Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwyyd Labordy Meddygol
Band 2
PWY YDYM NI:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw un o’r Byrddau Iechyd Integredig mwyaf yn y DU, yn cyflogi dros 17,000 o staff ac yn darparu dros 100 o wasanaethau arbenigol. Mae gennym amrywiaeth o yrfaoedd i’w cynnig ar draws 6 safle ysbyty. Gan wasanaethu dros 500,000 o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro, ein ffocws yw anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth leol a gwaith partneriaeth i ddatblygu gwasanaethau rhanbarthol. Ar y cyd, rydym yn ymrwymedig i wella canlyniadau iechyd i bawb a darparu gofal a chefnogaeth ragorol.
Ein cenhadaeth yw “Byw’n Dda, Gofalu’n Dda, Gweithio Gyda’n Gilydd”, a’n gweledigaeth yw y dylai siawns pob unigolyn o fyw bywyd iach fod yn gyfartal. Ein strategaeth trawsnewid a gwella 10 mlynedd, Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol, yw ein cyfle i gydweithio â’r cyhoedd a’n gweithlu i sicrhau bod ein bwrdd iechyd yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae’r adran haematoleg labordy (trallwysiad gwaed) yn edrych i benodi Cynorthwyyd Labordy Meddygol (MLA) brwdfrydig a llawn cymhelliant I gefnogi’r Gwaith o ddarparu gwasanaeth o fewn ein Bwrdd Iechyd Prifysgol cyffrous.
Mae’r rôl yn y Labordy Trallwyso Gwaed yn Ysbyty Athrofaol Cymru a bydd yn cefnbogi staff presennol i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf. Mae'n rôl ran-amser, 3.75 awr ar ddydd Mercher a 7.5 awr yr un ar ddydd Iau a dydd Gwener.
Bydd progiad o weithio yn y GIG o fantais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae’r Labordy Haematoleg a Thrallwyso yn darparu gwasanaeth diagnostig i ddinas Caerdydd a Bro Morgannwg ac yn darparu gwasanaeth trydyddol ar gyfer poblogaeth fwy de Cymru a thu hwnt.
Mae’r adran yn ceisio ehangu’r tîm o Gynorthwywyr Labordai Meddygol i ddarparu swasanaeth yn y Labordy Trallwyso Gwaed. Bydd y swydd yn bennaf fel Ysbyty Athrofaol Cymru sydd â llawer o arbenigeddau ac a fydd yn Ganolfan Drawma fawr Benodedig i Gymry.
Bydd cymorth yn cael ei ddarparu i unigolion i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth am yr adrannau priodol yn y Labordy Trallwyso Gwaed. Yn gyfnewid am hyn, rydym yn disgwyl ymywymiad i gyflawni yn erbyn safonau uchel o fewn ein System Rheoli Ansawdd.
Y gallu i siarad Cymrtaeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso I siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw un o’r byrddau mwyaf yn y DU, ac mae’n cyflogi dros 15,000 o staff, gan ddarparu 100 o wasanaethau arbenigol. Gan weithio ar draws che safle Ysbyty, mae gennym ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa I’w cynnig. Gan wasanaethu tua 500,000 o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, rydym yn canolbwyntio ar anghenion iechyd a gofal poblogaeth leol tra’n gweithio gyda’n partneriaid I ddatblygu gwasanaethau rhanbarthol.
Ein cenhadaeth yw “Gofalu am pobl, cadw pobl yn iach”, a’n gweledigaeth yw y dylai cyfle pob person o fyw bywyd iach fod yn gyfartal. Fel sefydliad, rydym yn uchelgeisiol iawn am iechyd ein poblogaeth, gan ymateb i heriau heddiw ac yfory drwy ein strategaeth 10 mlynedd, Llunio ein Lles yn y Dyfodol. Rydym yn cyfrannu at Gymru iachach gyda phwyslais mawr ar arloesi a gwella, dysgu o bob cwr o’r byd ac arwain y ffordd mewn ymchwil glinigol. Mae gweithio mewn partneriaeth yn gryf yng nghaerdydd a’r Fro, ac rydym yn gweithio’n agod gyda’n staff a’n cymuned.
Mae caerdydd, prifddinas ffyniannus Cymru, yn ddinas wych i fyw a gweithio ynddi gyda digonedd o atyniadau chwaraeon, celfyddydol a diwylliannol. Wedi’I lleoli i’r gorllwein o Gaerdydd, mae Bro Morgannwg yn cynnig cyfuniad o gefn gwlad hardd Cymru ac arfordir naturiol dramatig. Boed yn fywyd dinal neu’n fyw yng nghefn gwlad, mae Caerdudd a’r Fro yn cynnig y gorau o ddau fyd.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
A byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Bersonol ynghlwm o fewn y dogfennau ategol, cliciwch “Apply Now” i weld yn Trac
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Good general education
Experience
Meini prawf hanfodol
- Team Working
- NHS experience
Meini prawf dymunol
- Knowledge of LIMS
- Previous Laboratory Experience
Skills
Meini prawf hanfodol
- IT literate
- Evidence of Communication skills
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rebecca Carnegie
- Teitl y swydd
- Blood Transfusion Laboratory Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02920 742456
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector