Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radiotherapy
- Gradd
- Band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 120-AHP006-0225
- Cyflogwr
- Canolfan Ganser Felindre
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gwasanaeth Canser Felindre
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 06/03/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Radiograffydd Cyn Triniaeth
Band 6
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i Radiograffydd Cyn Triniaeth i ymuno â'n tîm mewn adran radiotherapi flaengar yng Nghanolfan Ganser Felindre. yng nghaerdydd
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais
Prif ddyletswyddau'r swydd
BSc (Anrh) T, Diploma Coleg y Radiograffyddion DCR(T), neu Ddiploma Ôl-raddedig mewn Radiotherapi
Wedi cofrestru gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal
Profiad o symud o gwmpas drwy bob maes/uned arbenigol o’r gwasanaeth radiotherapi.
Profiad manwl o amrywiaeth o dechnegau radiotherapi.
Darparu gwasanaeth clinigol arbenigol iawn. Gweithredu gweithdrefnau radiotherapi hynod arbenigol h.y. defnyddio delweddu diagnostig cymhleth er mwyn cynhyrchu cynlluniau radiotherapi ar gyfer triniaethau.
Bydd profiad y radiograffydd yn caniatáu iddynt drafod sut i ddarparu’r driniaeth orau o fewn amgylchedd amlddisgyblaethol.
Dehongli cynlluniau triniaeth cymhleth a chyfrifiadau.
Yn darparu cyngor haen gyntaf i feddygon teulu, nyrsys a meddygon.
Graddnodi a sicrhau ansawdd cyfarpar cyn triniaeth yn ddyddiol.
Sgiliau arbenigol ar gyfer asesu cyflyrau canser acíwt a chronig. Mae hyn yn cynnwys asesu cleifion cyn radiotherapi, gwerthuso'r cynllun triniaeth, addasiadau i'r cynllun ac iechyd a lles cyffredinol cleifion.
Mae'n gyfrifol am sicrhau bod y presgripsiwn am driniaeth yn fanwl gywir ac yn gywir cyn y gall y driniaeth ddechrau.
Cyfrifo dosau triniaeth radiotherapi gan gynnwys cywiriadau neu addasiadau priodol o fewn y protocolau a nodwyd.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol rydym yn eu darparu ar draws Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol a’n Gwasanaeth Gwaed Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych chi eisiau gweithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn, ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael gwybod mwy https://velindre.nhs.wales/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu gliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- B.Sc. (Anrh) mewn Radiograffeg Therapiwtig neu Ddiploma Coleg y Radiograffyddion
- Wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd.
- Tystiolaeth o DPP (datblygiad proffesiynol parhaus) a enillwyd drwy gyrsiau byr neu brofiad cyfwerth
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion a chysyniadau sy'n sail i gymwysiadau a thechnegau sydd yn cael eu defnyddio ym maes radiotherapi.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion oncoleg presennol
- Gwybodaeth lawn am reoliadau ymbelydredd
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o astudio pellach i Lefel Meistr
Experience
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth sylweddol a phenodol am radiotherapi sydd wedi ei chaffael drwy symud o gwmpas drwy bob agwedd o’r maes radiotherapi, sy'n cynnwys yr ystod gyfan o offer radiotherapi hynod arbenigol a chymhleth iawn, gan gynnwys cyflymyddion llinellol a sganwyr tomograffeg gyfrifiadurol (CT)
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion a chysyniadau sy'n sail i gymwysiadau a thechnegau sydd yn cael eu defnyddio ym maes radiotherapi.
- Gallu a phrofiad ymarferol a thechnegol cadarn mewn ystod eang o dechnegau cyn-driniaeth a llonyddiad
Meini prawf dymunol
- Sicrhau ansawdd
- Archwilio
- Asesu myfyrwyr
Aptitude and abilities
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Sgiliau trefnu
- Sgil rhyngbersonol
- Sgiliau TG
- Trefnus
- Yn gallu addasu i newid
- Dangos menter
- Yn gallu sbarduno ei hun i weithio
- Gweithiwr tîm
- Dibynadwy a phrydlon
- Dull hyblyg o weithio a thuag at anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg i Lefel 1
- Sgiliau goruchwylio – radiograffwyr a myfyrwyr
- Sgiliau mentora
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Samantha Allen
- Teitl y swydd
- Deputy Radiotherapy Services Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02920 615888
Rhestr swyddi gyda Canolfan Ganser Felindre yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector