Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Y Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru)
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 18.75 awr yr wythnos (oriau gwaith i'w cytuno ar apwyntiad)
Cyfeirnod y swydd
028-AC147-0524-A
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Casnewydd/Caerdydd/Abertawe
Tref
Casnewydd/Caerdydd/Abertawe
Cyflog
£25,524 - £28,010 Y Flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Uwch Swyddog Gweinyddol ac Adnoddau

Gradd 4

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle gwych wedi codi i unigolyn brwd, brwdfrydig, uchel ei gymhelliant ymuno â’r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) fel Cynorthwyydd Personol/Uwch Swyddog Gweinyddol ac Adnoddau.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau cyfathrebu a threfnu da, ac sydd a'r gallu i weithio'n hyblyg gan ddarparu cefnogaeth i raglen cynllun gwaith y tîm ar yr un pryd.   Mae sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys defnyddio Microsoft Word, PowerPoint, ac Excel yn hanfodol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl hon bydd gennych brofiad amlwg o ddarparu cefnogaeth Cynorthwyydd Personol neu gyfwerth a byddwch yn gallu dangos sylw i fanylion a byddwch yn gymwys wrth reoli dyddiadur ac wrth gymryd cofnodion sy'n rhan allweddol o'r rôl. Bydd gennych sgiliau personol a rhyngbersonol rhagorol hefyd (ar lafar ac yn ysgrifenedig) a byddwch yn gallu ymgysylltu â rhanddeiliaid ar bob lefel ledled Cymru.

Gweithio i'n sefydliad

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon

 

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

 

Byddwch yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid allanol a rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.  Mae lleoliad y swyddfa i'w gytuno ar benodiad llwyddiannus gyda'r disgwyl o weithio hybrid.

Manyleb y person

CYMWYSTER AU

Meini prawf hanfodol
  • Bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar RSA III/NVQ Lefel 3 neu lefel gyfatebol o brofiad,
  • ynghyd â lefel uchel o rifedd, Saesneg ysgrifenedig a llafar
Meini prawf dymunol
  • ECDL Uwch

PROFIAD

Meini prawf hanfodol
  • Profiad amlwg mewn rôl weinyddol
  • Profiad blaenorol o weithio gyda systemau ariannol a/neu brynu nwyddau neu gyfarpar
  • Profiad o ddelio â data cyfrinachol a sensitif a chynnal a chadw a storio cofnodion yn briodol
  • Profiad o drawsgrifio a chymryd cofnodion
  • Profiad o weithio gyda Microsoft Office
Meini prawf dymunol
  • Gweithio yn amgylchedd y GIG

SGILIAU

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio ar eich pen eich hun a rheoli eich llwyth gwaith eich hun
  • Sgiliau bysellfwrdd datblygedig
  • Sgiliau cyfathrebu a

Nodweddion Personol

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio o fewn terfynau amser a than bwysau
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun
Meini prawf dymunol
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Other

Meini prawf hanfodol
  • Y parodrwydd a'r gallu i deithio rhwng safleoedd

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jacqueline Challenger
Teitl y swydd
Safeguarding Business Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07966 748335
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg