Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Cymorth Systemau a Gwasanaethau Warws
Gradd 3
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn Gwasanaethau Caffael, y Gadwyn Gyflenwi, Logisteg a Chludiant Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC). Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa mewn amgylchedd deinamig, heriol a phroffil uchel yn genedlaethol. Bydd angen personoliaeth wydn arnoch a byddwch yn gallu talu sylw manwl i fanylion. Bydd angen hanes o gefnogi datrysiadau gweithio creadigol ac arloesol i fod yn llwyddiannus yn y rôl hon hefyd,
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
"Bydd y Cynorthwyydd Cymorth Systemau/Gwasanaethau Warws yn darparu cefnogaeth ar draws 3 adran a 2 safle:
Tîm Cymorth Gwasanaeth Warws (WSST) - Casnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr
Tîm Systemau Cadwyn Gyflenwi - Casnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr
Sganio Er Diogelwch (Supply X) - Pen-y-bont ar Ogwr
Trefnu a gweithredu ystod o systemau/dyletswyddau gweinyddol ar ran Cadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC)."
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym safonau uchel ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn. Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol. Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau/Profiad
Meini prawf hanfodol
- NVQ Lefel 3 Gwasanaethau Cwsmeriaid a/neu brofiad perthnasol.
Meini prawf dymunol
- Profiad sylweddol o ddefnyddio System Rheoli Ariannol Oracle.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu blaenoriaethu gofynion cymhleth a allai gystadlu â’i gilydd.
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddatrysiadau Qlikview/Qlik Sense (neu debyg) a SQL
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sara Taylor
- Teitl y swydd
- Supply Chain Systems Manager All Wales
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07522 508294
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector