Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Uwch Sgrinio Retinal, Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Bydd yr oriau a weithir ar sail rota rhwng 07:00 a 20:00, o bryd i'w gilydd ar benwythnosau a bydd angen aros dros nos)
- Cyfeirnod y swydd
- 028-AC449-0724
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Ladywell
- Tref
- Y Drenewydd
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 25/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 29/07/2024
Teitl cyflogwr
![Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/200.png)
Uwch Sgrîn Retinal
Gradd 5
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW) yn sefydlu tîm rhanbarthol newydd yn y Drenewydd, Powys, fel rhan o’n prosiect trawsnewid Canolbarth Cymru. Dyma’ch cyfle i fod yn aelod o dîm deinamig sy’n ymroddedig i ddarparu gwasanaeth sgrinio rhagorol, a sicrhau mynediad cyfartal i wasanaethau sgrinio llygaid ledled Cymru.
Am y Rôl:
Rydym yn chwilio am uwch sgriniwr retinol brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n tîm newydd. Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n brofiadol wrth arwain tîm, yn gyfathrebwr rhagorol, ac yn ddatryswr problemau cymwys, yn ogystal â rhywun sy’n meddu ar y gallu i fod yn ymarferol ac yn hyblyg wrth deithio ledled Canolbarth Cymru.
Darperir dolen i’r rhaglen isod:
Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru - Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales)
Mae 'Trwydded yrru weithredol lawn a dilys y DU' yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Cyfweliadau wyneb yn wyneb. Ni fydd cyfweliadau ar-lein yn cael eu hystyried.
Cynhelir y cyfweliadau dydd Mawrth 6 Awst.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyfrifoldebau Allweddol:
- Bod yn rheolwr llinell ar garfan o weithwyr cymorth gofal iechyd sy’n ymgymryd â gwaith sgrinio
- Cefnogi cyflenwi gwasanaethau, ymateb i faterion gweithredol lleol (e.e. danfon stoc ac offer i safleoedd anghysbell, trefnu atgyweirio cerbydau).
- Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn hynod weladwy er mwyn cynnal cysylltiadau cyfathrebu cryf â'i staff ei hun ac unigolion ar draws tîm ehangach Cymru Gyfan.
- Rheoli tîm o ddydd i ddydd; gan gynnwys absenoldebau, hyfforddiant, datblygiad a pherfformiad.
- Cyflwyno clinigau’n uniongyrchol yn rôl sgriniwr ar sail rota, yn ogystal â chefnogi’r tîm i arwain cyfranogwyr trwy apwyntiadau sgrinio, gan gadw cofnodion cywir (gweinyddu diferion llygaid a chymryd delweddau o’r retina).
- Sicrhau y cedwir at brotocolau DESW a gweithdrefnau gweithredu safonol.
- Gweithio tuag at ennill Diploma mewn sgrinio retinol i ymarfer yn annibynnol, gyda hyfforddiant a chefnogaeth lawn yn cael eu darparu.
Sgiliau a Phrofiad Dymunol:
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol a phrofiad o arwain tîm (o fewn amgylchedd gofal iechyd yn fanteisiol)
- Mae profiad gyda chamerâu digidol SLR yn ddymunol; byddai profiad blaenorol gyda chamerâu ffwndws y retina yn fanteisiol.
- Hyblygrwydd i yrru Cerbyd Nwyddau Ysgafn yr Ymddiriedolaeth yn ddyddiol i leoliadau clinig ar draws Powys yn bennaf a theithio i ranbarthau eraill yng Nghymru weithiau.
Gweler y swydd-ddisgrifiad a manyleb y person am ragor o fanylion.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
CYMWYSTERAU
Meini prawf hanfodol
- TGAU, Diploma Cenedlaethol Uwch neu gymhwyster / profiad cyfatebol mewn Iechyd, Gofal Cymdeithasol neu Ffotograffiaeth.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster proffesiynol – Ffotograffiaeth Meddygol. Cymhwyster rheoli
PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Ffotograffiaeth ymarferol
- Gweithio mewn tim amlddisgyblaethol
Meini prawf dymunol
- Profiad o oruchwylio a hyfforddi staff
- Dealltwriaeth o Lywodraethu Clinigol ac amgylchedd dysgu.
- Profiad o weithio yn y GIG / y maes Offthalmoleg
- Cyswllt uniongyrchol a chleifion/rol sy'n golygu dod i gysylltiad a chwsmeriaid
SGILIAU/GWYBODAETH ARBENNIG
Meini prawf hanfodol
- Dangos dealltwriaeth o ddal delweddau retinol
- Dangos gwybodaeth gadarn o weithio mewn amgylchedd clinigol
- Arddangos llythrennedd cyfrifiadurol o safon uchel, sy’n ymwneud a delweddu digidol yn benodol.
- Arddangos sgiliau trefnu o safon uchel.
- Yn gallu rheoli ac ailflaenoriaethu gwaith ar fyr rybydd
Meini prawf dymunol
- Dangos awydd i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol ymhellach.
- Dealltwriaeth o fewnforio / allforio data
- Dealltwriaeth o’r clefyd llygaid diabetig.
- Anatomeg y llygaid.
- Dealltwriaeth o ddiabetes.
RHINWEDDAU PERSONOL (Y gellir eu profi)
Meini prawf hanfodol
- Cyfathrebydd medrus
- Yn gallu ysgogi a dylanwadu ar eraill ar bob lefel o’r sefydliad.
- Yn gallu datblygu a chynnal cysylltiadau gweithio amlddisgyblaethol effeithiol.
- Yn gallu rhannu a throsglwyddo sgiliau i aelodau eraill o’r tim.
- Agwedd gydymdeimladol tuag at gleifion
ARALL (Nodwch)
Meini prawf hanfodol
- Golwg lliw arferol
- Trwydded yrru lawn.
- Agwedd hyblyg tuag at oriau gwaith
- Yn barod i deithio ledled Cymru.
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Catherine Finn
- Teitl y swydd
- Regional Nurse Coordinator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07385392620
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Kathryn Hughes
DESW Programme Manager
07875489637
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector