Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwasanaeth caffael - Cadwyn Gyflenwi
- Gradd
- Band 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 043-AC135-0724
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Parc Imperial
- Tref
- Casnewydd
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 18/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/55.png)
Rheolwr Cynorthwyol y Gadwyn Gyflenwi
Band 5
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Fel Rheolwr Cynorthwyol y Gadwyn Gyflenwi ar gyfer Rheoli Deunyddiau, ledled De/Dwyrain/Gorllewin Cymru, rôl deiliad y swydd yw cynorthwyo Rheolwr Ardal y Gadwyn Gyflenwi i alluogi defnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau, gan ganiatáu darparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol, mewn meysydd megis Ansawdd, Rheoli Stoc, Gwydnwch Stoc, mewn sefydliadau Mewnol ac Allanol, Cyfuno Arferion, gan wneud y mwyaf o gyfleoedd lle bynnag y bo modd, gan sicrhau bod targedau a'r hyn y gellir ei gyflawni yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus.
Cefnogi Uwch Dîm Arwain Gwasanaethau Caffael PCGC ar y cynlluniau busnes lleol ac ehangach gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu cynllun cyflawni blynyddol y sefydliad a’r strategaethau a nodir yn ei Gynllun Tymor Canolig Integredig.
Bydd Rheolwr Ardal Cynorthwyol y Gadwyn Gyflenwi yn cynorthwyo Rheolwr Ardal y Gadwyn Gyflenwi i rwydweithio a chydweithio â gwahanol randdeiliaid, partneriaid a chontractwyr. Mae'r gallu i gyfathrebu â'r holl randdeiliaid allweddol a sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol yn agwedd sylfaenol o’r rôl hon.
Dylech ddangos dealltwriaeth dda o systemau rheoli stocrestrau a warysau'r GIG, Systemau Rheoli Dogfennau Ansawdd Busnes.
Mae angen personoliaeth wydn a thystiolaeth o ddarparu atebion creadigol ac arloesol er mwyn llwyddo yn y rôl hon.
Mae'r gallu i deithio rhwng safleoedd yn Hanfodol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Datblygu a rheoli proses y Gadwyn Gyflenwi yn effeithiol mewn lleoliadau Cadwyn Gyflenwi amrywiol yn Ne-orllewin Cymru
• Gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Ardal a Rhanbarthol i roi adborth o wybodaeth o ansawdd a diweddariadau ar faterion ym mhob un o'r safleoedd dynodedig.
• Rheoli salwch staff yn effeithiol yn unol â'r polisi Rheoli Presenoldeb yn y Gwaith.
• Yn gallu teithio i leoliadau’r Gadwyn Gyflenwi, Logisteg a Chludiant (SCLT) ledled Cymru (Bydd cerbyd yn cael ei ddarparu, neu bydd treuliau'n cael eu had-dalu - Bydd angen yswiriant busnes i ddefnyddio'ch cerbyd eich hun).
• Cyfrannu at gyfeiriad strategol cyffredinol yr adran gan gadw at fframwaith ISO /Ansawdd yr adran.
• Adolygu Perfformiad Staff, gwerthuso a gweithredu lle bo angen.
• Dirprwyo ar gyfer Rheolwr Ardal y Gadwyn Gyflenwi yn ôl yr angen
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym safonau uchel ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn. Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol. Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
|
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Yn gymwys hyd at MCIPS (Lefel 5-6)/NVQ4, neu'n gweithio tuag at y cymhwyster
- Profiad rheoli blaenorol mewn amgylchedd logisteg
- Cymwys wrth gymhwyso Polisïau a Gweithdrefnau'r Ymddiriedolaeth
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Rheoli
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o fonitro Perfformiad a Gwelliannau Busnes
Meini prawf dymunol
- Hanes amlwg mewn rheoli Oracle FMS, a Gweinyddu Systemau
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau trefnu rhagorol
- Yn gallu blaenoriaethu a chwrdd â therfynau amser
- Hanes amlwg o ddatrys problemau
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rob Watts
- Teitl y swydd
- Regional Supply Chain Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07818 419513
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector