Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant
Gradd
Gradd 8a
Contract
Cyfnod Penodol: 7 mis (Tymor Sefydlog tan Mawrth 2025)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-AC444-0724
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Caerdydd/Wrecsam/Abertawe
Tref
Caerdydd/Wrecsam/Abertawe
Cyflog
£51,706 - £58,210 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
23/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Arweinydd System Cyfiawnder Troseddol sy’n ystyriol o Drawma a ACE

Gradd 8a

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN MIS MAWRTH 2025 OHERWYDD CYLLIDO.

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

Bydd y rôl hon yn darparu uwch arweinyddiaeth strategol ar gyfer darparu’r Pecyn Cymorth Sefydliadol wedi’i lywio gan drawma ac ACE (TrACE) o fewn Canolfan Hyb ACE Cymru. Bydd ffocws penodol ar gefnogi Partneriaid Cyfiawnder Troseddol.

Yn gyfnewid, rydym yn cynnig buddion gwych gan gynnwys gweithio hybrid a hyblyg, pensiwn y GIG gwych, gwyliau blynyddol rhagorol, cynlluniau beicio i'r gwaith a phrydlesu ceir, cynlluniau talebau gofal plant a llawer mwy.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i sicrhau dyfodol iachach i bobl Cymru.  Os ydych chi'n frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac eisiau gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru, yna mae hwn yn gyfle cyffrous i chi ymuno â'n tîm hynod dalentog, traws-swyddogaethol, deinamig a chyfeillgar.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae’r swydd yn gofyn am brofiad o weithio gyda rhanddeiliaid/y cyhoedd a swyddogaethau ymgysylltu, gan gynnwys:

Bydd deiliad y swydd yn gweithio i Ddirprwy Arweinydd Hyb ACE Cymru i gyflawni’r amcanion a amlinellir uchod yn ogystal â’r blaenoriaethau strategol sefydliadol. 

Bydd deiliad y swydd yn meithrin ac yn cynnal perthnasoedd gwaith da ar bob lefel ac yn mabwysiadu dull cydweithredol o weithio ar y cyd ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys y system Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru, i ddatblygu’r flaenoriaeth genedlaethol hon a sicrhau bod Hyb ACE Cymru yn cyflawni ei gyfrifoldebau allweddol.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn mabwysiadu ymagwedd gadarnhaol, ragweithiol i fwrw ymlaen â phrosiectau a gweithgareddau sy'n ymwneud â materion hynod gymhleth sy'n rhychwantu sbectrwm eang o grwpiau defnyddwyr gwasanaeth/arweiniad sefydliadol ar draws gwasanaethau, adrannau a sefydliadau. Mae sensitifrwydd, barn gadarn ac aeddfedrwydd yn hanfodol ar gyfer delio'n uniongyrchol â'n partneriaid ar faterion sensitif mewn perthynas â'u profiadau sefydliadol o adfyd a thrawma, neu'r bobl y maent yn eu gwasanaethu.

Bydd deiliad y swydd yn arwain Hyb ACE Cymru wrth hyrwyddo egwyddorion Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y cyd â Rheolwr y Rhaglen yn hyb rhithiwr y Fframwaith sy’n Ystyriol o Drawma, tîm ehangach TrACE a’r arweinydd Hyfforddiant, Strategaeth a Sgiliau yn Hyb ACE Cymru.

Gweithio i'n sefydliad

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Addysg a Chymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Gradd lefel gyntaf
  • Tystiolaeth o ddysgu lefel Meistr neu brofiad cyfatebol

Profiad Perthnasol

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol o weithio o fewn y system Cyfiawnder Troseddol ar lefel uwch
  • Profiad o ddatblygu hyfforddiant
  • Profiad o arwain a rheoli
  • Profiad profedig o weithio gyda’r cyhoedd/defnyddwyr gwasanaeth
  • Profiad o weithio aml-broffesiynol ar draws ffiniau sefydliadol
  • Tystiolaeth o sgiliau cyfathrebu uwch
  • Yn gallu arwain a dylanwadu ar newid
  • Gwybodaeth am bolisïau GIG Cymru perthnasol
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol e.e. Cydraddoldeb, yr Iaith Gymraeg

Sgiliau a Gallu

Meini prawf hanfodol
  • Hanes o gyflawni ar amser ac i'r gyllideb
  • Yn hyddysg mewn TG
  • Sgiliau trefnu a thrafod
  • Sgiliau cyfathrebu ar lafar, cyflwyniadol ac ysgrifenedig datblygedig iawn gyda sylw i fanylion
  • Yn gallu datblygu a chyflwyno deunyddiau addysgol
  • Yn gallu ysgogi eich hun ac eraill
  • Yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • Agwedd hyblyg at weithio
  • Yn gallu datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol gyda staff a rhanddeiliaid allanol

Galluoedd Personol

Meini prawf hanfodol
  • Diplomyddol, pwyllog a gwrthrychol
  • Sgiliau dylanwadu
  • Pendant, hyderus, hawdd mynd ato ac yn gallu gweithredu mewn modd proffesiynol
  • Cydnabod cyfyngiadau ar alluoedd
  • Yn dangos brwdfrydedd
  • Yn gallu teithio ledled Cymru
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Chwaraewr tîm gyda'r gallu i reoli a blaenoriaethu tasgau lluosog

Ymdrech

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu ymdrin â sefyllfaoedd emosiynol cymhleth ac anodd

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Natalie Blakebrough
Teitl y swydd
ACE Hub Wales Deputy Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02920227744
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg