Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwasanaethau Caffael
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol: Parahol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Gweithio hybrid (Yn y Swyddfa a Gartref))
- Cyfeirnod y swydd
- 043-AC127-0624
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Dysgu
- Tref
- Nantgarw
- Cyflog
- £25,524 - £28,010 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/55.png)
Swyddog Cynorthwyol Busnes Caffael
Gradd 4
Trosolwg o'r swydd
Os ydych yn chwilio am yrfa ym maes Fflyd a Chludiant Caffael sy'n eich ysgogi, yn cynnig potensial ar gyfer datblygiad personol ac yn eich rhoi mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r GIG Cymru, yna mae gan Wasanaethau Caffael PCGC yrfa a fydd o ddiddordeb i chi.
Mae Gwasanaethau Caffael PCGC yn gyflogwr sefydledig sy'n cefnogi darparu nwyddau a gwasanaethau i GIG Cymru. Ein nod yw bod yn “ymgynghorydd y gellir ymddiried ynddo” ac yn bartner hollbwysig i’n cwsmeriaid ar bob mater yn ymwneud â chaffael. Rydym yn ceisio bod yn sefydliad sy’n cael argraff gadarnhaol ar bobl sy’n gweithio i ni a chyda ni, wrth gydymffurfio â set glir o werthoedd sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn gyflogwr arobryn, ac rydym yn cael ein cydnabod yn rheolaidd yn lleol ac yn genedlaethol am y gwaith a wnawn dros GIG Cymru ym myd caffael.
Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu ein staff ac rydym yn cefnogi datblygiad ein staff bob blwyddyn gyda lefelau gwahanol cymwysterau CIPS. Ein nod yw meddu ar weithlu medrus, ymroddedig a phroffesiynol sy’n cefnogi GIG Cymru ym mhob agwedd ar y broses Caffael i Dalu.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyfrannu at fod yn rhyngwyneb Caffael rhwng Caffael Lleol PCGC a’n cwsmeriaid, a bydd yn cynorthwyo i gynrychioli’r adran ar lefelau amrywiol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cynorthwyo i roi gwybod am statws/blaenoriaeth cynlluniau gwaith categori Fflyd a Chludiant ar draws ein Byrddau Iechyd / Ymddiriedolaethau. Bydd hyn yn cynnwys cysylltu ag adrannau defnyddwyr a PCGC ar bob lefel i hyrwyddo cyfraniad caffael at gynlluniau busnes sefydliadau partner ar y cyfle cyntaf.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r Rheolwr Busnes Caffael i ddarparu gwasanaeth caffael proffesiynol Fflyd a Chludiant i’r Bwrdd Iechyd / Ymddiriedolaeth gan gyfrannu at ddatblygu a chyflawni amcanion y tîm. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r Rheolwr Busnes Caffael ar faterion caffael Fflyd a Chludiant ac ar brosiectau allweddol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym safonau uchel ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn. Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol. Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Gwybodaeth / Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am egwyddorion prynu a chyfraith contractau
Meini prawf dymunol
- Ysgrifennu tendrau a manylebau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gallu pendant i sefydlu a chryfhau perthnasoedd gweithio effeithiol â rhanddeiliaid
Meini prawf dymunol
- Y gallu i weithio o fewn terfynau amser
Y Gallu
Meini prawf hanfodol
- Gallu amlwg i ddefnyddio cynhyrchion Microsoft
Meini prawf dymunol
- Y gallu i ddadansoddi a dehongli setiau data cymhleth
Y Gallu
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
Meini prawf dymunol
- Y gallu i weithio'n gadarnhaol fel rhan o dîm
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am egwyddorion prynu a chyfraith contractau
- Gallu pendant i sefydlu a chryfhau perthnasoedd gweithio effeithiol â rhanddeiliaid
Meini prawf dymunol
- Ysgrifennu tendrau a manylebau
- Y gallu i weithio o fewn terfynau amser.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
- Gallu amlwg i ddefnyddio cynhyrchion Microsoft
Meini prawf dymunol
- Y gallu i weithio'n gadarnhaol fel rhan o dîm.
- Y gallu i ddadansoddi a dehongli setiau data cymhleth.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lynsey Reynolds
- Teitl y swydd
- Procurement Business Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector