Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Rhwydwaith Canser Cymru
Gradd
Band 4
Contract
8 mis (Cyfnod Penodol/Secondiad hyd at fis Mawrth 2025)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-AC241-0724
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Afon
Tref
Gwaelod-y-Garth, Caerdydd
Cyflog
£25,524 - £28,010 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Uwch Swyddog Cefnogi Prosiectau

Band 4

Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023

Ein pwrpas allweddol yw...

Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.

 I gael gwybod mwy, ewch i Weithrediaeth GIG Cymru.

 Ein Gwerthoedd

Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 8 MIS  OHERWYDD  CYLLIDO.

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

Mae’r Rhwywaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser yn sefydliad strategol cyffrous i weithio iddo – yn ysgogi cydweithrediad rhwng Byrddau Iechyd/Ymddiriedolaethau, sefydliadau proffesiynol ac elusennol ac yn anelu at wella profiad ac ansawdd gwasanaethau i bobl sy’n cael diagnosis o ganser. Er mwyn cyflawni ein nod, mae ein rhaglenni gwaith yn canolbwyntio ar ganfod yn gynnar, diagnosis, triniaeth a llwybrau gofal.

Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Cefnogi Prosiect, gan ddarparu cymorth gweinyddol lefel uchel, cysylltu â chydweithwyr, rhanddeiliad ac ystod eang o weithwyr proffesiynol gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu cryf.

Dylai fod gan unrhyw ymgeisydd brofiad a dealltwriaeth o agenda’r Rhwydwaith Canser a threfniadau sefydliadol i lwyddo i gefnogi a gweithredu busnes y Rhwydwaith. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos gallu profedig. 

Mae ein trefniadau gwaith yn dal i olygu bod staff yn gweithio o gartref ond mae swyddfeydd Gweithrediaeth y GIG yn cynnwys Caerdydd, Baglan a Llandudno. Mae parodrwydd a gallu i deithio ar draws sefydliadau GIG Cymru yn hanfodol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Jones ([email protected])

Prif ddyletswyddau'r swydd

Prif ddyletswyddau'r Swyddog Cymorth Prosiect yw cefnogi prosiectau ac is-grwpiau penodol o fewn Rhwydwaith Canser Cymru yn ogystal â darparu cymorth gweinyddol cyffredinol.

Bydd deiliad y swydd yn:

·         Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol

·         Cefnogi gwaith cynnal a chadw, rheoli a goruchwylio cynlluniau prosiect

·         Cefnogi'r gwaith o ddatblygu a rheoli dogfennau sy'n ofynnol

·         Cymryd cyfrifoldeb am reoli meysydd gwaith penodol o fewn prosiectau penodol

·         Cefnogi'r gwaith o reoli cyllidebau

·         Cefnogi'r gwaith o gyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid

·         Cynhyrchu adroddiadau ar gynnydd i’w defnyddio'n fewnol ac allanol

Gweithio i'n sefydliad

Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae’n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i’r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.

Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o dîm yn cefnogi Rhwydwaith Canser Cymru o fewn Cydweithfa Iechyd GIG Cymru er mwyn cyflawni ei rhaglen waith. 

Cyfrifoldeb y Rhwydwaith yw cyflawni rhaglen waith cytunedig o fewn rhaglen ehangach y Gydweithfa. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi Rheolwr y Rhaglen gyda'r ymarferoldeb gweinyddol, gwaith cynnal a chadw a throsolwg o ffrydiau penodol o'r rhaglen waith hon. Er bod y swydd hon yn rhan o'r Rhwydwaith Canser, mae'n bosibl y bydd yn ofynnol yn y dyfodol, gyda chytundeb deiliad y swydd, i weithio ar draws y Gydweithfa er mwyn cefnogi rhwydweithiau neu raglenni gwaith eraill.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Bydd deiliad y swydd yn meddu ar NVQ Lefel 3 neu brofiad cyfatebol perthnasol, yn ogystal â lefel uchel o gymhwysedd mewn rhifedd, a Saesneg ysgrifenedig a llafar.
  • Dealltwriaeth dda o raglenni MS Office.
  • Ymwybyddiaeth o'r polisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â delio â data personol a sefydliadol cyfrinachol.
  • Dealltwriaeth fanwl o swyddogaethau'r swyddfa ar gyfer y rhaglen/prosiect.
  • Gwybodaeth ddigonol am systemau ffeilio/data gan gynnwys rheoli cofnodion.
Meini prawf dymunol
  • Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd Uwch (ECDL) neu gyfwerth.
  • Microsoft Project.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad priodol mewn rôl weinyddol.
  • Profiad blaenorol o weithio gyda systemau ariannol a/neu brynu nwyddau neu offer.
  • Profiad blaenorol o ddelio â chwsmeriaid, cleientiaid a/neu aelodau o'r cyhoedd.
  • Profiad o gynorthwyo gwaith prosiect.
  • Profiad o gyfathrebu ar bob lefel.
  • Profiad o ymdrin â data sy'n gyfrinachol ac yn sensitif a gwaith cynnal a chadw a storio cofnodion yn briodol.
  • Profiad o waith trawsgrifio a chymryd cofnodion.
  • Profiad digonol o raglenni Microsoft Office.
Meini prawf dymunol
  • Profiad goruchwyliol.
  • Gweithio mewn amgylchedd GIG.
  • Gweithio mewn amgylchedd ymchwil neu'r trydydd sector.
  • Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus (Managing Successful Programmes) neu PRINCE2 lefel sylfaen.

Dawn a Gallu

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun a rheoli llwyth gwaith eich hun.
  • Sgiliau bysellfwrdd datblygedig.
  • Sgiliau cyfathrebu da.
  • Sgiliau trefnu da.
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu.

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio i derfynau amser ac o dan bwysau.
  • Y gallu i weithio o fewn tîm.
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun.
  • Rheoli amser yn dda.
  • Parchu cyfrinachedd.
  • Parodrwydd i ddysgu a datblygu sgiliau.
  • Ymagwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
  • Datblygiad proffesiynol parhaus.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ann Hosken
Teitl y swydd
Business Support Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg