Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser
Gradd
NHS Medical & Dental: Consultant
Contract
8 mis (Cyfle secondiad / tymor penodol tan 31 Mawrth 2025)
Oriau
  • Rhan-amser
  • Arall
1 sesiwn yr wythnos (1 session per week)
Cyfeirnod y swydd
028-MD028-0824
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Llawr 1af Tŷ Afon
Tref
Gwaelod- y- Garth, Caerdydd
Cyflog
£99,532 - £131,964 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
09/09/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Arweinydd Clinigol y Ffrwd Waith Ymchwil ac Arloesi

NHS Medical & Dental: Consultant

Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023

Ein pwrpas allweddol yw...

Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.

 I gael gwybod mwy, ewch i Weithrediaeth GIG Cymru.

 Ein Gwerthoedd

Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn cynnig cyfle i Arweinydd Clinigol Datblygu Ymchwil ac Arloesedd ymuno â’r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser, sy’n rhan o Weithrediaeth GIG Cymru (ac a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru). Mae'r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser yn dod â gweithwyr proffesiynol meddygol, clinigol a phrosiect ynghyd mewn tîm cefnogol a deinamig. 

Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i Arweinydd Clinigol sy'n gweld gwerth ymchwil yn elfen bwysig o wella canlyniadau canser ac yn elfen allweddol o System Gofal Iechyd sy'n dysgu’n barhaus. Rydym yn chwilio am Arweinydd Clinigol Datblygu Ymchwil ac Arloesedd i ymuno â’r tîm presennol, i weithio ar y cyd gan ddarparu gwybodaeth ac arweinyddiaeth arbenigol ledled Cymru. Bydd y rôl hon yn cynnwys un sesiwn glinigol yr wythnos, er ein bod yn archwilio a allwn weithio gyda rhaglenni cenedlaethol eraill i gynyddu hyn. Mae angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gweithio ar lefel ymgynghorydd (meddygol neu arall), i ymgymryd â'r rôl arweinyddiaeth glinigol heriol hon. Bydd disgwyl iddynt ddarparu cyfeiriad strategol ac arbenigedd ar gyfer y Rhaglen Ymchwil ac Arloesedd ac i Safleoedd Canser e.e. ysgyfaint, y fron, gastroberfeddol ac ati, i Grwpiau Clinigol eraill (SACT), Radiotherapi, Llawfeddygaeth ac ati ac i Dimau Llwybrau Optimaidd Cenedlaethol, o fewn y Rhwydwaith Canser.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Fel Arweinydd Clinigol ar gyfer Ymchwil ac Arloesi o fewn y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer canser, bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu a chyflawni nodau ac amcanion y rhwydwaith, gan ganolbwyntio ar nodi, cefnogi datblygu ac ymwreiddio’r ymchwil a'r arloesedd yn llwybrau gorau cenedlaethol ar gyfer canser ac ar draws gwasanaethau canser.

·         Cefnogi'r Arweinydd Clinigol Rhwydwaith a Rheolwr Rhwydwaith gydag agweddau a chyfleoedd ymchwil ac arloesi o fewn rhaglen waith y rhwydwaith.

·         Gweithio gyda chydweithwyr clinigol a rheolaethol i gefnogi a meithrin integreiddio ymchwil ac arloesi i fusnes craidd gwasanaethau canser yng Nghymru.

·         Darparu arweinyddiaeth glinigol o fewn y rhwydwaith ar gyfer cynllun gwaith y tîm ymchwil ac arloesi.

·         Darparu arweinyddiaeth a gweithio gyda chydweithwyr i ysgogi gwelliant mewn ymchwil glinigol o fewn gwasanaethau yng nghwmpas y rhwydwaith.

·         Dylanwadu ar gynllunio gwasanaethau cynaliadwy yn unol â'r disgwyliadau a nodir yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol.

·         Cyfrannu'n strategol at wella ansawdd a gwerth gwasanaethau gofal iechyd trwy ymchwil ac arloesi.

·         Arwain, cefnogi a hyrwyddo’r gwaith o ledaenu a gweithredu arfer gorau a safonau ledled Cymru.

Gweithio i'n sefydliad

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD SECONDIAD AM 8 MIS OHERWYDD CYLLIDO 

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae’n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i’r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.

Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

·           O fewn Gweithrediaeth newydd GIG Cymru (y Weithrediaeth), mae Rhwydweithiau Clinigo Strategol sydd newydd eu ffurfio yn rhan allweddol o fodel y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol (NCF). Mae Rhwydweithiau Clinigol Strategol Cenedlaethol yn cyflawni rôl ganolog yr elfen 'gwybodaeth-i-ymarfer' yn y System Iechyd a Gofal sy’n Dysgu a amlinellir yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol. Mae eu safle o fewn y Weithrediaeth yn eu galluogi i chwarae rhan wrth gyflawni'r disgwyliadau a nodir ym Mandad a Llythyr Cylch Gwaith y Weithrediaeth.

·           Mae Rhwydweithiau Clinigol Strategol Cenedlaethol yn disodli'r rhwydweithiau clinigol cenedlaethol blaenorol a grwpiau gweithredu ar gyfer cyflyrau mawr a drawsnewidiodd i'r Weithrediaeth. Maent hefyd yn cwmpasu rhai meysydd nad ydynt erioed wedi elwa ar rwydweithiau neu grwpiau gweithredu.

·           Y model hwn o ddarparu ar gyfer gwasanaethau clinigol yw un o agweddau pwysicaf darparu gwasanaethau iechyd a thrwy ddod â chymunedau clinigol ynghyd, dangoswyd ei bod yn bosibl datblygu consensws cenedlaethol ar drawsnewid gwasanaethau penodol. Trwy weithio fel hyn, nodir heriau pwysig, datblygir yr atebion gorau ac mae'r system gyfan, leol a chenedlaethol, yn tynnu i'r un cyfeiriad ac yn rhannu'r buddion. Mae'r dull hwn yn arwain at newidiadau strategol, ar raddfa fawr yn hytrach na diwygiadau ynysig sy'n methu lledaenu ac yn arwain at fwy fyth o amrywiad direswm mewn gofal.

·           Mae Ymchwil ac Arloesi yn ysgogi gwelliant parhaus mewn gwasanaethau ac mae strategaethau cynyddol y DU a Chymru yn cydnabod hyn ac yn nodi'r materion, argymhellion a chamau gweithredu sydd eu hangen i wella canlyniadau i gleifion trwy dreialon clinigol a dulliau arloesi. Mae hyn yn gofyn am arweiniad clinigol i wireddu'r cyfleoedd ar gyfer canser ac i ymwreiddio ar draws y GIG yng Nghymru.

·           Bydd angen i Arweinydd Clinigol Ymchwil ac Arloesi y Rhwydwaith Canser fod yn gredadwy, gan gefnogi'r arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer canser yn agweddau ymchwil ac arloesi ystod gymhleth o faterion ar draws proffesiynau a sectorau. Bydd angen iddo ddangos bod ganddo brofiad o arwain newid system a newid sefydliadol/gwasanaeth a gwybodaeth am dirwedd gymhleth ymchwil neu arloesedd y GIG. Gan weithio mewn partneriaeth agos ag arweinydd rheolaethol, bydd angen iddo gyfathrebu'n glir ac yn effeithiol ag ystod amrywiol o randdeiliaid yn amrywio o uwch swyddogion y llywodraeth, cymuned arweinyddiaeth GIG Cymru, staff y GIG a rhanddeiliaid ehangach gan gynnwys sefydliadau'r trydydd sector, diwydiant a'r byd academaidd.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad proffesiynol priodol llawn.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o ganllawiau cenedlaethol priodol ac arfer gorau.
  • Dealltwriaeth dda o egwyddorion llywodraethu clinigol.
  • Lefel uchel o ddealltwriaeth o egwyddorion Iechyd Seiliedig ar Werth/Gofal Iechyd Darbodus.
  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o ymchwil, y GIG a'r system iechyd a gofal ehangach gan gynnwys cyfrifoldebau cysylltiedig i'r cyhoedd a chleifion.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster ymchwil ôl-raddedig.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Ar hyn o bryd yn gweithio fel uwch glinigwr mewn disgyblaeth sy'n berthnasol i gwmpas y rhwydwaith .
  • Profiad amlwg y gellir ei ddangos o arwain gwasanaeth a chyflawni newid.
  • Y gallu i gadeirio cyfarfodydd amlbroffesiynol, amlsector lefel uchel.
  • Profiad o Ymchwil Glinigol.
Meini prawf dymunol
  • Arwain a chyflawni newidiadau clinigol arwyddocaol ar draws sefydliadau neu sectorau.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol e.e. GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraethau eraill y DU, y 3ydd sector, diwydiant, y byd academaidd.
  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o lwybr ymchwil a chyllid y Deyrnas Unedig.
  • Profiad o gyd-greu a gweithredu strategaethau i feithrin gallu a chapasiti i ddarparu ymchwil iechyd a gofal.
  • Profiad o ddylunio ac arwain ymchwil iechyd neu ofal yn y Deyrnas Unedig.
  • Cyflwyno mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol.
  • Profiad fel tiwtor clinigol neu ddarlithydd ar lefel ôl-raddedig.
  • Profiad goruchwylio ymchwil glinigol yn y GIG.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Bod yn gadarn ei farn ac wrth wneud penderfyniadau.
  • Gallu profedig i reoli gwaith cymhleth a blaenoriaethu'n effeithiol.
  • Tystiolaeth o sgiliau dylanwadu, hwyluso a negodi cryf.
  • Y gallu i ddylanwadu a siapio meddwl, yn enwedig pan fo ansicrwydd neu ddiffyg eglurder.
  • Y gallu i ddatblygu perthnasoedd gwaith effeithiol ar sail unigol ac amlbroffesiynol.
  • Gallu profedig i wrando, grymuso, arwain trwy esiampl ac arwain trwy newid, gan weithio fel rhan o dîm amlbroffesiynol.
  • Sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.
  • Galluoedd arwain profedig.
  • Hunanfyfyriol, hunanymwybodol ac yn gallu derbyn adborth.
  • Y gallu i gwestiynu'n adeiladol a datrys problemau.
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac aros yn broffesiynol a dangos safonau ymddygiad disgwyliedig er gwaethaf amgylchiadau heriol.
  • Parchu cyfrinachedd.
  • Dull hyblyg o ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i ymdrin â'r cyfryngau.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Parodrwydd i deithio rhwng safleoedd neu i gyfarfod/digwyddiadau ledled Cymru a'r DU pan fo hynny'n briodol.
  • Yn gyfoes ac yn addas i ymarfer yn ddiogel ac yn ymwybodol o'i anghenion hyfforddi ei hun.
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu barodrwydd i weithio tuag at hynny.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ann Hosken
Teitl y swydd
Business Support Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg