Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaethau Sgrinio
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Bydd yr oriau a weithir ar sail rota rhwng 07:00 a 20:00, o bryd i'w gilydd ar benwythnosau a bydd angen aros dros nos)
Cyfeirnod y swydd
028-ACS021-0724
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Ladywell
Tref
Y Drenewydd
Cyflog
£25,524 - £28,010 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
25/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
29/07/2024

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd – Graddiwr Sgriniwr

Gradd 4

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW) yn sefydlu tîm rhanbarthol newydd yn y Drenewydd, Powys, fel rhan o’n prosiect trawsnewid Canolbarth Cymru. Dyma’ch cyfle i fod yn aelod o dîm deinamig sy’n ymroddedig i ddarparu gwasanaeth sgrinio rhagorol, gan sicrhau mynediad cyfartal i wasanaethau sgrinio llygaid ledled Cymru.

Ymghylch y Rôl:

Rydym yn chwilio am Weithiwyr Cymorth Gofal Iechyd brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n tîm newydd i ymgymryd â sgrinio retinol. Mae'r swydd hon yn cynnwys sgrinio a graddio retinol ar gylchdro, gyda phrif ffocws ar sgrinio. Rydym yn chwilio am unigolion sy'n angerddol am ddarparu gofal o ansawdd uchel ac sy'n ymroddedig i wella gwasanaethau’n barhaus.

Darperir dolen i’r rhaglen isod:

Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru - Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales)

Mae 'Trwydded yrru  lawn a dilys y DU' yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Cyfweliadau wyneb yn wyneb. Ni fydd cyfweliadau ar-lein yn cael eu hystyried.

Cynhelir y cyfweliadau dydd Mawrth 6 Awst.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Arwain cyfranogwyr trwy apwyntiadau sgrinio, gan gadw cofnodion cywir.
  • Gweinyddu diferion llygaid a gwirio ymlediad cannwyll y llygaid yn fanwl gywir o fewn terfynau amser penodedig.
  • Cymryd delweddau digidol o ansawdd uchel o'r retina gan ddefnyddio camerâu arbenigol.
  • Darparu graddio sylfaenol ac eilaidd i nodi nodweddion risg retinopathi diabetig.
  • Glynu'n gaeth at brotocolau DESW a gweithdrefnau gweithredu safonol.
  • Gweithio tuag at ennill Diploma mewn sgrinio retinol i ymarfer yn annibynnol, gyda hyfforddiant a chefnogaeth lawn yn cael eu darparu.

Sgiliau a Phrofiad Dymunol:

  • Mae sgiliau cyfathrebu rhagorol a dull sy'n canolbwyntio ar y claf yn hanfodol.
  • Mae profiad gyda chamerâu digidol SLR yn ddymunol; byddai profiad blaenorol gyda chamerâu ffwndws y retina yn fanteisiol.
  • Hyblygrwydd i yrru Cerbyd Nwyddau Ysgafn yr Ymddiriedolaeth yn ddyddiol i leoliadau clinig ar draws Powys yn bennaf ac ymweld â rhanbarthau eraill yng Nghymru  weithiau. 

Gweler y swydd-ddisgrifiad a manyleb y person am ragor o fanylion.

Gweithio i'n sefydliad

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Mae TGAU (Saesneg Iaith a Mathemateg yn ddymunol) neu HND neu NVQ Lefel 2 (llythrennedd a rhifedd yn ddymunol) neu addysg gyfatebol mewn pwnc Gofal Iechyd perthnasol neu ffotograffiaeth, neu brofiad cyfatebol perthnasol.
  • Ymrwymiad i ddysgu parhaus / tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • Addysg gyffredinol o safon dda.
Meini prawf dymunol
  • Diploma mewn Sgrinio Iechyd / Graddio Retinol
  • Cymhwyster proffesiynol – ffotograffiaeth feddygol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad iechyd neu ofal cymdeithasol
  • Tîm amlddisgyblaethol yn gweithio
  • Cyswllt uniongyrchol i gleifion / rôl sy'n wynebu cwsmeriaid
Meini prawf dymunol
  • Ffotograffiaeth ymarferol
  • Profiad offthalmoleg
  • Profiad o systemau a phrosesau ansawdd.

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio fel rhan o dim.
  • Yn llythrennog mewn cyfrifiadureg – yn arbennig pecynnau Windows
  • Y gallu i weithio dan bwysau
  • Lefel dda o fedrusrwydd corfforol
  • Ability to work methodically and demonstrate good attention to detail.
Meini prawf dymunol
  • Ymwybyddiaeth o ganllawiau codi a chario
  • Dealltwriaeth o fewnforio / allforio data drwy rwydweithiau

Gwybodaeth Arbennig

Meini prawf hanfodol
  • Deall pwysigrwydd dilyn prosesau / canllawiau
  • Diddordeb mewn ffotograffiaeth a/neu wasanaethau sgrinio
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o glefyd llygaid diabetig.
  • Anatomeg y llygad.
  • Dealltwriaeth o ddiabetes.

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Agwedd gydymdeimladol tuag at gleifion
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Agwedd gyfrifol tuag at gyfrinachedd cleifion

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Golwg lliw arferol i gwblhau asesiadau sy'n cynnwys defnyddio meddalwedd er mwyn archwilio delweddau o’r retina mewn lliwiau penodol.
  • Mae trwydded yrru lawn yn hanfodol gan y bydd gofyniad i yrru cerbyd nwyddau ysgafn bob dydd, a ddarperir gan Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Agwedd hyblyg at oriau gwaith Y gallu i deithio ledled Cymru ac aros dros nos.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o yrru cerbydau nwyddau ysgafn (LGV)
  • Welsh language speaker

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Catherine Finn
Teitl y swydd
Regional Nurse Coordinator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07385392620
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Kathryn Hughes

DESW Programme Manager

[email protected]

07875489637

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg