Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Y Gwasanaeth Negesydd Iechyd
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Yr oriau craidd yw 7am-5pm, i'w cytuno wrth recriwtio)
Cyfeirnod y swydd
043-EA060-0724
Cyflogwr
GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Storfeydd Rhanbarthol Dinbych
Tref
Amrywiol
Cyflog
£23,159 - £24,701 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
24/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo

Prif Yrrwr Y Gwasanaeth Negesydd Iechyd

Gradd 3

Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-

 Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz

 

 Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM

 

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

 

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.

Trosolwg o'r swydd

Mae deiliad y swydd yn gweithio yng Ngweithrediadau y Gwasanaeth Negesydd Iechyd (HCS) ac yn cefnogi darpariaeth gydgysylltiedig gwasanaethau HCS a'r Gadwyn Gyflenwi (SC) ac yn sicrhau eu bod yn digwydd yn unol â chytundebau contractiol.

Maent yn cysylltu'n agos â'r Rheolwr/Trefnydd HCS a hefyd cysylltiadau allanol a/neu adrannau Clinigol mewn ysbytai, practisiau meddygon teulu, clinigau, canolfannau dydd, cartrefi nyrsio a'r Banciau Gwaed. Yn ogystal, mae deiliad y swydd yn cefnogi gweithrediad effeithlon gweithrediadau HCS, SC a Golchdy o ddydd i ddydd ac mae'n cysylltu â gwasanaethau Rheoli Dydd a dyma'r pwynt cyswllt gweithredol cyntaf ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud â chludiant Logisteg ar gyfer yr ardal.  Mae cadw cysylltiad agos â phob parti yn holl bwysig i ddarparu cludiant o’r ansawdd uchaf un.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r Gwasanaeth Negesydd Iechyd yn cludo eitemau nad ydynt yn gleifion gan gynnwys patholeg, offer meddygol, cofnodion meddygol, gwaed a chynhyrchion gwaed cysylltiedig ac ati. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm ymroddedig sy'n datblygu.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.

Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl. 

Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.

Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb.  I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/

Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Trwydded Yrru Lawn 5 TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys Saesneg iaith a mathemateg, neu gyfwerth, wrth benodi.
Meini prawf dymunol
  • Efallai y bydd angen bod â thrwydded C1 (Gyrrwr CPC) a LGV 2 lle bo angen
  • Cymorth Cyntaf Sylfaenol gan gynnwys technegau adfywio mewn argyfwng

PROFIAD

Meini prawf hanfodol
  • Gyrru amrywiaeth o faniau/cerbydau masnachol ysgafn
  • Delio â chwsmeriaid a chysylltu â chysylltiadau mewnol ac allanol y GIG, cleifion a'r cyhoedd
Meini prawf dymunol
  • NVQ in first line supervision

GWYBODAETH

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth ddaearyddol gadarn o'r ardal a wasanaethir a'r gallu i ddarllen mapiau
  • Technegau Symud a Chario, ac ymwybyddiaeth gyffredinol am faterion a chyfrifoldebau risg ac iechyd a diogelwch
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth gadarn am ddefnyddio ystod o gerbydau hyd at, ac yn cynnwys, 7.5 tunnell (lle bo angen) ac offer perthnasol, a gwybodaeth sylfaenol am gynnal a chadw cerbydau

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Customer Service ExcellenceHyderus o ran anabledd - ymroddedigDisability confident committedMenopause Workplace PledgeEnei MemberLexcel Legal Practice Quality MarkRhwydwaith Network 75 logoEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rowena Thomas
Teitl y swydd
Regional Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07766497344
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg