Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Microbioleg
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-AC094-0425
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£26,928 - £29,551 y flyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
23/04/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Cynorthwyydd Personol

Gradd 4

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am Cynorthwyydd Personol i ymuno â'r tîm Microbioleg sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn arloesol. Bydd ganddynt sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu wedi'u datblygu'n dda a gallu i arwain a chefnogi gwaith unigol ac mewn tîm. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu cymorth cynorthwyydd personol a chymorth gweinyddol cynhwysfawr a chyfrinachol i Ymgynghorwyr, staff meddygol a Gwyddonwyr mewn Microbioleg.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyfathrebu a chysylltu â chyfarwyddiaethau, adrannau a rhanddeiliaid, a gweithio i derfynau amser tra’n sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Gweithio i'n sefydliad

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwch ddod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person atodedig yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwnewch gais nawr” i'w gweld yn Trac.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Prosesu geiriau I RSA III, Lefel 3 NVQ neu lefel gyfatebol o brofiad.
  • Lefel uchel o rifedd a Saesneg ysgrifenedig a llafar.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o brofiad blaenorol yn gweithio fel Cynorthwyydd Personol neu gyfwerth
  • Cymryd cofnodion
Meini prawf dymunol
  • Clywdeipio
  • Gweithio mewn amgylchedd GIG

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cynllunio a threfnu
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Sgiliau bysellfwrdd uwch gyda phrofiad blaenorol o greu adroddiadau, taenlenni a gohebiaeth.

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau mewn perthynas â delio â data cyfrinachol personol a sefydliadol
  • Dealltwriaeth drylwyr o weithdrefnau ysgrifenyddol
Meini prawf dymunol
  • Terminoleg feddygol

Pridoleddau personol

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio i derfynau amser ac o dan bwysau.
  • Y gallu i weithio o fewn tîm a defnyddio menter eu hunain
  • Parchu cyfrinachedd
  • Parodrwydd i ddysgu a datblygu sgiliau

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr. Nikolaos Makrygiannis
Teitl y swydd
Clinical Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg