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/04/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 29/04/2025
Teitl cyflogwr

Disgrifiad Swydd
Gradd 4
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym nifer o gyfleoedd cyffrous i ymuno â'n Hadran Cyllid a Pherfformiad a'r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau a Chyllid. Mae ein tîm yn ymrwymedig i fyw gwerthoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn falch o'r gwaith yr ydym yn ei wneud.
Os ydych yn frwdfrydig am ddyfodol ym maes cyllid a pherfformiad yna gallai un o'r rolau cyffrous hyn fod yn addas i chi. Byddem yn croesawu galwad i drafod unrhyw ymholiadau sydd gennych a gellir trefnu ymweliad i gwrdd â'r tîm os byddai'n helpu gyda'ch penderfyniad ynghylch gwneud cais.
Dyma'r cyfleoedd presennol sydd ar gael a welwch ar ein tudalen gyrfaoedd:
Chynorthwyydd Cyllid
Rydym yn ymdrechu i wneud gwaith i safon eithriadol o uchel a defnyddio arfer gorau ac arloesedd. Rydym yn ceisio creu diwylliant bywiog, cynhwysol, ac iach lle mae ein tîm yn cael ei gefnogi i ddatblygu a ffynnu. Rydym yn ymrwymedig i greu a meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, hyblyg a chynaliadwy.
Mae'r rôl hon yn cwmpasu Gweithio Ystwyth, gyda'r swyddfa yng Nghwr y Ddinas 2 yng Nghaerdydd. Gall fod gofyniad hefyd i deithio i safleoedd eraill Iechyd Cyhoeddus Cymru ar adegau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn gyfrifol am baratoi adroddiadau rheoli ariannol misol cywir yn unol â'r amserlen adrodd.
Cynorthwyo'r gwaith o ddatblygu a gwella gwaith y tîm rheoli ariannol yn barhaus, drwy adolygu a symleiddio prosesau presennol a darparu amrywiaeth o gymorth a chyngor rheoli ariannol yn ôl yr angen.
Mae hwn yn gyfle delfrydol i rywun sy'n awyddus i ehangu ei sgiliau a'i wybodaeth i ddatblygu gyrfa ym maes Cyllid ymhellach. Rydym yn cefnogi datblygiad personol a phroffesiynol a byddwn yn gweithio gyda'r ymgeisydd llwyddiannus i lunio cynllun datblygu personol.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- O leiaf 5 TGAU (gan gynnwys Mathemateg) neu gyfwerth
- Technegydd AAT / NVQ lefel 4 / Tystysgrif genedlaethol uwch / NEBS lefel 3 neu'n barod i astudio tuag at gymhwyster AAT
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd ariannol
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y GIG
Sgiliau, Gwybodaeth, Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Yn fedrus wrth ddefnyddio Microsoft Excel
- Yn rhifog ac yn hyddysg mewn TG
- Sgiliau cyfathrebu da – yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Gallu gweithio ar ei fenter ei hun
- Dull manwl a threfnus o weithio
Meini prawf dymunol
- Gallu defnyddio Microsoft Word ac Access
- Yn gyfarwydd â system ariannol Oracle
- Ymwybyddiaeth o faterion Cyllid y GIG
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Andrew Davies
- Teitl y swydd
- Senior Finance Partner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Kelly Gibbons
Uwch Bartner Cyllid
Amanda Bishop
Uwch Bartner Cyllid
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector