Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Microbioleg
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (24/7 rota)
Cyfeirnod y swydd
028-ACS020-0724
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Singleton
Tref
Abertawe
Cyflog
£25,524 - £28,010 y flywddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
17/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Ymarferydd Cyswllt - MEWNOL YN UNIG

Gradd 4

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithredu fel rhwydwaith o labordai gyda Labordai Rhanbarthol ledled Cymru.

Bydd y swydd Ymarferydd Cyswllt Band 4 yn ein tîm  yn caerdydd ysbyty athrofaol llandochau  ymgymryd â gweithdrefnau labordai rheolaidd gyda goruchwyliaeth. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael profiad mewn gwasanaeth labordy diagnostig gan ddefnyddio platfformau moleciwlaidd cyflym a dadansoddwyr trwybwn mawr.

Byddai'r swydd hon yn addas i ymgeiswyr sydd â phrofiad amlwg o labordy Microbioleg ac addysg a chymhwysedd seiliedig ar waith cysylltiedig neu berson graddedig mewn gwyddoniaeth. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y cyfle i gylchdroi drwy nifer o adrannau yn ystod eu cyflogaeth, gan gael profiad mewn nifer o fethodolegau i gynnwys gwyddoniaeth foleciwlaidd a phrofion diagnostig microbiolegol. Rydym yn awyddus i gyflwyno hyfforddiant y tu hwnt i ddadansoddwyr Covid a bydd hyn yn cynnwys meysydd o fewn Bacterioleg a feiroleg yn y pen draw. Mae gennym lwybrau gyrfa sefydledig ac felly gallai hyn fod yn gychwyn gwych ar gyfer gyrfa broffesiynol mewn microbioleg feddygol.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y dyletswyddau'n cynnwys paratoi, gwirio a phrosesu samplau yn ogystal â chofnodi data ar y system gwybodaeth labordy.  Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu da, gallu technegol, cydgysylltiad llaw a llygad ymhlith eraill.

Mae'r gwaith a wnaed gan y tîm COVID wedi bod yn ganolog i ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru i COVID-19. Bydd y tîm hefyd yn ymateb i unrhyw frigiadau o achosion pellach/pwysau’r gaeaf.

Mae'r rhwydwaith Microbioleg yn darparu gwasanaethau ar draws y cyfnod 24/7 yn seiliedig ar batrymau shifft y cytunwyd arnynt. Gall hyn fod yn wahanol yn seiliedig ar angen ond bydd disgwyl i bob deiliad swydd gymryd rhan mewn gweithio 24/7 naill ai yn ei brif ganolfan neu i gynorthwyo safleoedd eraill pe bai'r angen yn codi neu fel rhan o'r rota leol y cytunwyd arni. Lle mae angen teithio ychwanegol, bydd hyn yn cael ei ystyried o gwmpas amseroedd dechrau / gorffen a threuliau teithio.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd y Cyhoedd cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw ‘Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru’. Rydym yn chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I gael rhagor o wybodaeth am weithio i ni, y buddion a gynigiwn a'r arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gweithio-i-ni/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwch ddod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person atodedig yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwnewch gais nawr” i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Tystysgrif Cyflawniad IBMS Rhan 1 neu 2, cymwysterau galwedigaethol lefel 4 neu 5, gradd sylfaen (e.e. Gwyddorau Biolegol) neu ddiploma arall neu lefel gyfatebol o wybodaeth, neu brofiad cyfatebol.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad diweddar o weithio mewn labordy Microbioleg neu Labordy Prifysgol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o oruchwylio staff.

Sgiliau

Meini prawf dymunol
  • Gallu blaenoriaethu.
  • Adept at using automation or immunoassay analysers.
  • Knowledge of health and safety

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ellen O'Brien
Teitl y swydd
Hot Lab Operations manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07879038936
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg