Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gweithredwr Storfeydd
Band 2
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn swyddogaeth Gwasanaethau Caffael, y Gadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag i oruchwylio tîm prosiectau sy’n cyflwyno system newydd i reoli stocrestrau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Lleoliad y swydd Siop Ranbarthol GIG Cymru, Dinbych ond bydd teithio o amgylch safleoedd Gogledd Cymru yn rhan o’r swydd. |
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad blaenorol o weithio mewn swydd debyg, yn benodol ar gyfer sefydliad Warws / Gwasanaeth Cwsmeriaid, archebu nwyddau, rheoli stocrestrau/stoc. Mae dealltwriaeth ragorol o Iechyd a Diogelwch hefyd yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Bydd y rôl yn cynnwys y tasgau isod (ymhlith eraill). *Cynorthwyo i gyflwyno tîm newydd i reoli stocrestrau i safleoedd ysbytai ar draws Gogledd Cymru *Cynllunio cyflwyno’r prosiect yn unol â disgwyliadau ac amcanion a osodwyd gan y Bwrdd Iechyd a PCGC *Cysylltu â defnyddwyr gwasanaeth i hyrwyddo defnyddio’r system newydd *Hyfforddi defnyddwyr newydd *Sicrhau bod lefelau effeithiol o stoc yn cael eu cadw *Olrhain manteision yr hyn sy'n cael ei gyflwyno ac amserlennu adolygiadau? Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais. |
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym safonau uchel ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn. Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol. Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl |
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac |
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o weithio mewn Warws
- Profiad blaenorol o wasanaethu cwsmeriaid
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddefnyddio sganwyr llaw
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Meddu ar gymhwyster NVQ Lefel 3 mewn Warws a Dosbarthu neu’n gweithio tuag ato neu lefel gyfatebol o brofiad
- Gwybodaeth weithredol am Iechyd a Diogelwch
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth weithredol am systemau a gweithdrefnau Ansawdd
- Gwybodaeth ymarferol o Systemau Rheoli Stocrestrau
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Hyddysg mewn TG
- Yn gallu gweithio o fewn terfynau amser.
- Yn gallu teithio i safleoedd eraill yn ôl y gofyn
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ian Jones
- Teitl y swydd
- Logistics & Materials Management Business Partner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07890 632266
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rowena Thomas
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector