Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Endosgopi
Gradd
Gradd 8a
Contract
Secondiad: 2 flynedd (Yn unol â'r cyllid sydd ar gael)
Oriau
  • Rhan-amser
  • Gweithio hyblyg
15 awr yr wythnos (Model gweithio ystwyth i ganiatáu hyblygrwydd rhwng gweithio gartref a gweithio yn y swyddfa.)
Cyfeirnod y swydd
082-NMR002-0425
Cyflogwr
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Tref
Nantgarw
Cyflog
£54,550 - £61,412 Y Flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/04/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) logo

Uwch Nyrs Arweiniol Endosgopi Academi Endosgopi Cymru

Gradd 8a

 

 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn awyddus i benodi Uwch Nyrs Arweiniol Endosgopi profiadol ar gyfer Academi Endosgopi Cymru. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda’r Arweinydd Clinigol a’r Dirprwy Arweinydd i wneud cyfraniad canolog at ddatblygu a darparu rhaglenni hyfforddi o ansawdd uchel ar gyfer gweithlu Endosgopi GIG Cymru. Byddant hefyd yn arwain staff cymorth yr Academi Endosgopi. Mae’r swydd hon yn gyfle unigryw i rywun sydd â phrofiad o weithio ym maes endosgopi, ac sydd â gwybodaeth a phrofiad o ddysgu ac addysg seiliedig ar waith, i lunio dyfodol hyfforddiant endosgopi yng Nghymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r Arweinydd Endosgopi Clinigol.

Mae'r swydd hon yn cael ei chynnig fel cyfle secondiad yn unig. Os dymunwch wneud cais, rhaid i chi gael cymeradwyaeth eich rheolwr llinell cyn ymgeisio. Mae’r swydd hon am gyfnod secondiad penodol ond gellir ei hymestyn neu ei gwneud yn barhaol ar ddiwedd y cyfnod secondiad yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael a’r gofynion busnes.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr Uwch Nyrs Arweiniol Endosgopi yn ganolog i gyflwyno’r rhaglen hyfforddi Endosgopi ar gyfer gweithlu Endosgopi GIG Cymru. Byddant yn datblygu, yn cyflwyno ac yn gwerthuso cyrsiau ar gyfer nyrsys, gweithwyr cymorth gofal iechyd, arweinwyr, rheolwyr a staff gweinyddol. Gan weithio fel rhan o dîm arwain yr Academi ac arwain tîm o staff cymorth, byddant yn datblygu ac yn mireinio llywodraethu’r Academi, yn sicrhau ansawdd gwaith yr Academi, ac yn cefnogi’r gwaith o ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel ledled Cymru. Bydd y cymorth hwn yn cynnwys elfen logistaidd a gweithredol a bydd yn cynnwys teithio i safleoedd ledled Cymru. Byddant yn sicrhau bod yr Academi Endosgopi yn gweithredu o fewn strwythur rhaglen effeithiol, llywodraethu a system fonitro.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y cyfle i gynrychioli Academi Endosgopi Cymru mewn fforymau cenedlaethol, rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid a chyfathrebu’n effeithiol ag amrywiaeth o bartneriaid. Byddant hefyd yn cynrychioli’r Academi mewn grwpiau perthnasol ac yn cysylltu ag academïau endosgopi eraill a Chymdeithas Gastroenteroleg Prydain, gan gynnal statws achredu JAG ar gyfer yr academi trwy gyflwyno allbwn, adborth, a dadansoddi effaith.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a  Saesneg ymgeisio.

 

Gweithio i'n sefydliad

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd.  Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.

 

Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:

- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,

- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,

- Gyda'n Gilydd fel Tîm

 

Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.

 

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:

- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,

- arweinyddiaeth dosturiol,

- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,

- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.

 

Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwch ddod o hyd i Swydd Ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu gallwch glicio “Ymgeisio nawr” i'w gweld drwy gyfrwng Trac.

 

Mae’r swydd hon am secondiad am 2 blwyddyn otherwydd cyllido.

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceiso am swydd secondiad, mae’n rhaid I chi gael caniatad eich rheolwer llinell presennol cyn I chi geisio am y swydd hon.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Wedi derbyn addysg at lefel Gradd Meistr neu brofiad cyfatebol
  • Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • Profiad o ddarparu addysg a hyfforddiant.
  • Cymhwyster neu brofiad arwain.
  • Gwybodaeth am bolisïau iechyd a gofal cymdeithasol cyfredol.
  • Gwybodaeth am Ddyletswydd Ansawdd a safonau a phrosesau rheoleiddio gofal iechyd.
  • Hyfforddiant achrededig JAG Yr Hyfforddwr, JETS Workforce ENDO 1, ENDO 2, hyfforddwr ENDO 3
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster rheoli prosiect , PRINCE2, MSP neu brofiad cyfatebol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad amlwg o weithio yn yr amgylchedd Endosgopi/gastroenteroleg ar Fand 7 neu uwch
  • Profiad o reoli amodau triniaeth Endosgopig cymhleth.
  • Profiad o addysgu a darparu cynnwys ar gyfer rhaglenni hyfforddi gydag ymagwedd gyfunol at ddysgu mewn amgylcheddau clinigol/anghlinigol.
  • Profiad o oruchwylio ac asesu ymarfer mewn amgylchedd ymarfer rhyngbroffesiynol.
  • Dealltwriaeth o ofynion a phrosesau JAG
  • Profiad o ddatblygu polisïau a gweithdrefnau
  • Profiad o arwain a datblygu staff
  • Profiad o weithio'n effeithiol gyda rhanddeiliaid
  • Profiad o reoli tîm yn llwyddiannus
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am yr opsiynau gastroenteroleg a thriniaeth a gynigir o fewn GIG Cymru
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth/profiad o ddatblygu a chomisiynu addysg.
  • Gwybodaeth/profiad o wasanaethau caffael.
  • Gwybodaeth am bolisïau addysg yng Nghymru a'r DU.
  • Tystiolaeth o gyflwyno canfyddiadau ymchwil neu archwilio ar lefel ranbarthol neu genedlaethol, neu o gyhoeddiadau.
  • Profiad o reoli a llywio rhaglenni a phrosiectau llwyddiannus ar lefel uwch

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth dda o brosesau llywodraethu.
  • Dangos ymwybyddiaeth o bolisi cyfredol y GIG a materion gweithredol
  • Rhaid bod yn ymrwymedig i gefnogi gwerthoedd AaGIC
  • Y gallu i deithio o fewn a thu allan i Gymru
Meini prawf dymunol
  • Gallu gweithio oriau hyblyg.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau arwain a threfnu rhagorol
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu effeithiol.
  • Dull strategol a dadansoddol o feddwl gyda sgiliau diagnostig a sgiliau datrys problemau.
  • Sgiliau dylanwadu a thrafod rhagorol
  • Gallu cryf i ysgrifennu papurau briffio a phapurau lefel uchel o safon i uwch reolwyr a phwyllgorau
  • Y gallu i dderbyn gwybodaeth gymhleth
  • Sgiliau cyflwyno rhagorol i gyflwyno ystod o gysyniadau a dadansoddiadau i uwch reolwyr, cyfarwyddwyr, uwch glinigwyr a gweithwyr proffesiynol yn y gymuned iechyd ehangach. Rhaid gallu rheoli lefelau amrywiol o ddealltwriaeth
  • Y gallu i gynhyrchu gwaith o ansawdd rhagorol i derfynau amser tynn ac anodd
  • Y gallu i weithio ar draws ffiniau sefydliadol.
  • Y gallu i ddatblygu perthnasoedd effeithiol ar bob lefel
  • Rheoli amser yn dda, blaenoriaethu ac effeithlonrwydd
  • Sgiliau Ymchwil
  • Y gallu i ddefnyddio pecyn meddalwedd Microsoft Office i lefel ddigon uchel i gefnogi cynhyrchu adroddiadau / cyflwyniadau sy'n aml yn gofyn am gyfathrebu gwybodaeth gymhleth gan gynnwys i gynulleidfaoedd nad ydynt yn arbenigwyr
Meini prawf dymunol
  • Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen, ac ysgrifennu yn y Gymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Stonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionDisability confident committedDying to Work CharterERS Silver Banner WelshEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental health

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Neil Hawkes
Teitl y swydd
Endoscopy Academy of Wales Clinical Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg