Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
TG
Gradd
Band 6
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
025-AC102-0624
Cyflogwr
Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gweithio Hybrid
Tref
Lleoliad i’w gadarnhau yn y cyfweliad
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flywddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Iechyd a Gofal Digidol Cymru logo

Uwch Ddadansoddwr Cymorth Ffurfweddu

Band 6

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.


Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.


Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais.  Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Fel Uwch Ddadansoddwr Cymorth Ffurfweddu, byddwch yn ffurfweddu ein System Rheoli Gwybodaeth Labordy Cymreig (WLIMS) i ofynion a safonau labordai patholeg ar draws GIG Cymru. Byddwch yn helpu i ddatblygu dogfennaeth ar gyfer cymorth system/defnyddiwr ac yn cyfrannu at ddatblygu prosesau sicrwydd clinigol. Ochr yn ochr â’r dyletswyddau hyn byddwch yn cymryd y rôl arweiniol wrth brofi WLIMS.

Bydd hyn yn cynnwys:

Cymryd rôl arweiniol wrth gynhyrchu data profion a datblygu strategaethau profi perthnasol.
Ysgrifennu a gweithredu cynlluniau prawf a sgriptiau prawf.
Goruchwylio gweithrediad y cynlluniau a’r sgriptiau prawf hynny.
Cydweithio â chyflenwyr trydydd parti a thimau mewnol i sicrhau bod meddalwedd a rhyngwynebau’n cael eu profi’n briodol.
Cynorthwyo tîm cymorth gweithredol WLIMS gyda phob agwedd ar newid gweithredol.

Wrth wneud hynny, byddwch yn dysgu ac yn cyfrannu at fframwaith brofi IGDC a’r rheolau sy’n llywodraethu sut rydym yn profi. Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau trwy gyfrannu at eich Cynllun Datblygu Personol (CDP).

Prif ddyletswyddau'r swydd

Pa feddalwedd fyddwch chi’n ei ffurfweddu a’i phrofi?

Defnyddir System Rheoli Gwybodaeth Labordy Cymru (WLIMS) gan staff patholeg i gofnodi a chyfnewid gwybodaeth megis canlyniadau profion ar gyfer disgyblaethau lluosog. Bydd hyn yn cynnwys trosglwyddo gwybodaeth i gymwysiadau clinigol eraill GIG Cymru i sicrhau dull profi “o un pen i’r llall”.
Intersystems TrakCare Lab a TrakCare Lab Enterprise
Intersystems IRIS
Integreiddio data â chymwysiadau clinigol eraill GIG Cymru a thrydydd parti

Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch chi?

Byddwch yn wrandäwr da, byddwch chi’n gallu dadansoddi gwybodaeth ac yn hyderus wrth ofyn cwestiynau
Profiad o weithio mewn labordy patholeg
Cyfathrebwr da sy’n gallu mynegi eich syniadau a’ch barn yn glir
Byddwch yn gyfforddus yn cymeradwyo cyfnodau prawf. Byddwch yn ofalus wrth ystyried barn pobl eraill ond yn hyderus i amddiffyn eich casgliadau.
Gallu cynnal perthynas â thimau prawf eraill.

·         Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â chefndir yn gweithio mewn labordai diagnostig gyda gwybodaeth am brosesau labordy Patholeg neu Systemau Rheoli Gwybodaeth Labordy, ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau mewn amgylchedd Technoleg Gwybodaeth.

·         Gwybodaeth am y gwahanol ddisgyblaethau Patholeg

·         Gwybodaeth am reoliadau GxP a dilysu systemau

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.

Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.

Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Beth arall sy’n ddefnyddiol?

Mae’r canlynol yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol:

·         Cofrestriad â’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd

·         Profiad o ddefnyddio/profi meddalwedd gofal iechyd

·         Profiad o ddefnyddio InterSystems TrakCare Lab

·         Profiad o ysgrifennu ac adolygu strategaethau a chynlluniau prawf

·         Profiad o ysgrifennu a chynnal sgriptiau prawf

 

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd sy’n gysylltiedig â’r maes clinigol (neu gyfwerth) neu brofiad mewn cefndir patholeg
  • Tystiolaeth o ddatblygiad ôl-raddedig – profiad cyfwerth â hyfforddiant addysg
Meini prawf dymunol
  • Clinigydd Cofrestredig HCPC
  • Ymarferydd ITIL V3 neu wybodaeth a phrofiad cyfatebol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol o ddefnyddio systemau rheoli Gwybodaeth Labordy
  • Profiad o brofi gan gynnwys creu data prawf a darparu mewnbwn i strategaethau, cynlluniau a sgriptiau profi
  • Profiad o greu, addasu a chynnal trefniadau gweithredu safonol (SOPs) a dogfennaeth archwilio i gydymffurfio â rheoliadau’r Sefydliad Rhyngwladol er Safoni (ISO)
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o brofiad o ffurfweddu, dylunio a chefnogi systemau Gwybodaeth a TG

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu cyfathrebu â staff hyd at lefel uwch ar brosesau busnes neu glinigol cymhleth.
  • Yn gallu dysgu technolegau a systemau TG newydd yn gyflym trwy gyrsiau hyfforddi arbenigol ac astudio’n annibynnol
  • Yn gallu trefnu eich gwaith eich hun yn effeithiol a gweithio ar eich pen eich hun

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveWork With Me - A commitment to becoming a more inclusive business for disabled peopleGold Award for Corporate Health StrategyImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesGood Recruitment CollectiveStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.CTP The Ministry of Defence partnering with Right ManagementDisability confident employerRemploy CymruThe University of Wales Trinity Saint David - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi SantThe Poppy FactoryDying to Work CharterThe Chartered Institute for IT - Reward the professionalism of your team, define and accelerate career paths, and recognise your organisation’s commitment to advancing technology.Federation for Informatics Professionals - A collaboration between the leading professional bodies in health and care informatics supporting the development of the informatics profession.Armed Forces CovenantEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Gareth Evans
Teitl y swydd
Diagnostic Applications Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg