Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
TG
Gradd
Band 4
Contract
Cyfnod Penodol: 9 mis (FTC ends 31/03/2025)
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
Cyfeirnod y swydd
025-AC103-0624
Cyflogwr
Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gweithio hybrid
Tref
Lleoliad i’w gadarnhau yn y cyfweliad
Cyflog
£25,524 - £28,010 pa pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Iechyd a Gofal Digidol Cymru logo

Swyddog Cefnogi Rheoli Gwasanaeth

Band 4

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.


Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.


Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais.  Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon ar gyfer cyfnod penodol / yn secondiad ar gyfer 9 mis. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio ar gyfer y swydd secondiad, mae’n rhaid I chi gael caniatad gan eich rheolwr llinell presennol cyn I chi wneud cais am y swydd hon. 

Rheoli’r cymorth gwasanaeth a ddarperir i dîm Rheoli Gwasanaethau TG Iechyd Cymru, er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau effeithlon i’r holl staff a defnyddwyr gwasanaeth. 

I fod â chyfrifoldeb arweiniol dros Iechyd a Diogelwch ar gyfer tîm Rheoli Gwasanaethau TG Iechyd Cymru. 

Rheoli’r systemau sydd ar waith yn IGDC a hyrwyddo ymwybyddiaeth a rhoi arweiniad ar bolisïau, prosesau a gweithdrefnau. 

Cefnogi Byrddau Rheoli Gwasanaethau TG Cenedlaethol a gweithredu fel pwynt cyswllt. 

Cefnogi a dirprwyo ar ran y Rheolwr Swyddfa. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rheoli’r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth gan sicrhau dull cyson ar draws pob Bwrdd Rheoli Gwasanaethau. Blaenoriaethu gwaith fel bod pob agwedd ar y gwasanaethau yn gwbl weithredol, yn amserol ac yn ymatebol. Gall hyn gynnwys cyflawni swyddogaethau gweinyddol i gefnogi swyddogaethau technegol.

Rheoli gofynion gweinyddol a chynorthwyo Arweinwyr Rheoli Gwasanaethau o fewn y sefydliad. Cydlynu apwyntiadau dyddiadur, trefnu cyfarfodydd, cyfathrebu ag ystod eang o gydweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid, gan gynnwys trefnu, gweinyddu a chadw cofnodion ar gyfer Byrddau Rheoli Gwasanaethau TG rheolaidd.

Rhoi cymorth i Arbenigwyr ac Arweinwyr Rheoli Gwasanaethau wrth ddatblygu a defnyddio trefniadau Trosglwyddo a Rheoli Lefel Gwasanaeth.

Defnyddio amrywiaeth o gymwysiadau TG yn rheolaidd i greu adroddiadau ac adroddiadau cynnydd a chynnal systemau gwybodaeth.

Dyletswyddau Warden Tân.

Darparu gwasanaeth Derbynfa a Ffôn pan fo angen.

Dirprwyo ar ran y Rheolwr Swyddfa yn ôl yr angen.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.

Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.

Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster rheoli/gweinyddol neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad lefel uwch perthnasol pellach – addysg a/neu hyfforddiant

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol o gydlynu/cefnogi mewn rôl debyg
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid uwch

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol ardderchog wrth ddelio ag ystod eang o randdeiliaid
  • Yn gallu datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol ar draws timau aml-swyddogaeth a ffiniau sefydliadol.
  • Sgiliau trefnu rhagorol.
  • Gallu rheoli llwythi gwaith cymhleth ac amldasgio mewn amgylcheddau cymhleth a sensitif.
  • Yn gallu defnyddio cymwysiadau bwrdd gwaith i hwyluso’r gwaith
  • Yn gallu teithio i wahanol safleoedd yng Nghymru
Meini prawf dymunol
  • Dangos lefel uchel o gymhelliant.
  • Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveWork With Me - A commitment to becoming a more inclusive business for disabled peopleGold Award for Corporate Health StrategyImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesGood Recruitment CollectiveStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.CTP The Ministry of Defence partnering with Right ManagementDisability confident employerRemploy CymruThe University of Wales Trinity Saint David - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi SantThe Poppy FactoryDying to Work CharterThe Chartered Institute for IT - Reward the professionalism of your team, define and accelerate career paths, and recognise your organisation’s commitment to advancing technology.Federation for Informatics Professionals - A collaboration between the leading professional bodies in health and care informatics supporting the development of the informatics profession.Armed Forces CovenantEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Amanda Howlett
Teitl y swydd
Office Administration Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg