Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyfreithiol
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 043-AC119-0624
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tŷ'r Cwmnïau /Tŷ Alder
- Tref
- Caerdydd /Llanelwy
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/55.png)
Cyfreithiwr Newydd Gymhwyso/Iau Cwest
Gradd 7
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn is-adran o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru sy’n darparu gwasanaeth cynghori cyfreithiol cynhwysfawr i'r GIG.
Ein Gwerthoedd Craidd, sy'n bwysig o ran sut rydym yn gweithio gyda'n cleientiaid a sut rydym yn cefnogi ein cydweithwyr, yw:
• Gwrando a Dysgu
• Gweithio gyda’n gilydd
• Cymryd cyfrifoldeb
• Arloesi
Mae gennym gyfle cyffrous i gyfreithiwr iau ymuno â'n Tîm Cwestau. Rydym yn cynghori ac yn cynrychioli GIG Cymru gyfan.
Mae'r mathau o achosion rydym fel arfer yn eu cynghori arnynt yn cynnwys rhai sy’n ymwneud â’r meysydd canlynol:
• Iechyd Meddwl
• Marwolaethau mewn carchardai
• Cwympiadau
• Sepsis
• Marwolaethau mamau a babanod newyddenidigol
• Cyffuriau/alcohol
• Marwolaethau yn ystod neu ar ôl llawdriniaeth.
Mae'r Tîm yn arbenigwyr yn eu maes ac maent yn cael cyfarwyddyd rheolaidd mewn achosion newydd a phroffil uchel. Rydym yn gweithio'n agos gyda thimau clinigol a diogelwch cleifion ein cleientiaid.
Mae gwaith Cyfreithiol a Risg wedi'i gydnabod trwy’r gwobrau rydym wedi'u hennill. Ein nod yw gwthio ffiniau a pharhau i ddatblygu ffyrdd o gefnogi gwaith pwysig y GIG.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn gyfrifol am adolygu cofnodion/adroddiadau meddygol, drafftio gohebiaeth i gael tystiolaeth a chynorthwyo i baratoi cyngor i gleientiaid, datganiadau tystion, bwndeli llys, a chyfarwyddiadau i’r cwnsler.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad a llesiant ein staff. Byddwch yn cael eich cefnogi gan Reolwr Tîm a nifer o uwch gyfreithwyr eraill.
Rhaid i'r ymgeisydd delfrydol ar gyfer y swydd hon feddu ar sgiliau cyfathrebu da, dull hyderus o weithio a’r gallu i ddangos ein gwerthoedd craidd. Bydd angen empathi a sensitifrwydd oherwydd natur bersonol iawn yr achosion rydym yn delio â nhw.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym safonau uchel ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella.
Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn. Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol. Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd yn y Gyfraith a Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer y Gyfraith y Gyfraith (neu gymhwyster cywerth)
- Yn gymwys gyda hawliau ymgyfreitha ac eiriolaeth
Meini prawf dymunol
- Cwrs Sgiliau Proffesiynol neu gyfwerth
- Modiwlau academaidd yn y Gyfraith Feddygol (Galluedd Meddyliol ac Iechyd Meddwl)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad a gafwyd drwy gontract hyfforddiant yn y maes perthnasol.
Meini prawf dymunol
- Profiad o faes/meysydd perthnasol y Gyfraith, h.y. esgeuluster clinigol/anaf personol a Chwestau
- Eiriolaeth yn Llys y Crwner
- Profiad o roi cyflwyniadau i staff nad ydynt yn gweithio â’r gyfraith
Tueddfryd a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Siliau TG/Hyddysg mewn cyfrifiadura i gynnwys y gallu i ddysgu technolegau newydd a TG a gyflwynir.
- Y gallu i gyfathrebu ym mhob fformat, mewn Saesneg eglur.
- Y gallu i negodi mewn amgylchiadau sy’n aml yn anodd neu’n emosiynol
- Ymagwedd gydwybodol, hyderus, hyblyg a phroffesiynol at waith
- Y gallu i flaenoriaethu a threfnu eich gwaith eich hun
- Gallu adnabod eich galluoedd eich hun
- Tystiolaeth o sgiliau gofal cleientiaid rhagorol.
Meini prawf dymunol
- Meets all desirable criteria as per attached job description/person specification
Gwerthoedd a Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Gwrando a Dysgu
- Gweithio gyda'n gilydd
- Cymryd cyfrifoldeb
- Arloesi
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a’r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn parod i ymgymryd â datblygiad proffesiynol pellach
- Gallu teithio i gyflawni dyletswyddau’r swydd mewn amryw leoliadau.
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kamila Kubryn
- Teitl y swydd
- Inquest Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector