Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Networks and Planning
- Gradd
- Band 3
- Contract
- Parhaol: Dwy swydd barhaol ar gael a dwy swydd cyfnod penodol (tan 31 Mawrth 2025) ar gael.
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 028-AC242-0724
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Afon
- Tref
- Gwaelod- y- Garth, Caerdydd
- Cyflog
- £23,159 - £24,701 Yn flynyddol
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- Today at 23:59
Teitl cyflogwr
![Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/200.png)
Gweinyddwr Rhaglenni
Band 3
Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023
Ein pwrpas allweddol yw...
Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.
I gael gwybod mwy, ewch i Weithrediaeth GIG Cymru.
Ein Gwerthoedd
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi codi i Weinyddwr Rhaglen ymuno ag Uned Busnes Afon, yng Ngweithrediaeth y GIG.
Rydyn ni’n awyddus i recriwtio unigolyn hynod drefnus sy’n fedrus mewn amrywiol raglenni meddalwedd fel Microsoft Office gan gynnwys Excel, Outlook, Power Point a Word. Mae’n holl bwysig bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau teipio datblygedig, yn gallu rhoi sylw rhagorol i fanylder ac yn gallu ymdopi’n dda dan bwysau. Mae profiad o gymryd cofnodion a thrawsgrifio yn rhan o’r rôl ac felly yn un o’r meini prawf hanfodol.
Os ydych chi’n meddu ar y sgiliau uchod ac eisiau bod yn rhan o dîm dynamig sy’n gefnogol, yn gyfeillgar ac yn hwyl, yna dyma’r swydd i chi!! Byddem yn falch iawn o gael ceisiadau oddi wrth bersonél profiadol sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau mewn rôl gyffrous yn cefnogi Cydweithrediad y GIG.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Nia Miles, Uwch Reolwr Gweinyddol a Llywodraethu, [email protected].
Prif ddyletswyddau'r swydd
· Darparu a derbyn gwybodaeth arferol ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn electronig i roi gwybodaeth i gydweithwyr, y cyhoedd a sefydliadau allanol gan ddefnyddio tact a sgiliau perswâd pan fo angen h.y. wrth ymdrin ag aelodau o’r cyhoedd sy’n flin/gofidus mewn achos o argyfwng/brigiad o achosion etc
· Gweithio fel rhan o'r tîm gweinyddol, gan sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng adrannau a darparu gwybodaeth a chyngor mewn da bryd
· Darparu gwasanaeth effeithiol a phroffesiynol wrth gysylltu â chydweithwyr, rhanddeiliaid a'r cyhoedd
· Cwrdd a chyfarch ymwelwyr mewn modd proffesiynol a chwrtais, gan ddilyn protocol swyddfa
· Rheoli'r system deleffon/switsfwrdd, cyfeirio galwadau ffôn yn briodol a chyfleu negeseuon yn gywir ac amserol (gall galwadau fod yn gyfrinachol a sensitif, a gallant ddod gan ystod o unigolion a sefydliadau mewnol/allanol)
· Sefydlu, rheoli a chynnal systemau ffeilio, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei storio a’i ffeilio mewn ffordd briodol a diogel ac yn gallu cael ei hadalw yn ôl yr angen, gan gadw at ganllawiau llywodraethu gwybodaeth i ddiogelu gwybodaeth bersonol
· Delio gydag e-byst personol a gweithredu ar e-byst wedi’u dirprwyo ar gais rheolwyr a dan eu goruchwyliaeth
Gweithio i'n sefydliad
Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae’n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i’r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.
Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Diben y Swydd:
Rhoi cymorth gweinyddol, clercol a busnes cynhwysfawr fel rhan o adnodd gweinyddol Gweithrediaeth GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys; bod yn gyswllt rhwng gwasanaethau a helpu i’w cydlynu, fel cynnal a chadw a chyfleusterau, helpu i ledaenu a chydlynu adnoddau a threfnu a helpu i gynllunio cyfarfodydd/digwyddiadau. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o ddarparu ystod o raglenni mewn ffordd effeithlon. Bydd gofyn i chi gyfathrebu a chysylltu â staff ac aelodau o sefydliadau partner a chynhyrchu gwaith yn unol â therfynau amser gan sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hon yn rôl allweddol o ran cefnogi’r gwaith o redeg y tîm yn effeithiol, sy'n cynnwys rheoli adnoddau fel rhan o'r dyletswyddau craidd. Ni fwriedir i’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau a restrir isod fod yn hollgynhwysfawr. Fodd bynnag, maent yn nodi’r prif feysydd gweithgarwch sy’n ddisgwyliedig. Felly, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fabwysiadu dull hyblyg o weithio pan fydd anghenion y gwasanaeth yn mynnu hynny.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau prosesu geiriau i RSA III/NVQ Lefel 3 neu lefel gyfatebol o brofiad.
- Addysg o safon dda a sgiliau o’r radd flaenaf mewn rhifedd, ysgrifennu a siarad Saesneg.
Meini prawf dymunol
- ECDL.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad y gellir ei arddangos mewn rôl weinyddol.
- Profiad o gyfathrebu â staff proffesiynol o bob lefel a’r cyhoedd.
- Profiad o ymdrin â data cyfrinachol a sensitif, a chynnal a storio cofnodion yn briodol.
- Profiad o drawsgrifio a chynhyrchu cofnodion.
- Profiad o ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office.
Meini prawf dymunol
- Gweinyddu systemau cyllid, e.e. archebion, monitro cyllideb.
- Gweithio mewn amgylchedd GIG.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Gallu i weithio ar eich menter eich hun a rheoli eich llwyth gwaith eich hun.
- Gallu rheoli dyddiaduron.
- Sgiliau bysellfwrdd uwch.
- Sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Sgiliau trefnu da.
- Y gallu i weithio o fewn tîm a dilyn cyfarwyddiadau gan uwch aelodau'r tîm.
- Datrys problemau a chanfod ffeithiau.
Meini prawf dymunol
- Yn gallu siarad Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu’r iaith.
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth dda am raglenni MS Office.
- Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau am ymdrin â data cyfrinachol (personol a sefydliadol).
- Dealltwriaeth drylwyr o weithdrefnau swyddfa.
- Gwybodaeth am systemau ffeilio/data gan gynnwys rheoli cofnodion.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Priodoleddau Personol (Y gellir eu dangos)
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio i derfynau amser ac o dan bwysau.
- Gallu gweithio o fewn tîm.
- Gallu gweithio ar eich menter eich hun.
- Rheoli amser yn dda.
- Parchu cyfrinachedd.
- Awyddus i ddysgu a datblygu sgiliau.
Meini prawf dymunol
- Datblygiad Personol Parhaus.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Parodrwydd a'r gallu i deithio rhwng safleoedd.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nia Miles
- Teitl y swydd
- Senior Administration & Governance Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector